Back
LACA yn cyflwyno dwy Wobr Cymru i Wasanaeth Arlwyo Addysg Caerdydd

9/11/2023

Mae Gwasanaeth Arlwyo Addysg Cyngor Caerdydd wedi cael ei gydnabodam ei ymroddiad, ei arloesedd a'i gyfraniad rhagorol at y sector arlwyo ysgolion. 

Mewn seremoni wobrwyo ddiweddar, a gynhaliwyd gan LACA - The School Food People, Rhanbarth Cymru, daeth Caerdydd i'r brig yn y categori Effaith Gymunedol am gyflwyno'r Llwybr Cyflogaeth â Chymorth Hyblyg (FSEP).

 

Mae FSEP yn rhoi'r cymorth a'r hyfforddiant angenrheidiol i bobl ifanc ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) fel y gallant symud ymlaen yn llwyddiannus i gyflogaeth, ac mae'n cael ei ddarparu gan Addewid Caerdydd mewn partneriaeth â Thîm ADY ôl-16 yr Awdurdod Lleol a Gwasanaeth Arlwyo Addysg Cyngor Caerdydd, fel y partner cyflogaeth.

Ers ei lansio ym mis Mai, mae pedwar person ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol a/neu awtistiaeth wedi cael hyfforddiant a phrofiad gwaith 12 mis i'w paratoi a'u cefnogi wrth iddynt bontio o'r ysgol i gyflogaeth lawn-amser.

Mae'r disgyblion 16-18 oed o'r Canolfannau Adnoddau Arbenigol yn Ysgolion Uwchradd Cantonian a Llanisien wedi ennill profiad ymarferol mewn cegin fasnachol ac wedi cael hyfforddiant sgiliau gwaith, gan gynnwys y Cymhwyster Hylendid Bwyd Lefel 2.  Maent wedi cael mynediad i gyfleoedd unigryw, gan bontio i gyflogaeth â thâl drwy'r fenterBwyd a Hwyl, rhaglen cyfoethogi gwyliau'r ysgol glodwiw Caerdydd sy'n cynnig darpariaeth iechyd a lles i blant yn ystod gwyliau'r ysgol.

Y bwriad nawr yw ehangu'r rhaglen i gynnwys disgyblion o Ysgol Uwchradd Gymunedol Gorllewin Caerdydd ac Ysgol Uwchradd y Dwyrain.

Dywedodd y Cynghorydd Sarah Merry, Dirprwy Arweinydd Cyngor Caerdydd a'r Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau: "Mae'n wych bod ein timau wedi cael cydnabyddiaeth am y gwaith gwych sy'n cael ei wneud ar draws gwasanaeth arlwyo ysgolion Caerdydd.

"Mae'r Llwybr Cyflogaeth â Chymorth Hyblyg wedi llwyddo i helpu'r bobl ifanc dan sylw i adeiladu annibyniaeth a hyder, gan roi'r sgiliau a'r wybodaeth iddynt fel y gallant symud ymlaen i ddod o hyd i gyflogaeth yn y dyfodol.

"Gan gyfrannu at amcanion Caerdydd i gefnogi plant a phobl ifanc sydd angen darpariaeth ac arweiniad ychwanegol, mae'r cynllun yn cynnig cyfleoedd go iawn a mynediad at brofiad gwaith o ansawdd sy'n galluogi dysgwyr i integreiddio fel cyflogeion, cael profiad o'r amgylchedd gwaith, a dysgu am yr hyn a ddisgwylir ganddynt."

Yn ogystal â'r Wobr Effaith Gymunedol, mae Gwasanaeth Arlwyo Addysg Caerdydd hefyd wedi ennill Gwobr Bwyd mewn Ysgolion Llywodraeth Cymru am y gwaith a wnaed i gyflwyno'r Cynllun Prydau Ysgol Am Ddim Cyffredinol ar gyfer plant cynradd, sydd bellach yn cael ei gynnig i bob disgybl o'r Derbyn i Flwyddyn 3.

Ychwanegodd y Cynghorydd Merry:  "Mae'n dda gweld bod Llywodraeth Cymru wedi cydnabod y gwaith sylweddol a wnaed gan Awdurdodau Lleol ledled y wlad i gyflwyno'r Cynllun Prydau Ysgol Am Ddim Cyffredinol. Mae timau'r cyngor yn parhau i weithio'n galed i gynyddu'r capasiti arlwyo a rhoi darpariaeth ar waith fel y gellir cyflwyno prydau ysgol am ddim i'r grwpiau cynradd sy'n weddill erbyn y dyddiadau targed, cyn gynted ag y bydd ysgolion yn gallu gwneud hynny."

Darllenwch fwy am y Gwobrau LACA yma: LACA yn cyhoeddi enillwyr Gwobrau Cymru | LACA, the school food people