Back
Pobl wedi’u harestio a beiciau trydan wedi’u hadfer mewn ymgyrch i gadw strydoedd canol dinas Caerdydd yn ddiogel

09/10/23


Cafodd un ar ddeg o feiciau trydan eu hadfer ac wyth person eu harestio yng nghanol dinas Caerdydd ddydd Iau, 5 Hydref, fel rhan o ymgyrch ar y cyd sy'n targedu pobl sy'n reidio beiciau wedi'u haddasu sy'n gallu cyrraedd cyflymderau o fwy na 40mya.

Cymerodd Tîm Wardeiniaid Canol Dinas Cyngor Caerdydd ran yn yr ymgyrch a welodd Heddlu De Cymru yn arestio dau, a Gwasanaeth Fisâu a Mewnfudo'r DU yn arestio chwe pherson.

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Caerdydd: "Fel cyngor, rydym yn annog pobl i feicio ond yr hyn na allwn ei dderbyn yw pobl yn gyrru beiciau trydan addasedig anghyfreithlon mewn ardaloedd i gerddwyr gan beryglu cerddwyr.

"Gallai pob cerbyd a adferwyd gan Heddlu De Cymru gyrraedd cyflymderau o hyd at a thros 40mya, a dim ond breciau ar gyfer beic pedal arferol a oedd wedi'u gosod. Mae'n ymddygiad hunanol annerbyniol ac mae'n bwysig ein bod yn mynd i'r afael â hyn.

"Yn ystod yr ymgyrch, mae'n debyg i un o'n wardeiniaid ddioddef ymosodiad gan feiciwr sydd wedi'i gyhuddo o ymosod, cario eitem â llafn a meddu ar gyffur Dosbarth A gyda'r bwriad o ddosbarthu.Wrth symud ymlaen gallwn weld bod digwyddiadau fel hyn ond yn atgyfnerthu'r angen i'n Tîm Wardeiniaid Canol y Ddinas wisgo camerâu corff a byddaf yn trafod hyn gyda'r swyddogion perthnasol i awdurdodi eu defnydd."

Nid yw beiciau trydan ag allbwn uchaf o dros 250 Watt, sbardun llaw, neu sy'n gallu mynd yn gynt na 15.5mya wedi'u dosbarthu fel beic pedal, ond yn hytrach moped neu feic modur, a rhaid eu cofrestru gyda'r DVLA, eu hyswirio a'u trethu a rhaid i'r gyrrwr wisgo helmed.

Dim ond ar dir preifat y gellir gyrru'r cerbydau hyn ac nid ar y briffordd gyhoeddus gan eu bod yn berygl i gerddwyr, yn enwedig rhai ag anableddau.

Dilynodd yr ymgyrch adroddiadau ar draws y DU o bobl yn cael eu taro gan y mathau hyn o gerbydau a/neu yn osgoi hynny o drwch blewyn.

Mae'r Tîm Wardeiniaid Canol y Ddinas newydd, a ariennir gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU, yn patrolio canol y ddinas ac yn gweithio gyda'r Gwasanaethau Brys a darparwyd gwasanaeth y Cyngor i atal ymddygiad gwrthgymdeithasol i gadw strydoedd Caerdydd yn ddiogel i bawb eu mwynhau.

Dywedodd y Sarjant Gareth Davies, o Heddlu De Cymru: "Er nad yw'n anghyfreithlon cael e-feic sydd â chymorth trydanol neu allbwn pŵer sy'n fwy na 15 mya a 250W, ni allwch ei reidio ar y briffordd gyhoeddus fel beic rheolaidd heb ei gofrestru a'i yswirio fel moped. 
"Mae hyn yn cynnwys hawliau oddi ar y ffordd ac ar y ffordd, fel cilffyrdd a llwybrau ceffylau. Dim ond gyda chaniatâd y tirfeddiannwr y gallwch reidio beiciau trydan heb eu cofrestru a heb yswiriant ar dir preifat. 
"Yn ystod yr ymgyrch ddydd Iau cafodd dau berson, a gafodd eu stopio i ddechrau mewn perthynas â beiciau pedal sydd wedi'u haddasu'n anghyfreithlon, eu harestio ar amheuaeth o droseddau delio cyffuriau. Atafaelwyd cyffuriau a chyllell fawr.

"Byddwn yn parhau i weithio gyda'n partneriaid fel hyn i helpu i gadw canol dinas Caerdydd yn ddiogel."

Dywedodd Richard Johnson, Cyfarwyddwr Cynorthwyol, Gorfodaeth Mewnfudo'r Swyddfa Gartref:"Mae gweithio'n anghyfreithlon yn niweidio cymunedau, yn twyllo gweithwyr gonest allan o gyflogaeth, yn rhoi pobl agored i niwed mewn perygl, ac yn twyllo'r pwrs cyhoeddus.

"Rydym wedi ymrwymo i fynd i'r afael â phob math o droseddau mewnfudo, gan weithio gyda phartneriaid gan gynnwys yr heddlu ac awdurdodau lleol.  Mae hyn yn ganlyniad gwych, a byddwn yn parhau i atal pobl rhag gweithio'n anghyfreithlon a sicrhau bod troseddwyr yn cael eu dwyn gerbron y llys."