Back
Treialu dull newydd yng Nghaerdydd o ail osod wyneb ffyrdd heb unrhyw effaith carbon na mesurau gwrthbwyso carbon

17/11/23


Mae wyneb newydd wedi ei rhoi ar Heol Pengam yn y Sblot, Caerdydd, gan ddefnyddio techneg arloesol newydd i sicrhau bod y deunyddiau a ddefnyddir yn garbon sero - heb yr angen i blannu coed i 'wrthbwyso'r' effaith carbon.

Mae rhan 877m² o Heol Pengam wedi cael wyneb newydd gan ddefnyddio cymysgedd haen arwyneb sy'n cynnwys agregau dur slag a Bio-olosg, gan ymgorffori ac ymwreiddio pwysau cyfatebol carbon wedi'i naturioli i'r arwyneb, gan arbed dros 4.5 tunnell o allyriant carbon.

Y cynhwysyn allweddol i'r dull newydd hwn o ailosod wyneb ffyrdd yw Bio-olosg, sef sgil-gynnyrch i'r dechnoleg trin gwastraff, Pyrolysis. Mae pob deunydd organig (pren, bwyd, compost, carthffosiaeth) yn diraddio'n naturiol, gan ryddhau ei holl garbon i'r atmosffer yn y pen draw.  Mae Pyrolysis yn defnyddio triniaeth wres ar 500 a 600 Gradd Celsius heb ocsigen, sy'n dal a storio'r Bio-nwy, Nwy Synthesis a Bio-olosg mewn deunydd organig. Mae gan y Bio-olosg sy'n deillio o hyn elfen carbon sefydlog uchel, sydd yn ei dro yn cael ei hymgorffori i'r deunydd arwyneb newydd i roi'r effaith carbon negatif.

Gan weithio'n agos gyda'n contractwr Miles Macadam, mae'r cyngor yn treialu'r deunydd unigryw hwn ac amrywiadau ar y dyluniad, oherwydd po fwyaf o fio-olosg sy'n cael ei ychwanegu at y gymysgedd, yr isaf fydd effaith carbon y deunyddiau a ddefnyddir. Os ychwanegir digon o Bio-olosg at y cynnyrch, gallai effaith elfennau eraill sy'n rhan o'r broses, fel cludo'r deunyddiau, hefyd ddod yn garbon niwtral yn ddiofyn.  Unwaith eto, os defnyddir y system hon ym mhob gwaith ailosod wyneb ffyrdd, byddai'n arwain at arbedion carbon sylweddol ar draws y ddinas ac yn genedlaethol.

Dwedodd yr Aelod Cabinet dros Gynllunio Strategol a Thrafnidiaeth, y Cynghorydd Dan De'Ath:  "Mae'r cyngor yn parhau â'n taith i leihau effaith carbon gwasanaethau'r cyngor, ac mae hon yn enghraifft wych o sut y gallwn leihau effaith carbon ailosod wyneb ein ffyrdd.  Newid hinsawdd yw'r bygythiad mwyaf sy'n wynebu ein planed a rhaid cymryd camau i leihau faint o garbon sy'n cael ei gynhyrchu yn ein bywydau bob dydd. Mae'r gostyngiad mewn carbon yn y diwydiant petrocemegol, sy'n cynnwys ailosod wyneb ffyrdd, yn dipyn o gamp ac rydym bellach yn edrych ar sut i leihau'r effaith carbon ymhellach, fel y gallwn ailosod wyneb ffyrdd heb unrhyw effaith carbon na mesurau gwrthbwyso carbon."

Dwedodd Charlie Clarke, Rheolwr Gyfarwyddwr Miles Macadam: "Mae Miles Macadam yn falch iawn o allu treialu'r deunyddiau newydd hyn ac yn ddiolchgar am y cyfle y mae Cyngor Caerdydd wedi'i roi i ni.  Gyda'n gilydd byddwn yn creu glasbrint ar gyfer y diwydiant adeiladu a gosod wyneb ar ffyrdd ac yn cynorthwyo'r ymdrech o ran newid yn yr hinsawdd".