Back
Caerdydd yn lansio bwydlen prydau ysgol cynradd newydd yn ystod Wythnos Genedlaethol Prydau Ysgol

06/11/23

6 - 10 Tachwedd 2023

Mae Caerdydd yn dathlu Wythnos Genedlaethol Prydau Ysgol 2023 gyda lansiad bwydlen prydau ysgol cynradd newydd ar gyfer dechrau'r hanner tymor newydd.

A group of children eating at a tableDescription automatically generated

Mae Wythnos Genedlaethol Prydau Ysgol yn ymgyrch genedlaethol gan LACA - The School Food People, sy'n ceisio taflu goleuni ar y manteision y mae prydau ysgol o safon yn eu cael ar iechyd a lles plant a phobl ifanc.  Mae'r ymgyrch hefyd yn tynnu sylw at werth prydau ysgol, yn enwedig i deuluoedd a allai fod yn wynebu heriau a achosir gan yr argyfwng costau byw a chostau bwyd cynyddol. Gallwch ddarllen mwy yma:
Wythnos Genedlaethol Prydau Ysgol - Wythnos Genedlaethol Prydau Ysgol (lacansmw.co.uk)

Eleni, nod yr ymgyrch wythnos o hyd yw annog plant nad ydynt wedi rhoi cynnig ar brydau ysgol ers tro i roi cynnig arnynt, neu i gwsmeriaid presennol flasu prydau newydd.

Mae bwydlen prydau ysgol cynradd newydd Caerdydd wedi'i datblygu i gynnig deg pryd newydd ynghyd â ffefrynnau disgyblion. Gwnaed amrywiaeth o welliannau i'r fwydlen newydd, gan gynnwys defnyddio nifer o gynhyrchion Cymreig fel bara, selsig ac iogwrt gan helpu i gefnogi economi Cymru a hyrwyddo cynaliadwyedd.

Bydd dau ddogn o lysiau yn parhau i gael eu cynnig gyda phob pryd fel rhan o ymrwymiad parhaus Cyngor Caerdydd i'r addewid llysiau Pys Plîs, sydd uwchlaw safon isaf Bwyta'n Iach mewn Ysgolion (Gofynion  a Safonau Maeth Cymru 2013), mae pob cynnyrch pysgod wedi'i ardystio'n gynaliadwy gan yr MSC (Cyngor Stiwardiaeth Forol) ac ehangwyd nifer yr opsiynau sy'n seiliedig ar blanhigion ar draws y prif gyrsiau a phwdinau.

Mae'r fwydlen yn cydymffurfio'n llawn â Bwyta'n Iach mewn Ysgolion ac mae wedi derbyn y dystysgrif cydymffurfio gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, sy'n gyfrifol am fonitro cydymffurfiaeth yng Nghymru. 

Dwedodd y Cynghorydd Sarah Merry, Dirprwy Arweinydd a'r Aelod Cabinet dros Addysg: "Rydym yn gwybod bod darparu prydau ysgol iach a maethlon yn cael effaith gadarnhaol ar ddysgwyr ac mae wythnos Genedlaethol Prydau Ysgol yn helpu i dynnu sylw at hyn.  Mae ein timau arlwyo ysgolion yn gweithio'n galed i ddatblygu bwydlen amrywiol a chynhwysol i blant ei mwynhau, gan fodloni'r gofynion a osodwyd gan Lywodraeth Cymru.  Yn ogystal, gyda'r defnydd o gynnyrch Cymreig, Prydeinig ac ardystiedig, gall teuluoedd fod yn dawel eu meddwl bod dewis prydau ysgol yn cynnig ystod o fanteision cadarnhaol."

Ychwanegodd y Cynghorydd Sarah Merry: "Mae llawer o deuluoedd ar draws y ddinas yn dal i brofi pwysau a achosir gan yr argyfwng costau byw.  Mae'r cynllun Prydau Ysgol Am Ddim eisoes wedi galluogi mwy na 7800 o deuluoedd plant oed cynradd i fanteisio ar y ddarpariaeth, ond mae llawer mwy sydd eto i fanteisio arno. 

"Rydym wedi ymrwymo i sicrhau nad yw'r wasgfa ariannol yn amharu ar addysg a bod y rhieni hynny sydd ei angen fwyaf, yn cael yr help y mae ganddynt hawl iddo.  Rwy'n annog unrhyw un sy'n credu y gallen nhw fod yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim trwy gynlluniau cyffredinol neu fudd-daliadau, i gysylltu, fel y gallant gael y gefnogaeth gywir gydol y flwyddyn ysgol."  Mae cymorth a chyngor ar gael gan ein timau Cyngor a Budd-daliadau." 

