Back
Mae Ceisiadau Ysgolion Cynradd ar agor nawr

13/11/23

Mae ceisiadau am leoedd mewn ysgolion cynradd i ddechrau ym mis Medi 2024 ar agor nawr ac mae rhieni'n cael eu hannog i ddefnyddio pob un o'u pum dewis am y cyfle gorau i gael lle mewn ysgol sydd wedi'i dewis ganddyn nhw. 

A group of children sitting on the floorDescription automatically generated

Mae Cyngor Caerdydd hefyd yn gofyn i deuluoedd wneud cais yn brydlon ac i gofio nad oes gan blentyn hawl awtomatig i le mewn dosbarth derbyn ysgol gynradd os yw'n mynychu meithrinfa'r ysgol honno. Rhaid gwneud cais o'r newydd am le mewn dosbarth derbyn ysgol gynradd.

Mae pob ardal yng Nghaerdydd yn cael ei gwasanaethu gan ysgol gynradd gymunedol Gymraeg, ysgol gynradd gymunedol Saesneg, Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru ac Ysgol Gynradd Gatholig.  

Caiff ceisiadau am le mewn ysgolion cymunedol eu gwneud yn uniongyrchol i'r Cyngor drwy'r system dderbyn ar-lein. Mae'r Cyngor hefyd yn cydlynu derbyniadau ar gyfer 20 o'r 23 ysgol ffydd gynradd yng Nghaerdydd.  I gael lle mewn ysgol sy'n rhan o'r cynllun derbyniadau cydlynol, rhaid i chi wneud cais trwy system dderbyniadau ar-lein y Cyngor. Efallai y bydd angen i chi hefyd gyflwyno ffurflen arall a/neu fanylion pellach yn uniongyrchol i'r ysgol (neu'r ysgolion) rydych yn ei (eu) ffafrio.

Dylai rhieni sy'n gwneud cais am le yn Ysgol Gynradd yr Eglwys Yng Nghymru Dinas Llandaf, Ysgol Gynradd Gatholig Sant John Lloyd neu Ysgol Gynradd Gatholig Sant Padrig, wneud cais yn uniongyrchol i'r ysgol.

I weld rhestr o'r 20 ysgol ffydd sydd wedi'u cynnwys yn y cynllun cydlynol ac i gael mwy o wybodaeth am dderbyniadau i ysgolion, ewch i:
Derbyniadau i ysgolion cynradd (caerdydd.gov.uk).

Dywedodd y Cynghorydd Sarah Merry, Dirprwy Arweinydd a'r Aelod Cabinet dros Addysg: "Rydym am sicrhau bod gwneud cais am le mewn ysgol gynradd mor syml â phosibl. Trwy sicrhau bod teuluoedd yn deall yn glir sut mae'r broses dderbyn yn gweithio a sut i wneud cais am le mewn ysgol yn gywir, mae mwy o deuluoedd yn gallu cael lle mewn un o'r ysgolion maen nhw'n eu ffafrio.

"Ers lansio ein hymgyrch dderbyniadau bedair blynedd yn ôl, rydym wedi gweld cynnydd yn nifer y rhieni sy'n gwneud cais am leoedd mewn ysgolion yn gywir ac yn brydlon, sy'n gam cadarnhaol tuag at sicrhau bod gan bob teulu yng Nghaerdydd y wybodaeth, y cymorth a'r ddealltwriaeth fel nad yw dan anfantais wrth wneud cais am le mewn ysgol.

"Atgoffir rhieni y gallan nhw nodi pum ysgol y maen nhw'n eu ffafrio. Hefyd, mae 20 ysgol ffydd yn rhan o broses derbyniadau cydlynol Caerdydd, sy'n golygu y gall y teuluoedd hynny sy'n dymuno gwneud cais am leoedd mewn ysgolion cymunedol ac ysgolion ffydd wneud hynny gan ddefnyddio porthol derbyniadau Caerdydd."

Mae pob ardal y ddinas yn cael ei gwasanaethu gan ysgol gynradd gymunedol Gymraeg. Mae addysg Gymraeg ar gael i bawb ni waeth a yw'r Gymraeg yn cael ei siarad gartref ac mae gan Gaerdydd uned drochi ysgolion cynradd sy'n rhoi cymorth iaith ychwanegol i blant.  

Mae mwy o wybodaeth am addysg Gymraeg ar gael yma:
Manteision Addysg Gymraeg (caerdydd.gov.uk)

Ychwanegodd y Cynghorydd Merry:  "Dim ots pa iaith sy'n cael ei siarad gartref, mae addysg Gymraeg ar gael i bob teulu, gan gynnig cyfleoedd i blant ddod yn gwbl rugl yn Gymraeg ac yn Saesneg. Bydd cynlluniau Caerdydd i ddatblygu Caerdydd ddwyieithog yn hyrwyddo'r Gymraeg fel iaith fyw fywiog a bydd yn adlewyrchu ein huchelgais bod pob person ifanc yn cael cyfle i glywed, siarad a mwynhau'r Gymraeg gan gynyddu ei brofiadau, ei sgiliau a'i gyfleoedd yn y dyfodol."

Mae arweiniad pellach ar y broses dderbyn ar gael gan Dîm Derbyn i Ysgolion Cyngor Caerdydd ac mae 7 o gynghorion wedi eu llunio i helpu teuluoedd gan esbonio sut mae'r broses dderbyn yn gweithio, pwysigrwydd defnyddio'r holl ddewisiadau sydd ar gael a pham y dylen nhw wneud cais yn brydlon. I weld y 7 o gynghorion a'r animeiddiad ewch i:
https://www.youtube.com/watch?v=ZqFFf-qb0HU

Gallwch chi gael cyngor ac arweiniad syml mewn 11 iaith wahanol yn ogystal â'r Gymraeg a'r Saesneg, a gall rhieni hefyd ofyn am gymorth a chyngor gan unrhyw un o Hybiau a llyfrgelloedd Caerdydd."

Bydd y cyfnod i wneud cais am le mewn ysgolion cynradd yn dod i ben ddydd Llun 8 Ionawr 2024. 

I wneud cais am le mewn ysgol, ewch i:
www.caerdydd.gov.uk/derbyniysgolion

Mae'r ymgyrch 7 o gynghorion gan Derbyn i Ysgolion yn cefnogi addewid Caerdydd i fod yn un o Ddinasoedd sy'n Dda i Blant cyntaf Unicef yn y DU, gan osod hawliau a lleisiau plant a phobl ifanc wrth wraidd polisïau, strategaethau a gwasanaethau Caerdydd. 

Mae'r wybodaeth hefyd ar gael ar y dudalen we mewn sawl iaith gan gynnwys Arabeg, Bengaleg, Cantoneg, Tsieceg, Mandarin, Pwyleg,  Portiwgaleg, Rwmaneg, Rwseg, Somalïeg ac Wcreineg.