Back
Ymestyn y cyfnod y mae’n rhaid cau Neuadd Dewi Sant dros dro – Datganiad Cyngor Caerdydd

02/10/23


Mae'r cyfnod y mae'n rhaid cau Neuadd Dewi Sant dros dro wedi cael ei ymestyn i ganiatáu mwy o amser i gwblhau'r gwiriadau ychwanegol ar y paneli Concrit Awyredig Awtoclafiedig Cydnerth yn yr adeilad, ac i gymryd y camau nesaf angenrheidiol.

Fel y nodwyd yn flaenorol ar 7 Medi, gwnaed y penderfyniad i gau'r neuadd dros dro yng ngoleuni'r newid diweddar i gyngor ar CAAD mewn adeiladau cyhoeddus a gyhoeddwyd gan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch ac yn dilyn trafodaethau pellach gyda pheirianwyr strwythurol annibynnol a benodwyd gan y Cyngor, ac yswirwyr y cyngor.

Ers cau Neuadd Dewi Sant dros dro, rydym wedi dod â pheirianwyr strwythurol - sy'n arbenigwyr CAAD - yn ôl ar y safle i wneud profion newydd ar baneli CAAD yn yr adeilad.

Disgwylir i'r peirianwyr strwythurol ddod â'u harolygiadau i ben yn ystod yr wythnosau nesaf, ac ar ôl hynny bydd y canlyniadau'n cael eu rhannu â ni.  Yna bydd yn rhaid i ni adolygu canfyddiadau'r arolygiadau yn ofalus a chynllunio'r camau nesaf angenrheidiol. 

Rydym yn disgwyl i'r weithdrefn hon gael ei chwblhau yn ystod y tair wythnos nesaf, sy'n golygu y bydd perfformiadau pellach yn cael eu gohirio, yn ogystal â'r rhai a ohiriwyd ar ôl y cyfnod cau dros dro ar 7 Medi. Byddwn yn ceisio ailagor y Neuadd cyn gynted â phosibl, yn dibynnu ar unrhyw gamau y gallai fod eu hangen neu na fydd eu hangen. 

Fel y gwnaethom yn gynnar ym mis Medi, byddwn yn cysylltu â hyrwyddwyr a chyflogwyr i drafod y potensial ar gyfer aildrefnu perfformiadau.  Byddwn hefyd yn adolygu pob opsiwn arall, gan gynnwys adleoli cynyrchiadau os yw'n ymarferol.  Eto, nid oes angen i gwsmeriaid gysylltu â Neuadd Dewi Sant, byddwn yn cysylltu â'r holl ddeiliaid tocynnau am yr opsiynau sydd ar gael i chi unwaith y byddwn wedi siarad â hyrwyddwr y sioeau yr effeithir arnynt.  Byddem yn ddiolchgar pe gallai cwsmeriaid roi'r amser i staff Neuadd Dewi Sant ymgymryd â'r gwaith hwn fel y gallwn ddod yn ôl atynt cyn gynted â phosibl am docynnau a brynwyd a digwyddiadau a ohiriwyd.

Mae'r cyngor wedi bod yn ymwybodol o CAAD yn Neuadd Dewi Sant a'r angen i'w reoli o safbwynt iechyd a diogelwch ers 2021, ac mae bob amser wedi dilyn canllawiau a chyngor y llywodraeth i sicrhau bod yr adeilad yn ddiogel.

Mae strategaeth rheoli adeiladau ac iechyd a diogelwch wedi bod ar waith yn y lleoliad am y deunaw mis diwethaf.  Roedd hyn yn cynnwys archwiliadau rheolaidd gan beirianwyr strwythurol annibynnol gydag arbenigedd CAAD penodol.

Trwy gydol y cyfnod hwn ni chodwyd unrhyw faterion am gyflwr CAAD yn yr adeilad ac nid oedd tystiolaeth o ddirywiad - ac mae hyn yn wir o hyd.

Fodd bynnag, mae'r Cyngor wedi parhau i ymgysylltu â'i yswirwyr a'i beirianwyr strwythurol arbenigol ac, yn seiliedig ar gyngor a dderbyniwyd gan yr arbenigwyr hynny, credwn ei bod yn ddoeth ac yn gyfrifol i gynnal arolygon manwl i roi sicrwydd pellach i'n hunain a'r cyhoedd ar ddiogelwch y Neuadd. Bydd hyn yn gofyn am ddrilio i baneli i gadarnhau eu gwneuthuriad mewnol ac i benderfynu a oes angen unrhyw waith pellach i sicrhau diogelwch parhaus.   

Rydym yn gwybod bod hyn yn achosi llawer o anghyfleustra a siom, a hoffem ymddiheuro eto i'n holl gwsmeriaid, ond mae diogelwch cynulleidfaoedd, staff, artistiaid, gwirfoddolwyr a phawb yn y lleoliad yn hollbwysig, ac mae'n ofynnol i'r Cyngor weithredu mewn ymateb i ganllawiau diweddaraf Yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch a chyngor arbenigol.

Mae'r Cyngor wedi bod yn gyson glir ynghylch yr angen am fuddsoddiad yn Neuadd Dewi Sant i sicrhau ei ddyfodol hirdymor, gan fynd i'r afael â'r mater CAAD a materion cynnal a chadw eraill, a chadarnhawyd hyn oll mewn adroddiad Cabinet y llynedd.

Rydym yn parhau i weithio i drosglwyddo'r neuadd i'r Academy Music Group (AMG). Cyn cymryd drosodd y cyfrifoldeb o weithredu Neuadd Dewi Sant, roedd AMG eisoes wedi cynnal ei arolygiadau ei hun ac mae ganddo gynlluniau ar waith i wneud gwaith adfer sydd ei angen yn y tymor canolig i'r tymor hir. Rydym yn rhoi gwybod iddynt am y camau yr ydym ni'n eu cymryd.

Rydym yn ymddiheuro i gwsmeriaid Neuadd Dewi Sant am ohirio mwy o sioeau, ac rydym am sicrhau'r holl ddeiliaid tocynnau y byddwn mewn cysylltiad i drafod dyddiadau newydd perfformiadau a/neu ddewisiadau amgen.  Dilynwch adran newyddion gwefan Neuadd Dewi Sant am ddiweddariadau.