Back
Tîm Ceidwaid Parciau Cymunedol yn ennill gwobr 'Tîm y Flwyddyn'

15.11.23

Mae Gwarchodfa Natur Fferm y Fforest yn gartref i las y dorlan, crëyr glas, gweision y neidr, mursennod, clychau'r gog, garlleg gwyllt, coetir hynafol, a nawr, enillwyr 'Tîm y Flwyddyn' Green Flag Parks UK 2023. 

Yn gweithio mewn hen ffermdy ar gyrion gwarchodfa Fferm y Fforest, Ceidwaid Parciau Cymunedol Caerdydd yw enillwyr diweddaraf y wobr 'Gorau o'r Gorau' hon sy'n dathlu'r timau sydd wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i'r 2,216 o barciau a mannau gwyrdd yn y DU sydd â Gwobr y Faner Werdd - y safon ansawdd rhyngwladol sy'n cydnabod ac yn gwobrwyo mannau gwyrdd sy'n cael eu rheoli'n dda.

Dywedodd y Cynghorydd Jennifer Burke, yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant, Parciau a Digwyddiadau:  "Mae gan ein tîm Ceidwad Cymunedol gyfoeth o brofiad cadwraeth amgylcheddol ac, ochr yn ochr â gwirfoddolwyr gwych, maen nhw'n chwarae rhan sylweddol wrth reoli'r cyfoeth o wahanol gynefinoedd rydym yn gofalu amdanynt. Mae eu gwybodaeth a'u hangerdd am fyd natur heb ei ail ac rydw i wrth fy modd eu bod wedi cael eu cydnabod gyda'r wobr hon."

Mae'r tîm Ceidwaid Parciau Cymunedol yn rheoli amrywiaeth o gynefinoedd ar Fferm y Fforest, gan gynnwys dolydd blodau gwyllt, coetir, gwrychoedd, gwlyptiroedd, perllan, a phlanhigfa goed newydd, a sefydlwyd fel rhan o raglen plannu coed dorfol Cyngor Caerdydd, Coed Caerdydd.

Maent hefyd yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau a chyfleoedd gwirfoddoli drwy gydol y flwyddyn gyda'r nod o gynyddu ymgysylltiad y cyhoedd â natur. 

Dywedodd yr Uwch Geidwad Parciau Cymunedol, Liz Birkinshaw: "Mae llawer o'r tîm wedi gweithio yn y rôl ers ugain mlynedd a mwy, ac rwy'n credu bod hynny'n dangos eu hangerdd a'u hymroddiad i'r gwaith maen nhw'n ei wneud, ond maen nhw'n dal i ddod o hyd i ffyrdd newydd o gefnogi natur a throsglwyddo eu gwybodaeth i genedlaethau newydd. 

"Er enghraifft, maen nhw wedi cyflwyno toeau byw newydd yn ddiweddar i guddfannau adar y safle, wedi prynu cerbydau trydan i helpu i leihau eu hallyriadau carbon, ac wedi gosod camerâu bywyd gwyllt a blychau nythu fel bod modd rhannu lluniau ar y cyfryngau cymdeithasol. Maent hefyd yn gweithio gyda thîm Ynni'r Cyngor i redeg cynllun Ynni Dŵr Cored Radur sy'n harneisio pŵer Afon Taf i gynhyrchu ynni gwyrdd, ac yn ddiweddar gwnaethant gyflwyno sesiynau ymgysylltu i fenywod yn unig gyda grŵp cymorth anabledd i helpu i fynd i'r afael ag anghydbwysedd yn nifer y cyfranogwyr benywaidd o gymharu â chyfranogwyr gwrywaidd."

Dywedodd Lucy Prisk, Cydlynydd Baner Werdd Cadwch Gymru'n Daclus:  "Mae ein parciau a'n mannau gwyrdd yn hanfodol i les pobl, ac rydym yn gwybod y bydd y lleoedd hyn, sy'n rhad ac am ddim, yn parhau i fod yn hanfodol i gymunedau.

"Mae rhoi'r wobr hon i'r tîm Ceidwaid Parciau Cymunedol yn dyst i waith caled yr holl staff a gwirfoddolwyr sy'n ymwneud â Fferm y Fforest, ac rydym wrth ein bodd ein bod yn gallu dathlu'r gydnabyddiaeth ychwanegol hon i gyd-fynd â'u gwobr Baner Werdd. Hoffem longyfarch y tîm ar eu llwyddiant anhygoel."

Am fwy o fanylion am y gwobrau a'r enillwyr, ewch i: https://keepwalestidy.cymru/cy/ein-gwaith/gwobrau/y-faner-werdd-ar-gyfer-parciau/