Back
'Ti'n gêm?' wrth i aelodau o Wasanaethau Ieuenctid Caerdydd godi arian drwy chwarae gemau yn fyw ar gyfer BBC Plant Mew

  

1/11/2023

 

Bydd pedwar person ifanc o Wasanaethau Ieuenctid Caerdydd yn cymryd rhan mewn ymgyrch codi arian gemau byw ar gyfer BBC Plant Mewn Angen. 

Gyda chefnogaeth Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd, teithiodd Lee, Sam, Owen a James i Fangor yn gynharach y mis hwn i gystadlu yn Hado, cystadleuaeth chwaraeon realiti estynedig, ac maent wedi cael eu rhoi yn y safle uchaf ar draws wyth twrnamaint a gynhaliwyd ledled gwledydd Prydain. 

Byddant nawr yn ymddangos ar y rhaglen "Game On" a gaiff ei darlledu'n fyw ar 10 Tachwedd gyda'r nod o unochwaraewyr gemau ar hyd a lled y wlad er mwyn helpu i godi arian ar gyfer BBC Plant Mewn Angen.

Bydd y sioe, a wnaed gan BBC Studios Entertainment and Music a'i chomisiynu gan y BBC, yn cael ei darlledu ar BBC Three a BBC iPlayer am 7pm ac arni byddllu o enwogion, crewyr cynnwys, dylanwadwyr, chwaraewyr gemau ac aelodau o'r cyhoedd a fydd yn herio ei gilydd mewn sioe ddwy awr.

Bydd aelodau'r cyhoedd yn cael cyfle i gystadlu yn y sioe fyw epig trwy chwarae tair gêm eiconig trwy Daith Sim Rig BBC Plant Mewn Angen, Just Dance for Pudsey BBC Plant Mewn Angen a Thwrnamaint Hado ar gyfer BBC Plant Mewn Angen.

Wrth sôn am y newyddion da, dwedodd Owen: "Dwi'n caru Hado dwi'n teimlo'n fwy byw pan dwi'n ei chwarae achos dwi'n cymryd rhan mewn ymarfer corff, dwi'n newydd i Hado ond byddwn i'n bendant yn annog eraill i roi cynnig arni achos mae'n ymarfer corff da ac mae'n hwyl.

"Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at y rownd derfynol fydd yn fyw ar y teledu felly cofiwch diwnio i mewn a'n gwylio ni!"

 

Dwedodd y Cynghorydd Peter Bradbury, yr Aelod Cabinet dros Drechu Tlodi a Chefnogi Pobl Ifanc:   "Mae Gwasanaethau Ieuenctid Caerdydd yn parhau i ddarparu ystod eang o gyfleoedd a phrofiadau i bobl ifanc y ddinas, gan feithrin a chefnogi eu diddordebau a galluogi plant a phobl ifanc i gymryd rhan mewn gweithgareddau y maent yn eu mwynhau. 

"Mae cymryd rhan mewn darllediad chwarae gemau byw sy'n cefnogi achos mor dda yn gamp wych ac rwy'n dymuno pob lwc i'r grŵp ar gyfer y gystadleuaeth." 

 

Gallwch ddarllen mwy am sioe Game On yma:https://www.televisual.com/news/bbcs-makes-children-in-need-gaming-show/

 

I gael rhagor o wybodaeth am Wasanaeth Ieuenctid Caerdydd ewch i:www.gwasanaethieuenctidcaerdydd.cymru

 

Neu dilynwch nhw ar y cyfryngau cymdeithasol:

Facebook ac Instagram - @CardiffYouthService
Twitter- @YouthCardiff

 

 

 

 

 

 

(ends)

Cardiff Council Media Advisor Danni Janssens Tel: 029 20872965

Email: danni.janssens@cardiff.gov.uk