Back
Ymestyn Rhaglen Urddas Mislif

 15/11/2023

Bydd rhaglen Cyngor Caerdydd i hyrwyddo urddas mislif yn cael ei ehangu ymhellach.

O ddechrau'r tymor newydd, mae nicers mislif amldro wedi bod ar gael i ddysgwyr mewn ysgolion cynradd, yn rhad ac am ddim.

Yn ogystal â bod yn opsiwn eco-gyfeillgar rhagorol, mae nicers mislif yn boblogaidd gyda phobl ifanc oherwydd eu bod mor hawdd i'w defnyddio, yn ogystal â'r ffaith eu bod yn eu paratoi ar gyfer eu mislif cyntaf.

 

Mae nicers mislif eisoes ar gael yn ysgolion uwchradd Caerdydd, ynghyd ag amrywiaeth ehangach o opsiynau eco-gyfeillgar ac amldro. 

Ers 2019, mae menter urddas mislif Caerdydd wedi gweld buddsoddiad o bron i £1.5 miliwn, gan ddarparu nwyddau mislif am ddim i'r rhai sydd eu hangen. Nod y fenter yw helpu i fynd i'r afael â stigma ac ymdrin â thlodi mislif mewn cymunedau, tra'n gwella cyfleusterau mewn ysgolion i sicrhau urddas i ddysgwyr.

Dywedodd Dirprwy Arweinydd Cyngor Caerdydd, a'r Aelod Cabinet dros Addysg, y Cynghorydd Sarah Merry:  "Mae rhaglen urddas mislif Caerdydd wedi mynd o nerth i nerth a thros y pum mlynedd diwethaf, mae cannoedd ar filoedd o nwyddau mislif wedi cael eu dosbarthu i ysgolion, gan helpu i leddfu rhwystrau i addysg a mynd i'r afael â materion fforddiadwyedd.

 

Mae'r rhaglen, a ariennir gan Lywodraeth Cymru, wedi cyfrannu at gydnabod Caerdydd fel Dinas sy'n Dda i Blant UNICEF, lle mae barn a blaenoriaethau plant yn greiddiol i benderfyniadau.

 

Ychwanegodd y Cynghorydd Merry:  "Mae ein hymrwymiadau ynghylch urddas mislif wedi cael eu cydnabod yng nghais llwyddiannus Caerdydd i ddod yn Ddinas sy'n Dda i Blant UNICEF gyntaf y DU, lle mae lleisiau a hawliau plant yn rhan annatod o bolisïau, rhaglenni a phenderfyniadau cyhoeddus. Bydd gwaith i sicrhau bod amrywiaeth o nwyddau ar gael bob amser i ddisgyblion o bob oed sydd eu hangen, yn cael ei gynnal ac mae'n rhan bwysig o'r ymrwymiad hwnnw. 

 

"Byddwn yn parhau i wrando ar bobl ifanc i nodi materion a chyd-gynhyrchu atebion fel eu bod yn teimlo eu bod yn cael eu trin gydag urddas a pharch a bod unrhyw gywilydd mewn perthynas â mislif yn cael ei ddileu."