Back
Gwefan newydd i gefnogi pobl hŷn yng Nghaerdydd i fyw'n dda

29/9/23
 
Mae gwefan newydd sy'n dda i bobl hŷn wedi'i lansio yng Nghaerdydd, i gyd-fynd â
Diwrnod Rhyngwladol Pobl Hŷn blynyddol y Cenhedloedd Unedig (1 Hydref).

 

Dechreuodd dathliad deuddydd arbennig yn Hyb y Llyfrgell Ganolog heddiw trwy gyflwyno gwefan Caerdydd sy’n Dda i Bobl Hŷn https://agefriendlycardiff.co.uk/?lang=cy - siop un stop o wybodaeth ac adnoddau defnyddiol i gefnogi pobl hŷn sy'n byw yn y ddinas.

 

Mae Caerdydd sy’n Dda i Bobl Hŷn yn rhwydwaith o sefydliadau sy'n cynnwys Cyngor Caerdydd, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, Gwasanaeth Tân ac Achub De-ddwyrain Cymru, partneriaid yn y trydydd sector a gwasanaethau eraill sydd wedi ymrwymo i wneud y ddinas yn lle gwell i dyfu'n hŷn.

Mae'r rhwydwaith wedi bod yn gweithio tuag at wneud Caerdydd yn lle gwell i bobl hŷn ar gyfer preswylwyr ac ymwelwyr ers nifer o flynyddoedd a'r llynedd, ymunodd y ddinas â Rhwydwaith Byd-eang Dinasoedd a Chymunedau sy'n Dda i Bobl Hŷn Sefydliad Iechyd y Byd, gan ddod yr aelod cyntaf o Gymru.

Roedd lansiad y wefan heddiw yn dangos nodweddion y wefan, sydd wedi'i chynllunio i helpu pobl hŷn yng Nghaerdydd i fyw'n dda trwy ddarparu gwybodaeth am wasanaethau, gweithgareddau a chymorth lleol.

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol (Oedolion) a Hyrwyddwr Pobl Hŷn, y Cynghorydd Norma Mackie:  “Gan weithio gyda’n partneriaid, mae’r Cyngor wedi ymrwymo at wneud ein dinas yn lle gwell i’n pobl hŷn fyw a ffynnu ynddo.

“Rydym am sicrhau bod pobl hŷn yn gallu mwynhau pob agwedd ar fywyd y ddinas a'u bod yn cael cyfleoedd i gymryd rhan mewn gweithgareddau a digwyddiadau i wella eu lles ac i gyfoethogi eu bywydau.

"Yn aml iawn, gall fod yn anodd gwybod ble i fynd am wybodaeth a chymorth am yr hyn sydd ar gael ond mae gwefan newydd Caerdydd sy'n Dda i Bobl Hŷn yn datrys y broblem honno. Mae'n adnodd gwych, yn llawn gwybodaeth ddefnyddiol, i gefnogi pobl hŷn i fyw'n dda."

 

Roedd y digwyddiad hefyd yn cynnwys gweithdy Amgueddfa Cymru a stondinau gwybodaeth sy'n cynrychioli gwasanaethau'r Cyngor a phartneriaid fel Dewis, Age Cymru, Heddlu De Cymru, Caerdydd sy'n Deall Dementia a mwy.

 

Roedd Tîm Digidol y Cyngor ar gael yn y digwyddiad i gefnogi unrhyw un oedd yn bresennol a allai fod angen rhywfaint o help i gael mynediad i'r wefan, neu gyda chymorth cyffredinol i ddefnyddio dyfeisiau digidol.

 

Yn dilyn Wythnos Ymwybyddiaeth Cwympiadau yr wythnos ddiwethaf (18-24 Medi), cynhaliwyd 'Ffocws ar Gwympiadau'  ar drydydd llawr yr hyb lle roedd gwasanaethau'r cyngor, fel gwasanaethau Byw'n Annibynnol a phartneriaid gan gynnwys Iechyd Cyhoeddus Cymru ar gael i gefnogi pobl.

 

Roedd y Gwasanaethau Byw'n Annibynnol yn arddangos yr ystod eang o wasanaethau a ddarperir i helpu i gadw pobl hŷn yn actif ac yn gysylltiedig â'u cymuned.

 

Bydd y dathliadau lansio yn parhau yfory (dydd Sadwrn) yn Hyb y Llyfrgell Ganolog (11am – 2pm) gyda mwy o weithdai a stondinau yn hyrwyddo gwybodaeth a gwasanaethau i bobl hŷn.