Back
Newidiadau cyffrous arfaethedig wrth ddarparu Gwasanaethau Gwaith Ieuenctid yng Nghaerdydd

09.11.23
Mae adolygiad eang o sut mae Cyngor Caerdydd yn helpu pobl ifanc drwy waith ieuenctid wedi cynnig amrywiaeth o newidiadau i dimau Gwasanaeth Ieuenctid yr awdurdod.

Mewn adroddiad newydd a fydd yn cael ei drafod gan Gabinet y Cyngor ddydd Iau, 23 Tachwedd, gofynnir i gynghorwyr gytuno ar weledigaeth, egwyddorion a model gweithredu newydd ar gyfer Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd sy'n newid y dull presennol o 'Un dull i bawb', i strategaeth sy'n seiliedig ar ardal, ac sy'n mynd i'r afael â bylchau yn y ddarpariaeth wrth dargedu ardaloedd lle mae’r angen mwyaf.

Lluniwyd yr adroddiad ar ôl adolygiad ar raddfa lawn o'r gwasanaeth yn 2022 ac arfarniad dilynol o naw mis o sut mae gwasanaethau gwaith ieuenctid yn gweithredu yng Nghaerdydd. Mae wedi ystyried barn pobl ifanc ledled y ddinas a gyfrannodd at drafodaethau ar y mathau o gefnogaeth a gwasanaethau yr hoffent eu gweld.

Daeth adolygiad o Wasanaeth Ieuenctid Caerdydd yn 2021 gan arolygwyr Estyn i'r casgliad ei fod yn cynnig 'darpariaeth o ansawdd uchel' gyda chanmoliaeth arbennig am y gefnogaeth a gynigir i iechyd a lles emosiynol pobl ifanc a defnydd effeithiol o lwyfannau digidol.

Ond mae uchelgeisiau 'Cryfach, Tecach, Gwyrddach' y Cyngor yn cynnwys ymrwymiad i wella bywydau pobl ifanc a sicrhau bod gwasanaethau ieuenctid ar gael ar lefel gyfartal ledled y ddinas ac yn ymateb i anghenion gwahanol gymunedau a grwpiau o bobl ifanc, gan gynnwys unigolion LHDTC+ ifanc, y rhai ag anghenion dysgu ychwanegol, y rhai ag anableddau, gofalwyr ifanc a phobl ifanc sydd â phrofiad o'r system ofal.

Byddai'r model gweithredu newydd ar waith erbyn mis Ebrill 2024 a byddai ganddo dimau lleol cryf wrth ei wraidd, wedi'u lleoli mewn ardaloedd lle mae’r angen mwyaf. Byddai pob tîm lleol yn darparu:

  •  Darpariaeth clwb ieuenctid mynediad agored cyffredinol, gan gynnwys yn ystod gwyliau'r ysgol (nad yw ar gael ar hyn o bryd)
  • Cymorth wedi'i dargedu ar gyfer y bobl ifanc sydd ei angen fwyaf
  • Gweithwyr ieuenctid ar y stryd i gefnogi'r bobl ifanc anoddaf eu cyrraedd
  • Gweithwyr cymorth ieuenctid yn cynnig mwy o gymorth un-i-un rhwng ysgolion a lleoliadau cymunedol
  • Grwpiau cynhwysol, a fyddai'n agored i aelodau'r ddinas gyfan
  • Cysylltiad â darparwyr gwasanaethau pobl ifanc eraill yn yr ardal honno i sicrhau'r defnydd gorau o adnoddau a'r effaith fwyaf.

Bydd timau lleol yn cael eu hategu gan:

  •  Tîm Cymraeg i barhau i adeiladu'r arlwy gwaith ieuenctid cyfrwng Cymraeg
  • Tîm gwaith ieuenctid digidol i gynnig mynediad cyffredinol i waith ieuenctid drwy lwyfannau ar-lein arloesol
  • Tîm canol y ddinas sydd wedi'i gynllunio i ymateb i anghenion unigryw pobl ifanc mewn amgylchedd canol dinas.

