Back
Gardd 'Annwyl Mam' ym Mynwent y Gorllewin yn ennill aur mewn gwobrau cenedlaethol

3.10.23

 

Mae gardd fynwent yng Nghaerdydd, sy'n adrodd hanes llygoden ifanc o'r enw Dorasy'n dymuno y gallai ddweud wrth ei mam faint mae hi'n ei cholli hi, wedi ennillGwobr Cymuned Brofedigaethus aur yng ngwobrau blynyddol Mynwent y Flwyddyn.

Cafodd Mynwent Draenen Pen-y-graig wobr arian yn y categori 'Tir Claddu Mawr' yn y seremoni wobrwyo fawreddog hefyd.

Wedi'i dylunio ihelpu plant ifanc i ymdopi â cholli anwylyd a rhoi lle i rieni sydd wedi colli babi ei gofio, yr ardd unigryw hon ym Mynwent y Gorllewin yn ardal Trelái y ddinas yw'r cyntaf o'i bath yn y DU.

A stone statue of a mouseDescription automatically generated

Dora, y prif gymeriad yn stori 'Annwyl Mam'.

Dywedodd y Cynghorydd Dan De'Ath, yr Aelod Cabinet sy'n gyfrifol am Wasanaethau Profedigaeth:   "Mae ein gardd 'Annwyl Mam' ym Mynwent y Gorllewin yn ofod arbennig iawn lle gall plant, a rhieni sydd wedi colli babi, fynd i fyfyrio ac archwilio eu hemosiynau.

"Nid yw gardd fel hon, ar y raddfa hon, erioed wedi cael ei gwneud o'r blaen yn y DU, ac rwy'n falch bod ei gwerth i'r gymuned, ynghyd â'r gwaith sy'n cael ei wneud ym Mynwent Draenen Pen-y-graig, wedi cael ei gydnabod gyda'r gwobrau hyn." 

Ar ôl i blant groesi'r bont i Little Wiggle, y pentref y mae Dora yn ei alw'n gartref, gallant archwilio ei stori hi, cwrdd â'i ffrindiau a'i chyd-bentrefwyr, ac yn union fel Dora - sy'n anfon llythyr at ei mam fel ffordd o fynegi ei theimladau - ysgrifennu eu llythyr eu hunain, cyn ei bostio mewn blwch post tylluan arbennig.

A statue of an owl pointing at a signDescription automatically generated

Mae cymeriad tylluan yn stori 'Annwyl Mam' yn esbonio sut gall ysgrifennu llythyr helpu.

Mae gweithgareddau fel mynd ar helfa wenyn, gwneud 'rhwbiadau' neu fwynhau'r lonydd sgipio wedi'u cynnwys fel rhan annatod o'r ardd ac wedi'u dylunio i roi seibiannau i blant, os bydd y teimladau a godir gan yr ardd yn mynd yn ormod iddynt.

Wrth siarad am Wobr Profedigaeth Cymuned, dywedodd Philip Potts o'r Bwrdd Ymwybyddiaeth Coffa sy'nhyrwyddo a threfnu Gwobrau Mynwent y Flwyddyn:'Mae yna lawer o fynwentydd mentrus sy'n barod i wneud ymdrech arbennig i helpu teuluoedd mewn profedigaeth ac mae'r categori hwn wedi'i gynllunio i arddangos rhai o'r enghreifftiau gorau a gobeithio ysbrydoli Awdurdodau Claddu eraill."

Cafodd Mynwent y Gorllewin a Mynwent Draenen Pen-y-graig hefyd eu gwobrwyo â Baneri Gwyrdd yn gynharach eleni. Hwn oedd y tro cyntaf i Fynwent y Gorllewin ennill yr anrhydedd rhyngwladol uchel ei barch, sy'n cydnabod ansawdd parciau a mannau gwyrdd.