Back
Cydnabod addysg treftadaeth yng Nghastell Caerdydd yn 'rhagorol'

5.10.23

 

Gyda 2,000 o flynyddoedd o hanes yn ymestyn yn ôl i'r Rhufeiniaid, mae llawer i ymwelwyr ei ddysgu yng Nghastell Caerdydd. Yn ffodus mae'r rhaglen addysg sydd ar gael i'r miloedd o blant ysgol sy'n ymweld bob blwyddyn wedi ennill Gwobr Sandford am Addysg yn ddiweddar, ar ôl cael ei asesu'n 'rhagorol'.

Rhoddodd yr aseswyr ar gyfer y wobr, sef yr unig farc ansawdd a gydnabyddir yn genedlaethol ar gyfer addysg treftadaeth, ganmoliaeth i'r 'staff ymrwymedig ac ymroddedig' a'r gofal a gymerwyd i sicrhau bod ysgolion yn 'cyrraedd eu nodau dysgu ac yn cael ymweliad pleserus a chofiadwy' a barnodd fod darpariaeth y sesiynau addysg yn 'rhagorol'.

A group of children playing in the grassDescription automatically generated

Disgyblion o Ysgol Gynradd Gatholig y Santes Fair yng Nghasnewydd yn mwynhau taith i Gastell Caerdydd.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant, Parciau a Digwyddiadau: "Castell Caerdydd yw un o atyniadau treftadaeth mwyaf blaenllaw Cymru ac mae'r wobr hon yn cadarnhau, o ganlyniad i angerdd ac ymrwymiad tîm y Castell, fod ei raglen addysgiadol ac ysbrydoledig hefyd ymhlith y goreuon."

Yn ogystal â chael taith dywys drwy 2,000 o flynyddoedd o hanes, o'r Rhufeiniaid, i'r Normaniaid, y Fictoriaid a'r Ail Ryfel Byd, gall disgyblion sy'n ymweld hefyd gymryd rhan mewn amrywiaeth o weithdai yn y Ganolfan Addysg gwbl hygyrch. Mae'r rhain yn cynnwys sesiynau 'Cwrdd â'r Marchog', yn ogystal â gweithdai sy'n archwilio pynciau fel 'Meddygaeth Ganoloesol', a'r 'Teulu Bute.'

Am fwy o wybodaeth am ymweliadau addysgol â Chastell Caerdydd, ewch i:https://www.castell-caerdydd.com/addysg/