Back
Ar Ddiwrnod Plant y Byd mae Caerdydd yn myfyrio ar ddod yn Ddinas sy'n Dda i Blant UNICEF gyntaf erioed y DU

20/11/23

- a beth mae hyn yn ei olygu i chi

I gyd-fynd â Diwrnod Plant y Byd, bydd baner Dinas sy'n Dda i Blant UNICEF yn cael ei hedfan o fastiwn yng Nghastell Caerdydd wrth i Brifddinas Cymru fyfyrio ar gyhoeddiad balch y mis diwethaf fod y ddinas wedi'i datgan yn swyddogol yn Ddinas sy'n Dda i Blant UNICEF - y gyntaf yn y DU

baner Dinas sy'n Dda i Blant UNICEF yn cael ei hedfan o fastiwn yng Nghastell Caerdydd

Mae'r statws clodfawr a gydnabyddir yn fyd-eang wedi'i ddyfarnu i gydnabod y camau y mae'r cyngor a'i bartneriaid wedi'u cymryd dros y pum mlynedd ddiwethaf i ddatblygu hawliau dynol plant a phobl ifanc ledled y ddinas.

Beth mae cydnabyddiaeth Dinas sy'n Dda i Blant UNICEF yn ei golygu i blant, pobl ifanc a'u teuluoedd sy'n byw yng Nghaerdydd?

  • I blant, mae Caerdydd sy'n Dda i Blant yn golygu bod y ddinas wedi'i chynllunio i wneud eich bywyd yn well ac yn fwy o hwyl. O'r gallu i chwarae'n ddiogel yn yr awyr iach i ysgolion sy'n eich dysgu am y pethau sy'n bwysig i chi, mae Caerdydd bob amser yn gweithio i sicrhau y gallwch chi fod yn hapus, dysgu llawer, a theimlo'n ddiogel. Rydym am i chi wybod am yr hawliau sydd gennych chi, teimlo bod rhywun yn gwrando arnoch chi, a gallu cyfrannu at benderfyniadau ar bethau sy'n bwysig i chi.

    I ddysgu am y cyfleoedd sydd ar gael i ddweud eich dweud ar y materion sy'n bwysig i chi, ewch i:
    CaerdyddSynDdaiBlant@caerdydd.gov.uk 

 

  • I bobl ifanc, mae Caerdydd sy'n Dda i Blant yn golygu bod eich dinas yn gwrando arnoch chi, yn gwerthfawrogi eich barn, ac yn gweithio i wneud eich bywyd yn well. O ysgolion sy'n eich dysgu am eich hawliau i fyrddau ieuenctid sy'n eich cefnogi i ddweud eich dweud ar bolisïau iechyd, mae Caerdydd wedi ymrwymo i sicrhau eich bod chi a'ch ffrindiau'n cael y cyfleoedd a'r gefnogaeth sydd eu hangen arnoch i ffynnu. Rydym am i chi gael dweud eich dweud ar sut mae Caerdydd yn edrych a theimlo i bobl ifanc sy'n byw yma.

    Os ydych chi'n 11 oed neu hŷn ac â diddordeb mewn ymuno â Chyngor Ieuenctid Caerdydd, e-bostiwch CyngorIeuenctidCaerdydd@caerdydd.gov.uk. Gallwch hefyd fynd i CaerdyddSynDdaiBlant@caerdydd.gov.uk i ddysgu am y cyfleoedd sydd ar gael i ddweud eich dweud ar y materion sy'n bwysig i chi.

 

  • I rieni / gwarcheidwaid, mae'n golygu nad yw'r ddinas wedi'i hadeiladu ar gyfer oedolion yn unig - yn hytrach mae wedi'i chynllunio gyda hawliau, anghenion a dyheadau eich plant wrth ei gwraidd. O addysg ac iechyd i gyfranogiad dinesig a diogelwch, mae Caerdydd wedi ymrwymo i greu amgylchedd lle gall pob plentyn ffynnu - rhywle lle gallwch chi fagu eich teulu yn hyderus.

 

Ymunodd Cyngor Caerdydd a'i bartneriaid â Phwyllgor y DU ar gyfer rhaglen Dinasoedd a Chymunedau sy'n Dda i Blant UNICEF (UNICEF UK) yn 2017 fel rhan o garfan arloesol. Ers hynny, mae wedi bod yn gweithredu strategaethau i wreiddio hawliau plant - fel yr amlinellir yng Nghonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn - yn ei bolisïau a'i wasanaethau. 

Gan weithio gyda phlant a phobl ifanc y ddinas, gwnaeth Caerdydd flaenoriaethu chwe maes allweddol:  Arweinyddiaeth a Chydweithrediad; Cyfathrebu; Diwylliant; Iechyd; Teulu a Pherthyn; Addysg a Dysgu.

