Back
Diweddariad Cyngor Caerdydd: 13 Hydref 2023

Dyma'ch diweddariad dydd Gwener, yn cynnwys:

  • Neuadd Dewi Sant ar gau tan y Flwyddyn Newydd
  • Darpariaeth ysgolion cynradd yn Cathays a rhannau o Gabalfa, y Mynydd Bychan, Ystum Taf a Phlasnewydd
  • Cyngor Caerdydd yn cytuno ar gyllid ar gyfer prosiect ysgolion blaenllaw
  • Cyfleoedd llywodraethwyr ysgol yn eich cymuned leol

 

Neuadd Dewi Sant ar gau tan y Flwyddyn Newydd - Datganiad Cyngor Caerdydd

Mae'r datganiad hwn yn rhoi diweddariad ar gau Neuadd Dewi Sant dros dro tra bod gwiriadau ychwanegol ar y paneli Concrit Awyredig Awtoclafiedig Cydnerth (CAAC) yn yr adeilad yn cael eu cynnal, a thra bod y camau nesaf angenrheidiol yn cael eu cymryd. Mae'r diweddariad hwn yn dilyn datganiadau blaenorol a gyhoeddwyd ar 2 Hydref a 7 Medi.

Mae'r arbenigwyr CAAC a ddewiswyd gan Gyngor Caerdydd i gynnal y gwiriadau ychwanegol yn dod at ddiwedd eu harolygiadau, ac mae disgwyl i'w canfyddiadau gael eu hadrodd yn ôl i'r awdurdod lleol tua diwedd yr wythnos nesaf (wythnos yn dechrau 16 Hydref).

Mae arwyddion cynnar wedi ei gwneud hi'n glir y bydd angen gwaith os yw'r Neuadd am ailagor.  Bydd yr union waith sydd ei angen yn cael ei adolygu yng ngoleuni canfyddiadau'r adroddiad, ac yn seiliedig ar nifer o ffactorau, gan gynnwys goblygiadau cost tymor byr a thymor hirach, pa mor hir y gallai ei gymryd i gyflawni gwaith adferol / dros dro, a pha mor hir y gallai'r gwaith adfer hwnnw bara cyn bod angen ailosod paneli CAAC yn y to yn llwyr.

Rydym yn disgwyl i'r Cabinet wneud penderfyniad y mis hwn ar bob un o'r uchod.  Fodd bynnag, o gofio y gallai gwaith adferol / dros dro gymryd sawl mis i'w roi ar waith, mae penderfyniad wedi'i wneud nawr i ymestyn y cyfnod y mae'n rhaid cau Neuadd Dewi Sant, sef tan y Flwyddyn Newydd o leiaf.

Mae hyn yn golygu y bydd perfformiadau ychwanegol yn cael eu gohirio ac, fel o'r blaen, byddwn yn cysylltu â hyrwyddwyr a llogwyr i drafod y potensial ar gyfer aildrefnu perfformiadau. Unwaith eto, byddwn hefyd yn adolygu'r holl opsiynau eraill, gan gynnwys adleoli cynyrchiadau os yw'n ymarferol tra bod y neuadd dal ar gau dros dro, mae rhai hyrwyddwyr wedi dewis newid lleoliadau nawr, os oes rhai ar gael. 

Nid oes angen i gwsmeriaid gysylltu â Neuadd Dewi Sant, byddwn yn cysylltu â'r holl ddeiliaid tocynnau am yr opsiynau sydd ar gael i chi unwaith y byddwn wedi siarad â hyrwyddwr y sioeau yr effeithir arnynt.  Byddem yn ddiolchgar pe gallai cwsmeriaid roi'r amser i staff Neuadd Dewi Sant ymgymryd â'r gwaith hwn fel y gallwn ddod yn ôl atynt cyn gynted â phosibl am docynnau a brynwyd a digwyddiadau a ohiriwyd.

