Back
Diweddariad Cyngor Caerdydd: 29 Medi 2023

Dyma'ch diweddariad dydd Gwener, yn cynnwys:

  • Sid y ci achub - o Gartref Cŵn Caerdydd i Heddlu De Cymru
  • Stryd Wood a Sgwâr Canolog - ail wobr fawr i'r cynllun adnewyddu
  • Parc Drovers Way - gwaith adnewyddu'r ardal chwarae i gychwyn wythnos nesa

 

Ci wedi'i adael yw'r diweddaraf i gael ei recriwtio gan Heddlu De Cymru

Mae ci wedi'i adael a ddarganfuwyd yn crwydro strydoedd Llaneirwg yng Nghaerdydd ac yna'i dderbyn gan Gartref Cŵn Caerdydd, wedi dod yn un o recriwtiaid newydd Heddlu De Cymru.

Mae tîm y Cartref Cŵn yn gweithio'n agos gyda Heddlu De Cymru, a gwelsant fod gan y Belgian Malinois o'r enw Sid, yr holl nodweddion sydd eu hangen i fod yn gi heddlu.

Pan ddaeth Sid ar gael i'w fabwysiadu, penderfynwyd y byddai'n ymuno â Heddlu De Cymru dros dro i weld a allai lwyddo yn yr asesiadau.

Gyda chymorth ymroddedig ei driniwr a'r hyfforddwyr eraill, pasiodd Sid yn llwyddiannus ac mae bellach yn gi heddlu cyffredinol trwyddedig, sy'n barod i weithio gyda'i driniwr Andrew i gadw de Cymru'n ddiogel.

Dywedodd Aelod Cabinet Caerdydd sydd â chyfrifoldeb dros Gartref Cŵn Caerdydd, y Cynghorydd Dan De'Ath: "Mae'r tîm yng Nghartref Cŵn Caerdydd yn gweithio'n galed i baru'r cŵn cywir â'r cartrefi newydd cywir ac mae'r hyn y mae Sid wedi'i gyflawni yn dangos y gall hynny drawsnewid bywyd ci crwydr nad oes neb ei eisiau. Mae perthynas waith ardderchog rhwng y Cartref a'n cydweithwyr yn Heddlu De Cymru ac rydym i gyd wrth ein bodd bod Sid bellach mewn swydd a bod ganddo fywyd newydd gyda'i driniwr, Andrew."

Dywedodd yr Arolygydd Elen Reeves: "Mae wedi bod yn gymaint o bleser gwylio PD Sid yn datblygu yn ei hyfforddiant ers ymuno â Heddlu De Cymru, lle dechreuodd fel ci wedi'i adael, yn crwydro strydoedd Caerdydd i ddod yn aelod annwyl a gwerthfawr o Dîm Heddlu De Cymru, lle rydym yn gobeithio y bydd yn cael gyrfa hir a hapus gyda ni yma yn yr adran gŵn.

"Rwy'n hynod ddiolchgar am y gwaith y mae Cartref Cŵn Caerdydd yn ei wneud a'r gefnogaeth y maent yn ei rhoi i ni. Mae Sid yn enghraifft wych o'r bartneriaeth sydd gennym."

Os ydych yn credu y gallech ddarparu cartref am byth i un o'r cŵn sy'n derbyn gofal gan Gartref Cŵn Caerdydd ar hyn o bryd, ewch i:

https://www.cardiffdogshome.co.uk/cy/

 

Ail Wobr Fawr i Gynllun Stryd Wood a Sgwâr Canolog Caerdydd

Mae Cynllun Stryd Wood a Sgwâr Canolog Caerdydd wedi ennill ail wobr peirianneg sifil bwysig.

Ym mis Mehefin eleni, enillodd Wobr Prosiect Sifil y Flwyddyn, ac erbyn hyn hefyd y Wobr Cynaliadwyedd yng Ngwobrau Peirianneg Sifil Ice Cymru 2023 ddydd Gwener 22 Medi.

Mae'r Gwobrau Peirianneg Sifil yn cydnabod unigolion a sefydliadau am arloesi, peirianneg glyfar, a chynaliadwyedd yn y diwydiant yng Nghymru.

Rhoddir y wobr am drawsnewid Stryd Wood, sy'n cynnwys trefn ffyrdd newydd; lonydd bysiau newydd; gerddi glaw i reoli draenio dŵr wyneb; gwelliannau i'r ardal gyhoeddus a rhwydwaith priffyrdd sy'n rhoi blaenoriaeth i fysiau, yn barod cyn agor y Gyfnewidfa Drafnidiaeth newydd i'r cyhoedd.

Contractwyr y Cyngor ARUP wnaeth gyflwyno'r cais, a Chyngor Caerdydd a Knights Brown wnaeth ei roi ar waith. Mae Gwobr Cynaliadwyedd Bill Ward yn asesu egwyddorion cynaliadwyedd a manteision economaidd a chymdeithasol tra y bydd cynllun yn cael ei roi ar waith ac yn dilyn ei gwblhau.

Dwedodd yr Aelod Cabinet dros Gynllunio Strategol a Thrafnidiaeth, y Cynghorydd Dan De'Ath:   "Dyma'r ail wobr y mae'r cynllun hwn wedi'i hennill ac mae'n dyst i'r holl waith caled a wnaed gan ein staff a'n contractwyr.

"Mae'r cynllun yn defnyddio'r peirianwaith diweddaraf i reoli draenio dŵr wyneb, gyda chyfres o erddi glaw a phridd a phlannu penodol sy'n glanhau dŵr glaw - felly does dim rhaid ei bwmpio i'r safle trin carthion -  ateb cynaliadwy sy'n arbed amser ac arian."

Darllenwch fwy yma

 

Gwaith i ddechrau ar Ardal Chwarae newydd yn Drovers Way

Disgwylir i'r gwaith o ailwampio ardal chwarae 'ar thema dŵr' yn Drovers Way yn Radur ddechrau ar 2 Hydref, ar ôl cwblhau'r gwaith i ddatrys problemau draenio ar y safle.

Yn addas i blant bach ac iau, ynghyd â chwarae hygyrch, bydd yr ardal chwarae ar ffurf 'tonnau bach a phyllau dŵr' a bydd yn cynnwys cynllun newydd gydag arwyneb diogelwch rwber, pafin, a seddi newydd.

Bydd offer chwarae newydd hefyd yn cael eu gosod, gan gynnwys siglenni, mat bownsio, carwsel hygyrch, troellwyr, aml-uned gyda sleid, teganau sbring, ac elfennau chwarae dychmygus.

Dwedodd yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant, Parciau a Digwyddiadau, y Cynghorydd Jennifer Burke:  "Mae angen i blant chwarae, a gall cael mynediad i ardal chwarae o ansawdd da, yn agos at gartref, wneud gwahaniaeth mawr iawn i deuluoedd. Dyna pam rydym yn parhau i fuddsoddi mewn ardaloedd chwarae lleol ledled y ddinas, gan greu mannau diogel, hygyrch a llawn hwyl i blant eu mwynhau."

Mae disgwyl i'r gwaith o adnewyddu ardal chwarae Drovers Way gael ei gwblhau erbyn dechrau 2024.