Mae'r blaenoriaethau a'r nodau hyn wedi'u hymgorffori yn Strategaeth sy'n Dda i Blant Caerdydd ers 2018. Gan weithio mewn partneriaeth â sefydliadau ar draws y ddinas, cynhaliwyd nifer sylweddol o brosiectau, mentrau a chamau gweithredu i sicrhau bod plant a phobl ifanc yn gallu manteisio ar eu hawliau, ffynnu a gwireddu eu potensial, tra'n mynd i'r afael â'r rhwystrau a allai gyfyngu ar eu cyfleoedd bywyd. 

Dywedodd y Cynghorydd Sarah Merry, Dirprwy Arweinydd Cyngor Caerdydd a'r Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau: "Mae dod yn Ddinas sy'n Dda i Blant yn golygu bod y Cyngor, ysgolion a'n holl bartneriaid ar draws y ddinas yn mabwysiadu a datblygu diwylliant sy'n parchu hawliau, lle gall pob plentyn, waeth beth fo'i gred, ethnigrwydd, cefndir neu gyfoeth, deimlo'n ddiogel, cael ei glywed, ei fagu a'i feithrin, a chael ei alluogi i ffynnu.

"Bydd y trawsnewidiad sylfaenol hwn yn sicrhau ein bod yn ddinas lle mae lleisiau, anghenion, blaenoriaethau a hawliau plant a phobl ifanc wrth wraidd polisïau, rhaglenni a phenderfyniadau, ac mae'n rhywbeth y gall pawb fod yn rhan ohono.  Ein ffocws yw sicrhau y gall plant a phobl ifanc helpu i siapio Caerdydd a theimlo eu bod wedi'u grymuso i fod yn rhan o benderfyniadau'r ddinas, gan ddweud eu dweud ar y gwasanaethau sydd ar gael iddynt. 

"Yn ystod ein taith Dinas sy'n Dda i Blant, gwnaethom wynebu heriau sylweddol yn sgil y pandemig. Adleolwyd adnoddau i sicrhau bod gan bob plentyn a pherson ifanc fynediad at ddyfais er mwyn iddynt allu parhau â'u haddysg a chael gafael ar wybodaeth tra bod ysgolion ar gau ac ehangwyd gwasanaethau i amddiffyn plant rhag niwed yn ystod y cyfnod clo.

"Mae ein Hadferiad Covid wedi bod yn un o lawer o strategaethau sy'n blaenoriaethu lles plant a phobl ifanc, gyda ffocws clir ar y rheini sy'n arbennig o agored i niwed, gan ddatblygu atebion sy'n ceisio gwella canlyniadau addysg ac iechyd a rhoi'r gefnogaeth iawn i deuluoedd ar yr adeg iawn.

"Dylai Caerdydd deimlo'n falch a chyffrous iawn wrth i ni edrych ymlaen at ddyfodol sy'n dda i blant, lle byddwn yn parhau â'n huchelgais o wneud Caerdydd yn ddinas y mae plant a phobl ifanc wrth ei chalon a lle mae lleisiau, anghenion a hawliau pob plentyn a pherson ifanc yn cael eu parchu."

Dywedodd Arthur Lilley Templeman (Is-gadeirydd) o Fwrdd Cynghori Caerdydd sy'n Dda i Blant: "Mae dod yn Ddinas sy'n Dda i Blant gydnabyddedig UNICEF yn dangos y cynnydd y mae Caerdydd wedi'i wneud dros y 5 mlynedd ddiwethaf a mwy o ran sicrhau bod pob plentyn yn gwybod am ei hawliau ac yn gallu cael mynediad atynt. Mae lleisiau pobl ifanc wedi bod wrth wraidd y daith hon o'r cychwyn cyntaf, a dyna pam mai nawr yw'r amser i ni ddathlu ein llwyddiant a pharhau i ymgysylltu â phobl ifanc mewn ffordd ystyrlon, a chael ein hysbrydoli i barhau i wneud hawliau'n realiti yng Nghaerdydd am flynyddoedd i ddod."

Gallwch ddysgu mwy am Caerdydd sy'n Dda i Blant yma:
Caerdydd sy'n Dda i Blant

#CDYDDsynDdaiBlant

Mae Diwrnod Plant y Byd yn ddiwrnod o weithredu dros blant, gan blant, i hyrwyddo eu hawliau, eu lles a'u llais ar y materion sy'n bwysig iddyn nhw.. Mae'n cael ei ddathlu ar 20 Tachwedd, y dyddiad pan fabwysiadodd Cynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig y Datganiad o Hawliau'r Plentyn ym 1959 a'r Confensiwn ar Hawliau'r Plentyn ym 1989.