Rydym yn ymddiheuro i gwsmeriaid Neuadd Dewi Sant am ohirio mwy o sioeau, ac rydym am sicrhau'r holl ddeiliaid tocynnau y byddwn mewn cysylltiad i drafod dyddiadau newydd perfformiadau a/neu ddewisiadau amgen.  Dilynwch adran newyddion gwefan Neuadd Dewi Sant am ddiweddariadau.

Darllenwch fwy yma

 

Adnewyddu a gwella darpariaeth ysgolion cynradd yn Cathays a rhannau o Gabalfa, y Mynydd Bychan, Ystum Taf a Phlasnewydd

Mae canlyniad ymgynghoriad cyhoeddus ar gynlluniau i ad-drefnu darpariaeth ysgolion cynradd sy'n gwasanaethu Cathays a rhannau o Gabalfa, y Mynydd Bychan, Ystum Taf a Phlasnewydd wedi'i gyhoeddi.

Bydd Cabinet Cyngor Caerdydd nawr yn cael gwybod am y 213 o ymatebion a ddaeth i law ar gynigion newydd sy'n ceisio sicrhau'r cydbwysedd cywir o ddarpariaeth gynradd cyfrwng Cymraeg a Saesneg fel y gellir bodloni'r galw yn yr ardal yn awr ac yn y dyfodol.

Daeth yr ymgynghoriad gydag ysgolion, llywodraethwyr, rhieni a phlant i ben ym mis Mehefin a chafodd tri opsiwn posib eu cynnwys yn y cynlluniau. Cafodd pob un cynnig ei lunio i wella cyfleoedd dysgu a chynorthwyo â phwysau ariannol sy'n cael ei deimlo gan ysgolion yr ardal ar hyn o bryd.

Argymhellir i'r Cabinet gyhoeddi cynigion i fwrw ymlaen â'r mwyaf ffafriol o'r tri chynnig sy'n cynnwys:

 

  • Trosglwyddo Ysgol Mynydd Bychan i safle presennol Ysgol Gynradd Allensbank.
  • Cynyddu capasiti Ysgol Mynydd Bychan o 192 o leoedd (0.9DM) i 420 o leoedd (2DM), a chynyddu nifer y lleoedd meithrin yn Ysgol Mynydd Bychan o 64 i 96.
  • Cyfuno Ysgol Gynradd Allensbank ac Ysgol Gynradd Gladstone i sefydlu ysgol gynradd cyfrwng Saesneg newydd â 420 o leoedd (2DM) gyda meithrin ar safle presennol Ysgol Gynradd Gladstone / Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Santes Monica.

Bydd Corff Llywodraethu Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Santes Monica hefyd yn ystyried a ddylid bwrw ymlaen â'i gynnig i drosglwyddo i safle Ysgol Mynydd Bychan, a fydd yn galluogi'r ysgol i gynnig darpariaeth feithrin lle gallai plant ddechrau elwa ar waith da'r ysgol yn gynharach yn ogystal ag adeiladau gwell i'r blynyddoedd cynnar ac ardal awyr agored fwy o faint.

Byddai'r dosbarth ymyrraeth gynnar lleferydd ac iaith a gynhelir ar hyn o bryd gan Ysgol Allensbank yn parhau a gallai drosglwyddo i'r ysgol newydd, yn amodol ar gytundeb Corff Llywodraethu'r ysgol newydd, neu gallai drosglwyddo i ysgol arall ym mis Medi 2025.

Darllenwch fwy yma

 

Cyngor Caerdydd yn cytuno ar gyllid ar gyfer prosiect ysgolion blaenllaw

Mae un o brosiectau blaenllaw Cyngor Caerdydd i drawsnewid addysg ar draws y ddinas ar fin goresgyn rhwystr mawr gyda chyllid yn cael ei gymeradwyo i ddechrau adeiladu Campws Cymunedol arloesol y Tyllgoed.

Mae adroddiad newydd, sy'n mynd gerbron Cabinet y cyngor yr wythnos nesaf (19 Hyd), yn argymell cymeradwyo cyllid a fydd yn caniatáu i'r prif waith adeiladu fynd rhagddo ar ailddatblygu safle Ysgol Uwchradd Cantonian.

