Back
Adnewyddu Marchnad Caerdydd i fynd yn ei flaen yn dilyn cadarnhau’r cyllid llawn

16.11.23

Mae gwaith adnewyddu sylweddol ar Farchnad Ganolog hanesyddol Caerdydd bellach wedi'i ariannu'n llawn, gyda disgwyl i'r gwaith ddechrau yn Haf 2024, ar ôl i Gyngor Caerdydd lwyddo i sicrhau £3.1 miliwn tuag at y prosiect o raglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru.

Mae hyn yn dilyn y cyhoeddiad diweddar am grant o £2.1 miliwn gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol.  Bydd gweddill y gwaith adnewyddu yn cael ei ariannu drwy'r Gronfa Ffyniant Gyffredin a buddsoddiad uniongyrchol gan y Cyngor.

Bydd cyfanswm o tua £6.5 miliwn yn cael ei fuddsoddi i warchod, cadw a diogelu'r farchnad Fictoraidd Restredig Gradd II* 130 oed i'r dyfodol.

Grŵp o bobl yn cerdded mewn siop groserDisgrifiad a gynhyrchir yn awtomatig

Sut y gallai Marchnad Caerdydd edrych yn dilyn y gwaith adnewyddu.

Dywedodd y Cynghorydd Huw Thomas, Arweinydd y Cyngor:  "Mae cadarnhau'r cyllid hwn gan Lywodraeth Cymru yn newyddion gwych. Mae'r Farchnad yn un o adeiladau treftadaeth pwysicaf Caerdydd, yn ogystal â gofod hanfodol yng nghanol y ddinas ar gyfer masnachwyr bach annibynnol.  Bydd unrhyw un sydd wedi ymweld yn ystod y blynyddoedd diwethaf yn gwybod ei fod yn lle arbennig, gydag awyrgylch unigryw wedi ei gwreiddio mewn 130 mlynedd o hanes. Bydd ein cynlluniau adnewyddu yn cadw ac yn diogelu'r hanes hwnnw ac yn sicrhau y bydd yr adeilad, yr ydym i gyd yn ei hadnabod ac yn ei charu, yn parhau i fod yn galon brysur i'r ddinas am flynyddoedd lawer i ddod."

Dwedodd Julie James, Gweinidog Llywodraeth Cymru dros Newid yn yr Hinsawdd: "Rydym am i ganol trefi a dinasoedd ledled Cymru fod yn galon i gymunedau Cymru, lle gall pobl fanteisio ar wasanaethau, siopau, mannau cymunedol a diwylliannol.

"Mae Marchnad Caerdydd yn ased hanfodol sy'n ychwanegu'n sylweddol at brofiad siopa, profiad ymwelwyr a phrofiad diwylliannol y rhanbarth ac mae ganddi rôl allweddol i'w chwarae yn hyrwyddo niferoedd yr ymwelwyr a chefnogi economi ehangach canol y ddinas. Bydd y prosiect hefyd yn cyfrannu at ein nodau datgarboneiddio trwy wella'r effeithlonrwydd ynni a chynyddu'r cyflenwad ynni adnewyddadwy trwy baneli solar. 

"Dyma enghraifft wych arall o'r gwahaniaeth gwirioneddol y gall cyllid Trawsnewid Trefi ei wneud i sicrhau dyfodol cynaliadwy ar gyfer adeiladau nodedig yng nghanol ein trefi a'n dinasoedd a fydd yn gwella profiad ymwelwyr am genedlaethau i ddod, ac edrychaf ymlaen at weld y gwaith yn mynd rhagddo."

Bydd y gwaith adfer yn cynnwys datgelu nodweddion dylunio gwreiddiol yr adeilad, adfer y mynedfeydd traddodiadol a'r stondinau gwreiddiol, trwsio'r to gwydr eiconig a gwella'r system ddraenio Fictoraidd.

Byddai gwaith atgyweirio hefyd yn cael ei wneud i gloc H.Samuel y farchnad, bydd y 'llawr ffug' a osodwyd ochr mynedfa Heol y Drindod yn y 1960au yn cael ei dynnu, ac ystafell weithgareddau ac addysg newydd yn cael ei chyflwyno, ynghyd ag ardal fwyta newydd â 70 sedd. Mae'r cynlluniau hefyd yn cynnwys gosod goleuadau LED ynni effeithlon newydd a phaneli solar ar y to.

Pobl yn cerdded i adeiladDisgrifiad a gynhyrchwyd yn awtomatig

Yr ardal eistedd newydd a gynlluniwyd ar gyfer y llawr gwaelod.

 

Beth fydd yn digwydd i'r masnachwyr yn ystod y gwaith?

Yn dilyn cyngor gan arbenigwyr annibynnol, ac ymgynghoriad â masnachwyr presennol yn y Farchnad, cynigir bod y Farchnad yn parhau ar agor yn ystod y gwaith adnewyddu. Er mwyn galluogi hyn, bydd y gwaith yn digwydd fesul cam gan adleoli grwpiau o denantiaid dros dro i unedau ar yr Ais, yn union y tu allan i'r Farchnad, am hyd at 12 wythnos.

 

Beth fydd yn digwydd i'r masnachwyr ar ôl i'r gwaith gael ei gwblhau?

Er mwyn gosod yr ardal eistedd newydd ar y llawr gwaelod, a gynigir ar gyfer bloc canolog yr ardal ogleddol, bydd nifer fach o fasnachwyr yn cael eu hadleoli o fewn y Farchnad. Er mwyn sicrhau bod tenantiaid sydd wedi'u hadleoli yn cael cynnig y lleoliadau amgen gorau yn y farchnad, bydd y Cyngor yn cadw unrhyw stondinau gwag nes cwblhau'r gwaith adfer ar gyfer y tenantiaid hyn.

 

A fydd rhent masnachwyr yn cynyddu?

Er mwyn cefnogi masnachwyr, mae'r adolygiadau rhent sy'n rhan o drefniadau'r brydles ar gyfer stondinau ym Marchnad Caerdydd wedi'u hoedi ers dechrau'r pandemig. Yn ymarferol mae hyn yn golygu nad yw llawer o fasnachwyr wedi gweld rhenti yn cynyddu ers 2017. Bydd rhenti yn parhau ar y lefelau presennol drwy gydol y prosiect adnewyddu.

Yn hanesyddol, mae rhenti wedi'u cadw o dan rhenti manwerthu cyffredinol o'i gymharu â mannau eraill yng nghanol y ddinas.  Ar ôl ei adnewyddu, bydd adolygiadau rhent wedi'u trefnu yn ailgychwyn a bydd unrhyw newid i rhent fel rhan o'r adolygiad hwn yn cael ei lywio gan ddadansoddiad gwerth marchnadol. Cynigir hefyd y bydd unrhyw effaith bosibl i denantiaid presennol yn sgil unrhyw swm rhent diwygiedig yn cael ei leihau a bod cynnydd rhent fesul cam yn cael ei weithredu am gyfnod o dair blynedd.