Back
Myfyrwyr prifysgol yn gosod Her Caerdydd Carbon Niwtral

17/10/23

Mae rhai o'r meddyliau ifanc disgleiriaf yng Nghaerdydd wedi mynd ati i ddatblygu atebion i'r her o greu Cyngor carbon niwtral.

Dangosodd y ffigyrau diweddaraf, ar gyfer 2020/21 ostyngiad o 13% yn allyriadau carbon Cyngor Caerdydd o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol wrth i'r gwaith fynd rhagddo ar strategaeth Caerdydd Un Blaned yr awdurdod lleol mewn ymateb i'r argyfwng hinsawdd.

Y tymor hwn bydd myfyrwyr Prifysgol Metropolitan Caerdydd sy'n gwneud modiwl Datrysiadau a Thrawsnewid Busnes yn edrych ar gyfleoedd i gyflymu'r gostyngiad hwn ymhellach.

Dywedodd y Cynghorydd Caro Wild, yr Aelod Cabinet dros Newid yn yr Hinsawdd: "Mae newid yn yr hinsawdd yn mynd i gael effaith sylweddol ar ein pobl ifanc ac mae'r modiwl hwn yn ffordd o ymgysylltu ag arweinwyr busnes y dyfodol gyda rhai o'r materion go iawn y mae sefydliadau mawr yn eu hwynebu wrth iddynt ymateb i'r argyfwng hinsawdd.

"Po fwyaf o bobl y gallwn eu cael i feddwl am y ffordd orau o wneud y newidiadau rydyn ni i gyd yn gwybod sydd angen eu gwneud, yn gyflym ac yn llwyddiannus, ac yna mynd ymlaen i weithredu'r atebion hynny wrth iddyn nhw fynd i mewn i fyd gwaith, gorau oll."

Dywedodd Gary Samuel, Uwch Ddarlithydd yn Ysgol Reolaeth y Brifysgol: "Mae ymwneud Cyngor Caerdydd â'r modiwl Datrysiadau a Thrawsnewid Busnes yn gyfle gwych, sy'n cael ei werthfawrogi'n fawr, i'n myfyrwyr ôl-raddedig gymhwyso eu gwybodaeth, eu dysgu a'u profiad i'r her fyd-eang ddybryd o fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd.

"Bydd myfyrwyr yn datblygu ac yn cyflwyno atebion ar strategaethau newid ymddygiad a sut y gellir eu gweithredu mewn sefydliad deinamig mawr fel rhan o nod y Cyngor i fod yn garbon niwtral. Bydd y dysgu dilys a gafwyd o'r cyfle hwn yn amhrisiadwy a bydd ein graddedigion yn gallu mynd â hyn gyda nhw i'w gyrfaoedd perthnasol fel arweinwyr busnes byd-eang y dyfodol."