Back
Caerdydd yn ennill Gwobr Dinas y Flwyddyn

10/11/23

Mae Caerdydd wedi ei choroni'n 'Ddinas y Flwyddyn' yng Ngwobrau blynyddol EG, 2023.

Mae gwobrau EG yn dathlu'r pethau gorau oll am y sector eiddo tiriog; gan gynnwys y bargeinion gorau; y datblygiadau gorau; y busnesau gorau; y lleoedd gorau i weithio; y dalent sy'n codi; y rhai sy'n newid y gêm a'r rhai sy'n ysbrydoli. Yn fyr, mae hwn yn ddigwyddiad sy'n dathlu'r holl bethau da y mae eiddo tiriog yn ei wneud.

Cyflwynwyd ceisiadau am y gwobrau gan ystod o sefydliadau'r sector cyhoeddus a phreifat, gan gwmpasu categorïau, gan gynnwys Partneriaethau Cyhoeddus/Preifat; Seren y Dyfodol; Cynaliadwyedd; Effaith Gymdeithasol; Bargen Ranbarthol; Man Gwaith Gorau, a llawer mwy.

Enillodd 'Cyfoethogi Caerdydd' wobr 'Dinas y Flwyddyn', gan gystadlu yn erbyn Cyngor Dinas Birmingham a 'Marketing Derby' ar gyfer y wobr.

Mae'r wobr yn cydnabod gweledigaeth Caerdydd ar gyfer y ddinas a rhaglen adeiladu tai cyngor arloesol Caerdydd, sef y mwyaf yng Nghymru, gan groesawu'r agenda cynaliadwyedd a datgarboneiddio parhaus.

Daeth y beirniaid i'r casgliad bod Caerdydd, fel dinas, wedi mynd y filltir ychwanegol o ran cofleidio ei gweledigaeth werdd trwy gyflenwi cartrefi mwy fforddiadwy a chynaliadwy i'w dinasyddion.

Ers derbyn y wobr, dwedodd y Cynghorydd Huw Thomas, Arweinydd Cyngor Caerdydd: " Rwy'n falch iawn bod Caerdydd wedi cael ei chydnabod yng Ngwobrau EG fel Dinas y Flwyddyn.  Mae Caerdydd yn ymfalchïo mewn bod yn lle gwych i weithio a gwneud busnes, sy'n denu ac yn cadw'r dalent orau, lle mae pobl wrth eu bodd yn byw ac yn ddinas i bawb, waeth beth fo'u cefndir.  

"Mae hyn yn cynnwys cyflawni'r canlyniadau tai gorau i bobl Caerdydd, gweithio gyda'n partneriaid i sicrhau bod ein holl ddinasyddion yn gallu manteisio ar gartrefi fforddiadwy a chynaliadwy o ansawdd uchel, drwy ddangos sut y bydd Cyngor Dinas Caerdydd a'i bartneriaid yn siapio a chyflawni darpariaeth a gwasanaethau tai yn y dyfodol ar draws y ddinas".

"Fel rhan o weledigaeth Cryfach, Tecach,GwyrddachCyngor Caerdydd, mae ein rhaglen ddatblygu arloesol ac arobryn yn parhau i fod y rhaglen adeiladu tai cyngor fwyaf yng Nghymru ac mae'n parhau hefyd i gyflawni cartrefi newydd ar raddfa fawr. Mae'r holl gartrefi a adeiladwn yn cyrraedd safonau effeithlonrwydd ynni o ansawdd uchel iawn i sicrhau bod cartrefi'n fforddiadwy i'w rhedeg ar gyfer ein tenantiaid ac yn gyfforddus i fyw ynddynt yn ogystal â helpu'r cyngor i gyflawni ei amcanion datgarboneiddio".