Back
Ysgol Uwchradd Fitzalan newydd yn cael ei hagor yn swyddogol

16/11/23

Heddiw, agorwyd Ysgol Uwchradd Fitzalan yn swyddogol gan Brif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, Arweinydd Cyngor Caerdydd, y Cynghorydd Huw Thomas a Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet Addysg Caerdydd, y Cynghorydd Sarah Merry.

Bu staff yr ysgol, disgyblion a llywodraethwyr yn croesawu gwesteion i'r ysgol gan gynnwys gwleidyddion lleol a chynrychiolwyr o Kier a chwaraeodd ran allweddol yn adeiladwaith yr ysgol.

Ariannwyd yr ysgol newydd gwerth £64m ar y cyd gan Gyngor Caerdydd a Llywodraeth Cymru, drwy'rRhaglen Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu.

Mae'r ysgol uwchradd tri llawr yn gallu darparu ar gyfer 1850 o ddisgyblion ac mae'n cynnwys pwll nofio cymunedol a phedair Ardal Gemau Aml-ddefnydd. Mae dau gae 3G ar gael ar gyfer rygbi, pêl-droed a hoci ac mae'r safle hefyd yn cynnwys ardaloedd chwarae caled a meddal yn ogystal â maes parcio i staff ac ymwelwyr. 

Dechreuodd y gwaith adeiladu am y tro cyntaf ym mis Mawrth 2021 ac mae llysgenhadon o'r ysgol wedi bod yn rhan drwy gydol o broses gan gynnwys ymweld â'r safle yn rheolaidd, cyfrannu eu barn ar yr adeiladu ac adrodd ar gynnydd i fyfyrwyr eraill. 

Dywedodd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford: "Mae Ysgol Uwchradd Fitzalan wedi creu enw da am feithrin myfyrwyr sy'n cyflawni canlyniadau rhagorol, felly mae'n wych bod yr ysgol newydd nawr wedi'i chwblhau. Fe'i cynlluniwyd i fod yn ecogyfeillgar, gyda chyfleusterau ar gyfer y gymuned gyfan a bydd yn darparu amgylchedd rhagorol i bobl ifanc a staff am genedlaethau i ddod.

"Rwy'n falch iawn bod Llywodraeth Cymru wedi gallu cefnogi'r ysgol newydd ac rwy'n dymuno pob llwyddiant i'r disgyblion, staff a theuluoedd yn Ysgol Uwchradd Fitzalan ar gyfer y dyfodol."

Dywedodd Arweinydd Cyngor Caerdydd, y Cynghorydd Huw Thomas:  "Y cartref newydd sbon ar gyfer Ysgol Uwchradd Fitzalan yw'r enghraifft ragorol ddiweddaraf o'r ysgolion arloesol, modern ac o'r radd flaenaf sydd wedi'u darparu gan Gyngor Caerdydd a Llywodraeth Cymru a dyma'r ysgol gyntaf i'w chwblhau fel rhan o raglen Band B, rhaglen dreigl a fydd yn cynrychioli buddsoddiad o bron i £300m.

"Bydd yr ysgol drawiadol gwerth £64m yn darparu cyfleusterau rhagorol, nid yn unig i ddisgyblion presennol a rhai'r dyfodol ond hefyd i bobl leol eu mwynhau, gan atgyfnerthu ymhellach ein hymrwymiad i fuddsoddi mewn addysg, lle mae ysgolion wrth galon y cymunedau y maent yn eu gwasanaethu. 

"Mae gan bob plentyn yr hawl i addysg dda mewn amgylchedd dysgu effeithlon ac wrth i ni barhau i wella ac ehangu ysgolion y ddinas, ein nod yw sicrhau bod gan ddysgwyr fynediad at ddarpariaeth lle gallant ffynnu a gwireddu eu potensial i fod o fudd i ddyfodol cadarnhaol a llwyddiannus."

Dywedodd Dirprwy Arweinydd Cyngor Caerdydd a'r Aelod Cabinet dros Addysg, y Cynghorydd Sarah Merry:  "Mae dathlu agoriad swyddogol yr ysgol newydd yn garreg filltir bwysig i ddisgyblion a staff Fitzalan, yn ogystal â thrawsnewid i'r gymuned leol trwy gyfleoedd newydd sydd ar gael yn yr ysgol.

"Rwyf wedi mwynhau dilyn cynnydd y datblygiad yn agos er gwaethaf yr heriau yn sgil y pandemig, o ddylunio cychwynnol i weld drosof fi fy hun, yr adeilad newydd trawiadol a groesawodd ddisgyblion ddechrau'r tymor. 

"Mae'r ysgol newydd, sy'n hwb sylweddol i'r ardal leol, yn enghraifft o adeilad trefol a modern a fydd yn darparu cyfleusterau, cyfleoedd ac amgylcheddau dysgu o ansawdd rhagorol i genedlaethau'r presennol a'r dyfodol am flynyddoedd i ddod.  Yn ysgol i fod yn falch ohoni, does gen i ddim amheuaeth y bydd dyfodol Ysgol Uwchradd Fitzalan yn parhau i fynd o nerth i nerth."

Dywedodd Cadeirydd y Llywodraethwyr, Debbie Morgan:  "Mae'r holl staff a'r disgyblion yn gyffrous iawn i fod o'r diwedd yn ein hamgylchedd newydd.  Nid oes cyfyngiad ar yr hyn y gallwn ei gyflawni yn ein hysgol newydd ac edrychwn ymlaen at bob cyfle newydd y bydd yr adeilad yn ei gynnig."

Dywedodd Jason Taylor, cyfarwyddwr rhanbarthol Kier Construction Western & Wales:  "Rydym yn falch ein bod wedi darparu'r cyfleusterau newydd hyn o'r radd flaenaf yn Ysgol Uwchradd Fitzalan, a fydd o fudd i ddisgyblion ysgolion uwchradd yng Nghaerdydd am genedlaethau i ddod.

"Bydd hefyd o fudd i'r gymuned leol yn Lecwydd, a fydd yn gallu cael mynediad at amwynderau newydd, gan gynnwys y pwll nofio pedair lôn 25m sydd wedi'i osod ar y safle.

"Rydym yn gobeithio y bydd y disgyblion yn mwynhau eu hysgol newydd gymaint ag y gwnaethon ni fwynhau ei hadeiladu."