Mae'r cynllun Prydau Ysgol am Ddim i Holl Blant Ysgolion Cynradd yn cael ei ddarparu i bob disgybl o'r Dosbarth Derbyn i Flwyddyn 3. Mae timau'r cyngor yn parhau i weithio'n galed i gynyddu'r capasiti arlwyo a rhoi darpariaeth ar waith fel y gellir cyflwyno prydau ysgol am ddim i'r grwpiau blwyddyn cynradd sy'n weddill erbyn y dyddiadau targed, cyn gynted ag y bydd ysgolion yn gallu gwneud hynny.

Yn ogystal â'r cynllun Prydau Ysgol am Ddim I Holl Blant Ysgolion Cynradd, rhaid i deuluoedd sy'n derbyn budd-daliadau sydd â phlant o bob oed, barhau i gofrestru am brydau ysgol am ddim.  Manylion yma:
Prydau Ysgol Am Ddim (caerdydd.gov.uk)

Gallant hefyd fod yn gymwys i dderbyn grantiau eraill a all helpu i brynu gwisg ysgol a hanfodion ysgol eraill.  Gall cofrestru am gymorth sydd ar gael hefyd olygu y gall ysgol plentyn gael cyllid ychwanegol y gellir ei wario ar gefnogi dysgu. 

Mae'r budd-daliadau cymwys yn cynnwys:

  • Cymhorthdal Incwm
  • Lwfans Ceisio Gwaith yn Seiliedig ar Incwm
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn Seiliedig ar Incwm
  • Cymorth dan ran VI Deddf Mewnfudo a Lloches 1999 
  • Elfen Warantedig y Credyd Pensiwn
  • Credyd Treth Plant (heb hawl hefyd i Gredyd Treth Gwaith ac sydd ag incwm gros blynyddol o ddim mwy na £16,190)
  • Estyniad y Credyd Treth Gwaith - yn cael ei dalu am 4 wythnos ar ôl y dyddiad pan na fyddwch yn gymwys ar gyfer Credyd Treth Gwaith mwyach 

O ran Credyd Cynhwysol - ar gyfer ceisiadau a wnaed ar neu ar ôl 1 Ebrill 2018, rhaid i incwm eich aelwyd fod yn llai na £7,400 y flwyddyn (ar ôl treth a heb gynnwys unrhyw fudd-daliadau eraill a dderbyniwch)

Ers mis Medi, mae dysgwyr cymwys yng Nghaerdydd wedi gallu derbyn cymorth ariannol ychwanegol gan gynllun Grant Hanfodion Ysgol Llywodraeth Cymru (GHY) sy'n helpu gyda chost gwisg ysgol, offer chwaraeon, deunydd ysgrifennu, a dyfeisiau.  Mae hyn yn ogystal â Phrydau Ysgol am Ddim.

Os ydych chi'n deulu sydd â phlant nad ydynt yn cael Prydau Ysgol am Ddim ar hyn o bryd a bod eich amgylchiadau wedi newid eleni, efallai y gall Cyngor Caerdydd roi cymorth i chi. I gadarnhau a ydych yn gymwys i gael Prydau Ysgol am Ddim (PYADd) a Grant Hanfodion Ysgol (GHY) sy'n cynnwys cymorth ar gyfer gwisg ysgol, offer chwaraeon a dyfeisiau, ewch i:
Prydau Ysgol am Ddim (caerdydd.gov.uk)

Gallwch hefyd ffonio'r Llinell Gyngor ar 029 2087 1071 neu alw heibio i un o'n Hybiau.

Mae nifer o ysgolion yng Nghaerdydd yn rhedeg cynlluniau ailgylchu gwisg ysgol a cheir cynlluniau gwisg ysgol eraill ledled y ddinas, fel un yr elusen A Better Fit.

Am fwy o wybodaeth, ewch i:
Darganfod mwy am brydau ysgol am ddim | LLYW.CYMRU

Ar hyn o bryd mae gan Gyngor Caerdydd amrywiaeth o gymorth i bobl sy'n ei chael hi'n anodd ymdopi â phwysau costau byw.  Mae hyn yn cynnwys cymorth i gael bwyd, cyngor ar filiau tanwydd y gaeaf, cymorth gydag ôl-ddyledion rhent a llawer mwy. Rydym yn annog unrhyw un sy'n cael anawsterau ar hyn o bryd i gysylltu â'n Tîm Cyngor Ariannol ar 029 2087 1071, e-bostio hybcynghori@caerdydd.gov.uk, galw draw i unrhyw Hyb neu ymweld â www.caerdydd.gov.uk/costaubyw