Back
Adroddiad monitro blynyddol y Cynllun Datblygu Lleol yn dangos fod cynnydd da yn cael ei wneud

13/10/23


Gwelodd Caerdydd fwy na 1,000 o swyddi newydd yn cael eu creu a 1,681 o gartrefi newydd yn cael eu codi rhwng Ebrill 2022 a Mawrth 2023 yn ôl adroddiad newydd sy'n gwerthuso cynnydd Cynllun Datblygu Lleol y ddinas.

Y ffigwr tai yw'r twf blwyddyn unigol mwyaf a welwyd ers 2007-2008.

Mae'r data'n rhan o'r seithfed adroddiad blynyddol ar y Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) mabwysiedig presennol a fydd yn cael ei drafod gan Gabinet Cyngor Caerdydd yn ei gyfarfod nesaf Ddydd Iau, 19 Hydref.

Mae CDLl yn lasbrint ar gyfer datblygu'r ddinas yn y dyfodol ac mae'n caniatáu i'r cyngor gael mwy o reolaeth dros wahanol fathau o ddatblygiadau, gan helpu i lunio Caerdydd lanach, gwyrddach, cryfach a thecach.

Mae'r adroddiad yn dadansoddi mwy na 130 o ddangosyddion ac yn dangos bod cynnydd da wedi'i wneud ar draws ystod ohonynt, gan gynnwys: swyddi, cartrefi newydd, cartrefi fforddiadwy, a phontio tuag at fathau cynaliadwy o drafnidiaeth.

Os yw Cabinet Cyngor Caerdydd yn cymeradwyo'r adroddiad, bydd yn cael ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru erbyn 31 Hydref, yn unol â gofynion deddfwriaethol.

Dwedodd yr Aelod Cabinet dros Gynllunio Strategol a Thrafnidiaeth, y Cynghorydd Dan De'Ath:    "Tra bod canlyniadau adroddiad monitro y CDLl hwn wedi'u bod yn cael eu dadansoddi, mae'r cyngor wedi bod yn ymgynghori ar y Strategaeth a Ffefrir ar gyfer y Cynllun Datblygu Lleol Newydd (CDLlN) a fydd yn siapio datblygiady ddinas hyd at 2036.

"Ym mis Hydref eleni, mae dros 8,000 o geisiadau gan bobl sy'n chwilio am dai ar restr aros y cyngor, felly mae'n amlwg bod angen adeiladu cartrefi, yn enwedig cartrefi fforddiadwy, a gellid darparu 6,000 o gartrefi fforddiadwy yn ystod oes y CDLlN.

Mae'r cyngor wedi ei gwneud yn glir y gellir darparu pob un o'r 26,400 o gartrefi sy'n ofynnol yn y CDLlN drwy ganiatadau cynllunio presennol, neu ar dir sydd eisoes wedi'i glustnodi ar gyfer datblygiadau newydd yn y Cynllun Datblygu Lleol presennol. Yn ôl y dadansoddiad diweddaraf, mae 3,295 o gartrefi eisoes wedi'u codi ar y safleoedd strategol presennol ac mae 2,158 o gartrefi yn cael eu hadeiladu yn y ddinas ar hyn o bryd, sy'n dangos bod cynnydd da yn cael ei wneud.

Mae hyn yn golygu na fydd yn rhaid canfod tir newydd fel rhan o strategaeth dwf arfaethedig o 1% y CDLlN ar gyfer y ddinas hyd at 2036. Mae'r safleoedd ymgeisiol sydd wedi'u cyflwyno fel rhan o'r Strategaeth a Ffefrir ar gyfer y CDLlN yn gynigion yn unig gan ddatblygwyr, tirfeddianwyr a phartïon eraill sydd â diddordeb ar hyn o bryd, ac nid yw'r cyngor wedi cytuno arnynt. Dros y misoedd nesaf, bydd y safleoedd hyn yn cael eu hasesu gan ystyried yr holl bwyntiau a godwyd gan drigolion a phartïon sydd â diddordeb.  Bydd canfyddiadau'r asesiad yn cael eu cyhoeddi ac fe ymgynghorir arnynt fel rhan o'r 'Cynllun Adneuo' y bwriedir ei gynnal yr haf nesaf."

Uchafbwyntiau allweddol seithfed adroddiad blynyddol y CDLl presennol yw:

Cyflogaeth:Ers 2006 hyd at heddiw, mae'r CDLl wedi darparu ychydig o dan 30,000 o swyddi newydd. Ar y gyfradd dwf bresennol bydd angen creu 1,750 o swyddi ychwanegol bob blwyddyn i gyrraedd y targed o 40,000 o swyddi newydd erbyn 2026.