Byddai ei brif egwyddorion yn cynnwys:

  •  Sicrhau y bydd ymgysylltiad pobl ifanc â gwasanaethau yn wirfoddol
  • Darparu amgylcheddau a mannau diogel i bobl ifanc i gefnogi eu diogelwch a'u lles
  • Blaenoriaethu Plant sy’n Derbyn Gofal mewn unrhyw gais am gymorth gwaith ieuenctid un i un.

Wrth drafod yr adroddiad newydd, dywedodd y Cynghorydd Peter Bradbury, Aelod Cabinet Cyngor Caerdydd dros Drechu Tlodi a Chefnogi Pobl Ifanc: “Drwy gydol y pandemig ac, yn fwy diweddar, yn ystod cyfnodau heriol iawn i bobl ifanc, fel yr aflonyddwch yn Nhrelái ym mis Mai, mae'r Gwasanaeth Ieuenctid wedi profi ei werth.

“Mae'n chwarae rhan allweddol wrth sicrhau bod y genhedlaeth iau wedi’u paratoi, eu cefnogi a’u grymuso’n dda i lywio heriau’r byd sydd ohoni.

“Mae'r adolygiad hwn, a'r argymhellion ynddo, yn sicrhau y bydd y gwaith hwn yn parhau ac, yn bwysig, bydd yn cael ei dargedu i gyrraedd yr ardaloedd a'r bobl ifanc hynny sydd ei angen fwyaf - rydyn ni'n rhoi ein hadnoddau lle mae'r angen mwyaf.

“Un o'r buddugoliaethau mawr fydd gweld darpariaeth ieuenctid sydd ar gael drwy gydol y flwyddyn ac nid yn ystod tymor ysgol yn unig, fel y mae nawr. Byddwn yn mabwysiadu dull gweithredu cyngor cyfan. Bydd hyn yn gweld gwasanaethau eraill sy'n darparu cyfleoedd i bobl ifanc gysylltu â gwasanaethau ieuenctid i ddarparu gwasanaeth mor eang â phosibl, un sydd wedi'i integreiddio'n well gyda chynnig mwy eang.”

Ymysg yr argymhellion yr adroddiad mae’r canlynol:

  •  Dylai darparu'r gwasanaeth fod yn ddibynnol ar angen a'r cyd-destun cymunedol lleol y mae'r gwasanaeth yn cael ei ddarparu ynddo
  • Cynllun strategol pum mlynedd i integreiddio gwasanaethau gwaith ieuenctid â gwasanaethau ehangach i bobl ifanc ledled y ddinas
  • Dylai'r tîm Dinas sy'n Dda i Blant (a sicrhaodd statws Dinas sy'n Dda i Blant y Cenhedloedd Unedig ar gyfer Caerdydd fis diwethaf) barhau i weithio ochr yn ochr â'r Gwasanaeth Ieuenctid i helpu i fesur ac ymateb i farn pobl ifanc, a
  • Galluogi mwy o gydweithio ag ysgolion i gefnogi'r dysgwyr mwyaf agored i niwed.

Bydd yr adroddiad a'r argymhellion yn cael eu trafod ym Mhwyllgor Craffu Plant a Phobl Ifanc y Cyngor ddydd Mawrth, 14 Tachwedd, am 5pm. I weld yr adroddiad llawn, agenda'r cyfarfod, a gwe-ddarllediad byw o'r cyfarfod ar y diwrnod, dilynwch y ddolen hon https://tinyurl.com/2p9ewcs4  

Yna bydd yr adroddiad yn mynd i'r Cabinet i'w gymeradwyo o 2pm ddydd Iau, 23 Tachwedd. Bydd ffrwd fyw o'r cyfarfod hwnnw ar gael i'w weld yma https://tinyurl.com/ydpjar42