Pan fydd y campws wedi'i gwblhau ym mlwyddyn academaidd 2026/27, bydd yn ymgorffori tair ysgol bresennol - Cantonian, Woodlands a Riverbank - ac yn ffurfio'r prosiect mwyaf yn rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy Llywodraeth Cymru.

Yn unol â'r cynllun, bydd Campws Cymunedol newydd y Tyllgoed yn:

  • Cynyddu darpariaeth Ysgol Uwchradd Cantonian o chwe dosbarth mynediad i wyth, gyda darpariaeth chweched dosbarth ar gyfer hyd at 250 o ddisgyblion mewn adeiladau newydd
  • Ehangu'r ddarpariaeth ar gyfer dysgwyr â Chyflwr Sbectrwm Awtistig (CSA) yn Cantonian o 20 i 30 lle mewn adeilad pwrpasol newydd
  • Trosglwyddo Ysgol Arbennig Woodlands i safle presennol Cantonian a chynyddu ei chapasiti o 140 i 240 o leoedd mewn adeilad newydd, a
  • Throsglwyddo Ysgol Arbennig Riverbank i safle presennol Cantonian a chynyddu ei chapasiti o 70 i 112 o leoedd mewn adeilad newydd.

Bydd yr ysgol newydd yn golygu cyfleusterau o'r radd flaenaf a therfyn ar y defnydd o ystafelloedd dosbarth dros dro, yn ogystal â chynyddu nifer y lleoedd mewn ysgolion arbennig i bobl ifanc 4-19 oed ag anghenion dysgu cymhleth.

Bydd yna gyfleusterau chwaraeon newydd o ansawdd uchel hefyd, gan gynnwys cae rygbi 3G gyda safle i wylwyr, cae pêl-droed 7 bob ochr, a chanolfan chwaraeon a lles sy'n cynnwys neuadd chwaraeon pedwar cwrt, stiwdio weithgareddau, campfa a wal ddringo hygyrch, yn ogystal ag ardaloedd chwaraeon aml-ddefnydd. Bydd yr holl gyfleusterau hyn ar gael i'r gymuned y tu allan i oriau ysgol a defnydd yr ysgol.

Darllenwch fwy yma

 

Cyfleoedd llywodraethwyr ysgol yn eich cymuned leol

Mae Cyngor Caerdydd yn chwilio am lywodraethwyr ysgolion o gefndiroedd amrywiol sydd â gwahanol sgiliau a phrofiad i ymgymryd â swyddi ar gyrff llywodraethu ledled y ddinas ac mae ymgyrch newydd wedi'i lansio i hyrwyddo'r ystod o gyfleoedd sydd ar gael.

Mae'r Cyngor yn chwilio am bobl o bob cefndir gydag ystod o sgiliau a phrofiadau bywyd, a fyddai'n fodlon cefnogi ysgol leol. Y gweithlu gwirfoddol pwysicaf yn y maes addysg, mae Llywodraethwyr Ysgol yn chwarae rhan hanfodol yn y gwaith o wella addysg a gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i ddyfodol plant a phobl ifanc.

Mae llawer o fanteision i ddod yn llywodraethwr ysgol, byddwch yn cael cyfle i fod yn rhan o ysgol leol a'r cyfle i gyfrannu'n uniongyrchol at lwyddiant y plant a'r bobl ifanc y mae'n eu gwasanaethu.  Mae hefyd yn rhoi cyfle i ddatblygu sgiliau a phrofiad proffesiynol a phersonol mewn ystod eang o feysydd fel cynllunio strategol, gwneud penderfyniadau a rheolaeth ariannol sy'n gallu helpu gyda gyrfaoedd a datblygiad personol.

Darperir datblygiad proffesiynol parhaus am ddim gan yr awdurdod lleol i gynorthwyo llywodraethwyr yn eu rôl. Ar y lleiaf gellid disgwyl i lywodraethwr gyfrannu tua phum awr y mis i ysgol a fyddai'n amrywio yn ôl yr ystod o gyfrifoldebau y byddwch yn dewis eu derbyn.

Darllenwch fwy yma