Tai:Mae 3,295 o gartrefi newydd wedi'u cwblhau hyd yma ar bum safle strategol.  Gellir ei dorri i lawr ar gyfer pob safle:

  • 626 o gartrefi newydd wedi'u codi ar safle Ardal Fenter Caerdydd
  • 945 o gartrefi newydd wedi'u codi ar y safle yng ngogledd-orllewin Caerdydd
  • 317 o gartrefi newydd wedi'u codi ar y safle i'r gogledd o Gyffordd 33 yr M4
  • Coddwyd 341 o gartrefi newydd ar y safle yng Ngogledd-ddwyrain Caerdydd, a;
  • Codwyd 1,066 o gartrefi newydd yn St Edyryns Village yn Llanilltern.

Tai Fforddiadwy: Ers 2014, cwblhawyd 2,265 o gartrefi fforddiadwy newydd yng Nghaerdydd, sef 25% o gyfanswm y tai newydd a gwblhawyd dros y cyfnod hwn. Mae darparu cartrefi fforddiadwy yn flaenoriaeth i weinyddiaeth y cyngor a thrwy'r CDLlN bydd y ffigwr hwn yn codi i 6,000 o gartrefi fforddiadwy erbyn 2036.

Trafnidiaeth:Ers 2006, mae nifer y bobl sy'n teithio ar drafnidiaeth gyhoeddus wedi cynyddu 7% i fyny at 55%.  Gan edrych yn benodol ar ddata ers 2021/22; mae cerdded i'r ysgol wedi cynyddu 1.4%; mae lefelau beicio yn cynyddu o fis i fis; mae'r defnydd o fysiau wedi cynyddu o 65% i 80%; y defnydd o drenau wedi dychwelyd i 80% o'i gymharu â lefelau cyn y pandemig; ac mae cymudo mewn car wedi gostwng 5%. Yn gyfan gwbl, mae lefelau cymudo trwy bob math o drafnidiaeth ar 60% o'i gymharu â lefelau cyn y pandemig. 

Safleoedd Sipsiwn a Theithwyr:Mae gwaith yn parhau i fynd rhagddo i ganfod tir newydd ar gyfer safleoedd parhaol i Sipsiwn a Theithwyr yng Nghaerdydd. O ran safleoedd tramwy, mae'r cyngor yn credu y dylid ystyried hyn fel rhan o'rCynllun Datblygu Strategol a fydd yn gynllun rhanbarthol newydd ar gyfer de-ddwyrain Cymru.

Canllaw Cynllunio Atodol:Mae'r cyngor wedi datblygu rhaglen o Ganllawiau Cynllunio Atodol (CCAau) i gefnogi'r cynllun, gyda 18 CCA wedi'u cymeradwyo a'u gweithredu gan y cyngor. Mae CCA yn cyd-fynd â pholisi cynllunio i roi mwy o wybodaeth i ddatblygwyr ar bynciau penodol. Mae CCAau ar waith i gefnogi ystod o faterion pwysig sy'n helpu i ddiweddaru'r CDLl, gan gynnwys gofynion dylunio, seilwaith gwyrdd - bioamrywiaeth a choed a chyfyngiadau ar Dai Amlfeddiannaeth i sicrhau nad yw cymunedau'n gweld gormodedd o'r math yma o dai.Bydd adolygiad llawn o'r holl CCAau cyfredol yn cael ei gynnal fel rhan o'r CDLl Newydd.

Newidiadau Cyd-destunol:  Mae'r adolygiad cyd-destunol yn tynnu sylw at newidiadau sylweddol yn y fframwaith polisi cynllunio cenedlaethol sydd wedi esblygu ers dechrau'r cynllun.  Dyma un o'r prif resymau pam fod y cyngor yn cychwyn ar Gynllun Datblygu Lleol Newydd hyd at 2036.

Ychwanegodd y Cynghorydd De'Ath:  "Yr hyn rydyn ni'n ei weld nawr yng Nghaerdydd o ran adeiladu tai, buddsoddi a datblygu yw gwireddu'r polisïau sydd yn y CDLl.  Bellach gwelwyd y nifer uchaf o gartrefi newydd yn cael eu codi yn y ddinas ers 2007/08 ac mae angen y cartrefi hyn.

"Mae wastad bwlch amser rhwng gweld mabwysiadu CDLl a datblygiadau ar lawr gwlad, a hynny am nifer o resymau, ond mae'n galonogol gweld bod y raddfa adeiladu ar ein stoc dai ar raddfa na fu ei debyg ers 2007.  Mae hyn hefyd yn cael ei adlewyrchu yn y nifer o dai fforddiadwy newydd yng Nghaerdydd, gydag ychydig o dan 2,265 o unedau wedi eu cwblhau ers 2014.

"Roedd CDLl presennol y ddinas yn ymateb i gyflenwad tai lleol cyfyngedig iawn a olygai fod angen i ni fwrw ymlaen gyda nifer uchel o safleoedd newydd i ateb anghenion y ddinas. Heb fynd ati i adeiladu'r holl dai hyn, a'r tai fforddiadwy a chymdeithasol cysylltiedig, byddai ein hargyfwng tai yn llawer gwaeth, gyda hyd yn oed mwy o bobl yn methu fforddio prynu neu rhentu cartref."