Back
Ymweliad Democratiaeth Leol Ar Gyfer Senedd Ysgol Caerdydd

23/10/23

Cafodd disgyblion o ysgol gynradd yn y ddinas gipolwg arbennig ar ddemocratiaeth leol yng Nghaerdydd ar ymweliad â Neuadd y Sir.

Fel rhan o'r Wythnos Ddemocratiaeth Leol yr wythnos diwethaf, gwnaeth plant o Flynyddoedd 3-6 Ysgol Gynradd Howardian gyfarfod â Phrif Ddinesydd Caerdydd, un o Aelodau Cabinet y cyngor ac un o gynghorwyr Ward y ddinas, i helpu i ehangu eu gwybodaeth am sut mae democratiaeth leol yn gweithio.

Gwahoddwyd y disgyblion i Neuadd y Sir ar ôl i athro Howardian, Nia Court, ymuno â'r Rhaglen Cenhadon Democratiaeth, a drefnwyd gan dîm Gwasanaethau Etholiadol y Cyngor. Mae'r rhaglen yn cefnogi ysgolion cynradd ac uwchradd yn y ddinas i ddysgu mwy am ddemocratiaeth leol trwy gofrestru athrawon fel Cenhadon Democratiaeth.

Mae athrawon sy'n dod yn Genhadon yn cael mynediad at ystod eang o adnoddau a syniadau i ennyn diddordeb disgyblion a myfyrwyr, hyfforddiant Datblygiad Proffesiynol Parhaus a chefnogaeth gan y Gwasanaethau Etholiadol.

Dysgodd y plant, nad ydynt yn ddieithriaid i ddemocratiaeth - maent yn aelodau o gyngor ysgol Howardian, 'Y Senedd', am bleidleisio a sut mae cyfrifiadau etholiadau'n gweithio, gan gynnwys cymryd rhan yn eu pleidlais fach eu hunain, a sut mae'r Cyngor yn gwneud penderfyniadau.

Cyfarfu'r Arglwydd Faer, y Cynghorydd Bablin Molik, â'r plant i egluro ei rôl tra bod y Cynghorydd Julie Sangani, wedi siarad am ei rôl fel Aelod Cabinet dros Drechu Tlodi, Cydraddoldeb ac Iechyd y Cyhoedd (Iechyd y Cyhoedd a Chydraddoldeb), a disgrifiodd y Cynghorydd Jon Shimmin y rôl y mae Cynghorydd Ward yn ei chwarae yn y ddinas.

Gwahoddwyd yr ymwelwyr i eistedd yn siambr y Cyngor, rhoi cynnig ar y system bleidleisio electronig a ddefnyddir gan aelodau yn ystod cyfarfodydd Cyngor Llawn, a chlywed sut mae cyfarfodydd hybrid yn gweithio gyda rhai aelodau'n mynychu'r siambr ac eraill yn ymuno o bell.

Ar ddiwedd yr ymweliad, cyflwynwyd tystysgrif i bob aelod o'r Senedd ifanc gan yr Arglwydd Faer i gydnabod eu cyfranogiad.

Dywedodd Arglwydd Faer Caerdydd, y Cynghorydd Bablin Molik: "Roedd yn bleser croesawu Howardian i Neuadd y Sir i helpu i gynyddu eu dealltwriaeth o ddemocratiaeth leol a sut y gallant gymryd rhan.  Roedd gan y plant ddiddordeb mawr yn y gweithgareddau a drefnwyd ar eu cyfer ac roeddent yn gofyn cwestiynau deallus iawn. Pwy a ŵyr, efallai ein bod wedi cwrdd ag Arglwydd Faer neu arweinydd Cyngor y dyfodol."

Dywedodd y Cynghorydd Sangani: "Mae mor bwysig cynnwys plant mewn democratiaeth leol o oedran cynnar, fel Senedd wych Howardian y gwnaethom gwrdd â nhw ar yr ymweliad hwn. Gall pobl ifanc golli pob diddordeb mewn democratiaeth a phleidleisio yn hawdd, felly trwy ddarparu cyfleoedd fel hyn lle caiff y plant gyfle i gyfarfod ag aelodau etholedig, dysgu sut mae'r Cyngor yn gweithio a sut y gwneir penderfyniadau sy'n effeithio arnyn nhw, eu ffrindiau a'u teuluoedd, byddant yn tyfu i fyny yn awyddus i gyfrannu at faterion sy'n bwysig iddyn nhw.

Dywedodd Nia Court, athro yn Howardian a Chennad Democratiaeth: "Mae'r cyfle hwn wedi bod yn bwysig i'n disgyblion yn Ysgol Gynradd Howardian. Mae ein 'Senedd' wrth wraidd ein hysgol ac rydym yn falch o'r rôl y maent yn ei chwarae wrth helpu i wella ein hysgol trwy lais y disgybl.

"Mae'r profiad hwn wedi rhoi cyfle i'n 'Senedd Ysgol' ddysgu sut mae'r byd yn gweithio ac mae wedi eu hysbrydoli i ddefnyddio'r un egwyddorion yn ein hysgol ni. Rydym yn teimlo'n ffodus iawn ein bod wedi cael ein cynnwys yn y prosiect peilot hwn ac allwn ni ddim aros i gymryd rhan yn y dyfodol.

"Mae wedi bod yn wych gweld ein plant yn dysgu mwy am sut mae'r byd yn gweithio drwy'r 'Rhaglen Cenhadon Democratiaeth' ardderchog ac rydym yn hyderus ein bod yn helpu i greu disgyblion sy'n unigolion hyderus, iach sy'n egwyddorol wybodus am y byd y maent yn byw ynddo."

Dywedodd Frank, 8 oed, sy'n ddisgybl ym Mlwyddyn 3: "Fy hoff ran oedd bod yn y siambr."

Dywedodd Cerrys, 7 oed, o Flwyddyn 3: "Roeddwn i'n hoffi esgus pleidleisio."

Mae'r Cyngor yn awyddus i estyn y gwahoddiad i ysgolion eraill ar draws y ddinas ymweld â Neuadd y Sir a dysgu mwy am ddemocratiaeth leol. Os ydych chi'n gynrychiolydd ysgol ac yr hoffech gael gwybod mwy am y rhaglen Cenhadon Democratiaeth a chyfleoedd yn y dyfodol, cysylltwch â Selma.abdalla@caerdydd.gov.uk