Back
Datblygiad Ysgol Uwchradd Willows: Dweud eich dweud

 

21/11/2023

Mae cynlluniau i adleoli ac ailadeiladu Ysgol Uwchradd Willows ar agor ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus.

Bydd yr Ymgynghoriad Cyn Ymgeisio yn rhedeg tan Ddydd Llun 18 Rhagfyr 2023 ac yn gyfle i aelodau'r cyhoedd ddweud eu dweud ar gynigion ar gyfer yr ysgol newydd, cyn i gais cynllunio gael ei gyflwyno i Bwyllgor Cynllunio Cyngor Caerdydd.

Bydd gan yr ysgol newydd amrywiaeth o gyfleusterau cynhwysfawr a fydd ar gael at ddefnydd y cyhoedd y tu allan i oriau ysgol ac a fydd yn cael eu darparu'n rhan o Raglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy Cyngor Caerdydd a Llywodraeth Cymru. 


Mae'r cynigion yn cynnwys;

  • Adleoli ac ailadeiladu'r ysgol ar dri pharsel o dir ym Marchnad y Sblot a Heol Portmanmoor; gan gynnwys mynediad i'r caeau 3G yn yr hen ganolfan tennis a darparu digon o le i'r ysgol newydd heb golli unrhyw fan agored presennol.
  • Darparu amgylchedd dysgu o ansawdd uchel i ddisgyblion i gefnogi a gwella dysgu ac addysgu.
  • Ysgol â ffocws cymunedol gyda chyfleusterau ar gael at ddefnydd y gymuned gyfan y tu allan i oriau craidd yr ysgol.
  • Cyfleusterau gwell i gerddwyr i gefnogi trefniadau teithio llesol ar safle Heol Lewis.
  • 900 o leoedd i ddysgwyr 11 i 16 oed, a chanolfan adnoddau arbenigol â 30 lle ar gyfer Anghenion Dysgu Cymhleth; yn unol â'r galw a ragwelir.
  • Disgyblion i aros ar safle presennol Ysgol Uwchradd Willows nes y caiff adeiladau newydd yr ysgol eu cwblhau i leihau tarfu posibl.

Dywedodd Dirprwy Arweinydd Cyngor Caerdydd, a'r Aelod Cabinet dros Addysg, y Cynghorydd Sarah Merry:  "Mae disgwyl i ysgol uwchradd newydd Willows ddod yn gyfleuster addysgol o'r radd flaenaf, gan gynrychioli buddsoddiad sylweddol yn yr ardal leol.

Nid yn unig y bydd yn rhoi arbenigedd a chyfleoedd addysgu eithriadol i ddisgyblion a staff, ond bydd hefyd yn sicrhau bod y gymuned leol yn elwa o amwynderau modern rhagorol." 

"Ar ôl ystyried sawl safle, bydd y safle newydd hefyd yn cynnig manteision sylweddol i'r ysgol a'r gymuned, gan gynnwys cyfleoedd i ffurfio cysylltiadau â busnesau a sefydliadau lleol yr ardal a all helpu i greu cyfleoedd heriol, cefnogol ac ysgogol i hyrwyddo dyhead a chyflawniad.

"Rwy'n annog pobl i ddod 'mlaen a dweud eu dweud i helpu i lunio'r cynlluniau a dyfodol yr ysgol."

Ychwanegodd y Cynghorydd Sarah Merry: "Canfuwyd bod y lleoliad arfaethedig ar gyfer yr ysgol newydd yn hygyrch i boblogaeth y dalgylch, gydag amryw lwybrau teithio llesol eisoes ar waith. Byddai cyfle i gyflawni ymrwymiad y Cyngor i ddatblygu Cynlluniau Teithio Llesol a llwybrau cerdded a beicio hygyrch i bob ysgol, drwy weithredu llwybrau newydd ar gyfer beicio a chyfleusterau gwell i gerddwyr yn yr ardal."

I weld y cynigion ac i ddweud eich dweud, ewch i:   Mae rhagor o wybodaeth ar gael drwy ddilyn y ddolen at wefan Asbri Planning isod;

New Willows High School Cardiff | Ysgol Newydd Uwchradd Willows (asbriplanning.co.uk)

Bydd y sesiynau galw heibio canlynol yn cael eu cynnal i aelodau'r cyhoedd weld y cynlluniau;

  • Dydd Gwener 24 Tachwedd yng Nghapel i Bawb Adamsdown rhwng 10.00am - 12.00pm
  • Dydd Llun 27 Tachwedd ym Mhafiliwn Butetown rhwng 2.00pm - 4.00pm
  • Dydd Mercher 29 Tachwedd yn Hyb STAR y Sblot rhwng 4.00pm - 6.00pm

Ym mis Mehefin 2023, dyfarnwyd y contract i gyflawni'r gwaith galluogi sy'n gysylltiedig â datblygu llety newydd ar gyfer yr ysgol newydd i Morgan Sindall Construction, sy'n cynrychioli buddsoddiad o £3.4m tuag at y cynllun diweddaraf.

Rhoddwyd cymeradwyaeth cynllunio ar gyfer y gwaith galluogi ym mis Chwefror 2023 ac mae'n cynnwys;

  • Gorchymyn cau ar Heol Lewis a gwaith priffyrdd perthnasol, er mwyn caniatáu i'r datblygiad fynd rhagddo.
  • Adeiladu llwybrau teithio llesol i berimedr dwyreiniol y safle
  • Gosod cyfleustodau newydd ac adleoli gwasanaethau presennol
  • Cloddio a gwaith tir gan gynnwys gwaredu deunydd llygrol ar ôl tarfu ar y tir
  • Dymchwel adeiladau presennol ar Heol Portmanmoor ac ar safle Marchnad y Sblot
  • Gosod ffensys diogelwch o amgylch ffin y safle

Yn amodol ar gynllunio a chaffael, disgwylir i waith adeiladu'r campws newydd ddechrau yng ngwanwyn 2024.