Back
Neuadd Dewi Sant i aros ar gau nes bod to newydd yn cael ei osod a'r adeilad yn cael ei adnewyddu

18/10/23 

Mae adroddiad i baneli concrit 'a allai fod yn beryglus' yn Neuadd Dewi Sant Caerdydd yn argymell bod angen ailosod to'r adeilad yn llwyr. 

Comisiynwyd yr adroddiad gan Gyngor Caerdydd yn dilyn newidiadau i gyngor yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch ar Goncrit Awyredig Awtoclafiedig Cydnerth RAAC mewn adeiladau cyhoeddus.

Dros y misoedd diwethaf, mae sawl adeilad wedi cau ar draws y DU oherwydd pryderon am RAAC - deunydd adeiladu y dywedodd yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch oedd bellach wedi mynd heibio i'w oes arfaethedig ac mae'n debygol o fethu heb rybudd.

Mae arbenigwyr RAAC wedi bod yn Neuadd Dewi Sant ers sawl wythnos yn cynnal profion 'ymwthiol' ar baneli ar draws to'r adeilad.

Nododd eu hadroddiad fod nifer o'r 900 a mwy o baneli yn y to yn 'goch - difrifol' ac eraill yn 'goch - risg uchel' sy'n golygu y gallent fethu a dymchwel. Mae peirianwyr yn argymell bod y lleoliad yn aros ar gau nes bod mesurau lliniaru brys yn cael eu rhoi ar waith neu nes bod to newydd yn cael ei osod.

Gallai mesurau lliniaru dros dro gymryd hyd at chwe mis ac mae'n debygol o gostio sawl miliwn o bunnoedd, ond byddai'n rhaid ailosod y to cyfan o hyd ar gost o filiynau lawer yn fwy o fewn amser cymharol fyr.

Mae hyn yn cyflwyno cwestiwn difrifol ynghylch hyfywedd ariannol datrysiad dros dro cyn bod yn rhaid gosod to newydd beth bynnag. Mae hefyd yn codi pryderon ynghylch yswiriant ac atebolrwydd y byddai'n rhaid i unrhyw atgyweiriad dros dro eu bodloni. Mae'r adroddiad yn argymell trwsio'r to mewn un cam gan alluogi'r lleoliad i ailagor pan fydd yn barod i groesawu mynychwyr cyngherddau yn ôl.

Roedd Neuadd Dewi Sant yn y broses o gael ei gosod ar brydles i Academy Music Group (AMG) sy'n ymwybodol o'r RAAC yn yr adeilad ac roeddent wedi ymrwymo i adnewyddu'r lleoliad a delio â materion y to fel rhan o gytundeb gwreiddiol y brydles.

Bydd Cabinet Cyngor Caerdydd nawr yn cyfarfod ddydd Iau, 26 Hydref, i benderfynu ar y camau nesaf ac a ddylai barhau i fwrw ymlaen â chynlluniau i lunio cytundeb prydles newydd gydag AMG, sy'n cydnabod materion a godwyd gan adroddiad y peiriannydd.

O dan gytundeb gwreiddiol y brydles, roedd AMG wedi bwriadu cadw Neuadd Dewi Sant ar agor gan gau am gyfnodau byr yn unig tra bod gwaith atgyweirio'n cael ei wneud, ond mae canfyddiadau'r adroddiad newydd hwn bellach yn awgrymu cau yn gyfan gwbl er mwyn galluogi to newydd i gael ei osod ac i'r lleoliad gael ei adnewyddu. Gallai hyn gymryd tua 18 mis i'w gwblhau.

Bydd gosod to newydd ar Neuadd Dewi Sant yn gymhleth ac yn gostus am y rhesymau canlynol:

  • y lleoliad yng nghanol y ddinas yn yr Ais;
  • uchder y to/nenfwd;
  • rhestrwyd yr adeilad yn ddiweddar fel un sydd o ddiddordeb pensaernïol a hanesyddol arbennig;
  • y gofyniad i gadw ansawdd acwstig y lleoliad;
  • y gofynion tebygol ar gyfer caniatâd cynllunio.

Er gwaethaf atgyfnerthu risg estyll RAAC, mae AMG wedi cadarnhau eu bod yn dal yn ymrwymo i fuddsoddi yn Neuadd Dewi Sant ac yn dal i fod eisiau bwrw ymlaen â'r cytundeb arfaethedig y cytunwyd arno yn flaenorol gan y Cabinet ym mis Gorffennaf 2023.

Fodd bynnag, o ystyried y datblygiadau diweddar, mae AMG wedi gofyn i'r Cyngor ystyried bod y brydles yn amodol am gyfnod i'w galluogi i geisio canfod datrysiad hyfyw ac i sicrhau caniatâd cynllunio a chaniatâd adeilad rhestredig ar gyfer y gwaith gofynnol i'r to a rhannau eraill o'r adeilad.

Bydd cytuno ar brydles amodol yn rhoi'r sicrwydd sydd ei angen ar AMG i wario arian ymlaen llaw i wneud gwaith dylunio manwl ac i gyflwyno ceisiadau am ganiatâd cynllunio a chaniatâd adeilad rhestredig. Ar ôl cyflawni'r rhain, byddai'r brydles yn dod yn ddiamod cyn i AMG ymgymryd â'r gwaith. AGM fydd yn gyfrifol am gostau ymgymryd â'r gwaith dylunio.

Targed AMG yw ailagor ymhell cyn cystadleuaeth nesaf BBC Canwr y Byd Caerdydd ym mis Haf 2025. 

Byddai pob amod arall o'r brydles, yn cynnwys diogelu'r calendr clasurol pan fydd y lleoliad yn ailagor, yn cael eu bodloni.

Mae gwendidau RAAC, sydd ag oes o ryw 30 mlynedd, wedi bod yn hysbys ers y 1990au. Roedd yn ddeunydd a ddefnyddiwyd ym maes adeiladu yn ystod y 1960au hyd at y 1990au, ond ni wnaed awdurdodau lleol yng Nghymru yn ymwybodol o'r broblem bosibl gydag ef tan 2020.

Dwedodd llefarydd ar ran Cyngor Caerdydd: "Mae strategaeth rheoli adeiladau ac iechyd a diogelwch wedi bod ar waith yn y lleoliad am y deunaw mis diwethaf.  Roedd hyn yn cynnwys archwiliadau rheolaidd gan beirianwyr strwythurol annibynnol gydag arbenigedd RAAC penodol.

"Trwy gydol y cyfnod hwn ni chodwyd unrhyw faterion am gyflwr RAAC yn yr adeilad ac nid oedd unrhyw dystiolaeth o ddirywiad. Fodd bynnag, yn dilyn newid i gyngor yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch, daethpwyd ag arbenigwyr RAAC i mewn i gynnal arolwg 'ymwthiol'. Mae hyn wedi arwain at argymhelliad i'r Cabinet i gadw'r lleoliad ar gau nes bod AMG yn gosod to newydd. Mae Cyngor Caerdydd wedi canslo pob cyngerdd a digwyddiad sydd oedd wedi eu trefnu yn y Neuadd tan y Flwyddyn Newydd. Yn dilyn penderfyniad y Cabinet ar y camau nesaf, byddwn yn rhyddhau mwy o wybodaeth am yr hyn fydd yn digwydd i ddyddiadau cyngherddau ar ôl y Flwyddyn Newydd.

"Rydym yn gwybod y bydd hyn yn achosi llawer o anghyfleustra a siom i'n cwsmeriaid, ond gobeithio y byddant yn deall bod diogelwch cynulleidfaoedd, staff, artistiaid, gwirfoddolwyr a phawb yn y lleoliad yn hollbwysig.

"Byddwn yn cysylltu â hyrwyddwyr a llogwyr i drafod y potensial ar gyfer symud perfformiadau i leoliadau eraill. Nid oes angen i gwsmeriaid gysylltu â Neuadd Dewi Sant, byddwn yn cysylltu â'r holl ddeiliaid tocynnau am yr opsiynau sydd ar gael i chi unwaith y byddwn wedi siarad â hyrwyddwyr y sioeau sydd wedi eu heffeithio.  Byddem yn ddiolchgar pe gallai cwsmeriaid roi'r amser i ni ymgymryd â'r gwaith hwn fel y gallwn ddod yn ôl atoch cyn gynted â phosibl am eich tocynnau/digwyddiadau sydd wedi cael eu canslo.

"Mae'r Cyngor wedi bod yn gyson glir ynghylch yr angen i fuddsoddi yn Neuadd Dewi Sant i sicrhau ei dyfodol hirdymor, gan fynd i'r afael â RAAC a materion cynnal a chadw eraill, a gadarnhawyd mewn adroddiad gan y Cabinet y llynedd.

"Mae gwaith yn parhau i drosglwyddo'r neuadd i (AMG). Cyn cymryd drosodd gweithrediad Neuadd Dewi Sant, roedd AMG eisoes wedi cynnal ei archwiliadau ei hun ac er bod ganddo gynlluniau i wneud gwaith adfer ac i gadw'r lleoliad ar agor, mae'r adroddiad diweddaraf i gyflwr RAAC yn yr adeilad yn dangos yn glir y byddai'n well cadw'r lleoliad ar gau nes iddo gael ei adnewyddu'n llwyr,  a nes bod to newydd yn cael ei osod.

"Unwaith eto, rydym yn ymddiheuro i gwsmeriaid Neuadd Dewi Sant am ganslo sioeau'n hwyr, ac rydym am eich sicrhau y byddwn mewn cysylltiad i drafod dyddiadau newydd a/neu ddewisiadau amgen i berfformiadau.  Dilynwch adran newyddion gwefan Neuadd Dewi Sant am ddiweddariadau. Diolch am eich dealltwriaeth a'ch amynedd.

"Rydym yn parhau i weithio i drosglwyddo'r neuadd i Academy Music Group (AMG). Rydym yn rhoi gwybod iddynt am y camau yr ydym yn eu cymryd, ac rydym yn trafod yn gyson â staff Neuadd Dewi Sant i roi'r wybodaeth ddiweddaraf iddynt hefyd.

Bydd Pwyllgor Craffu yr Economi a Diwylliant yn cymryd yr adroddiad ddydd Mawrth yma yn ei gyfarfod am 5.15pm, ar 24 Hydref. Gallwch wylio'r cyfarfod pwyllgor hwnnw ar ffrwd fyw ar y diwrnod  yma.

Yna bydd Cabinet Cyngor Caerdydd yn gwneud penderfyniad ar yr adroddiad mewn cyfarfod ar ddydd Iau, 26 Hydref, am 1pm (amser i'w gadarnhau). Gallwch wylio ffrwd fyw o'r cyfarfod hwnnw  yma  - bydd yr union fanylion yn cael eu postio yn agosach at ddiwrnod y cyfarfod.