Back
Tîm Wardeniaid Newydd Canol y Ddinas

03/10/23


Mae tîm newydd o swyddogion yn patrolio strydoedd canol y ddinas i weithio gyda Heddlu De Cymru a phartneriaid eraill i fynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol.

Gyda phum swyddog yn gweithio ar bob shifft bob dydd, mae'r tîm yn gweithio'n agos gydag awdurdodau eraill i fynd i'r afael ag unrhyw faterion sy'n codi a'u riportio, gan gynnwys gweithio gyda'r Tîm Allgymorth i helpu pobl sy'n cysgu allan; atal pobl rhag beicio mewn ardaloedd lle na chaniateir hynny, a rhoi gwybod i'r heddlu am unrhyw weithgarwch troseddol.

Er mwyn sicrhau y gall staff y cyngor gyflawni eu dyletswyddau o ddydd i ddydd yn ddiogel, bydd pob swyddog yn gwisgo camera corff, a fydd ond yn cael ei actifadu os bydd digwyddiad yn codi.

Dylai staff, lle bo hynny'n bosibl, gyhoeddi ar lafar eu bod wedi dechrau'r recordiad er mwyn sicrhau bod y rhai sy'n cael eu recordio gan lens y camera a'r meicroffon yn ymwybodol eu bod nawr yn cael eu recordio.

Mae'r protocol i weithredu'r camera corff yn ystyried amrywiaeth o ddeddfwriaeth i sicrhau bod yr offer yn cael ei ddefnyddio'n gywir fel rhan o Gyfarpar Diogelu Personol y swyddogion a bod yr holl ddelweddau sy'n cael eu recordio'n cael eu rheoli a'u prosesu'n gywir yn unol â'r Ddeddf Diogelu Data.

Bydd modd defnyddio unrhyw dystiolaeth a geir gan ddefnyddio'r camerâu hyn mewn llys barn, er mwyn sicrhau y gellir adnabod y rhai sy'n ymddwyn yn wrthgymdeithasol a throseddu yng nghanol y ddinas a bod modd cymryd camau priodol.

Mae Tîm Wardeiniaid Canol y Ddinas wedi’i ariannu gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU.