Back
Bydd diwedd ar drais yn erbyn menywod a merched yn dechrau pan fyddwn yn #NewidyStori

21/11/23  

Mae Diwrnod y Rhuban Gwyn blynyddol yn cael ei gynnal ledled y byd y penwythnos hwn, gan roi cyfle i fyfyrio ar heriau goresgyn trais dynion yn erbyn menywod a merched.

 

Mae Diwrnod y Cenhedloedd Unedig i Ddileu Trais yn erbyn Menywod a Merched, a adwaenir yn fwy cyffredin fel Diwrnod y Rhuban Gwyn, yn digwydd ar 25 Tachwedd bob blwyddyn, ac yn cychwyn cyfres o ddigwyddiadau sy'n arwain at 8 Rhagfyr, sef Diwrnod Hawliau Dynol.

 

Ymgyrch fyd-eang yw'r Rhuban Gwyn sy'n annog pobl, dynion a bechgyn yn enwedig, i weithredu yn unigol ac ar y cyd i newid yr ymddygiad a'r diwylliant sy'n arwain at gam-drin a thrais.   Mae gwisgo rhuban gwyn yn arwydd o addewid i beidio byth â chyflawni, esgusodi neu aros yn dawel am drais yn erbyn menywod. 

 

Mae Cyngor Caerdydd yn sefydliad Rhuban Gwyn achrededig, ar ôl cyflawni ei drydydd cyfnod achredu gan White Ribbon UK y llynedd.

 

Thema'r ymgyrch eleni yw Newid y Stori, gan gydnabod nad yw newid diwylliant yn digwydd dros nos, ond gellir dod â thrais dynion yn erbyn menywod a merched i ben yn ystod ein hoes. 

 

Dechreuodd digwyddiadau cyhoeddus i nodi'r ymgyrch ymwybyddiaeth yng Nghaerdydd neithiwr gyda Gwylnos Golau Cannwyll Nid yn fy Enw i yn y Senedd, cyfle i bobl ddod at ei gilydd i ddangos undod â dioddefwyr a goroeswyr trais yn erbyn menywod ledled y byd.

 

Ddydd Gwener 24 Tachwedd, mae croeso i bawb ymuno â gorymdaith o Heol y Gadeirlan i Eglwys Gadeiriol Llandaf am 9am a'r gwasanaeth aml-ffydd blynyddol Cynnau Cannwyll am 11am a bydd Gwasanaeth Rhuban Gwyn yn cael ei gynnal yn Eglwys Fethodistaidd St Andrews, Llwynbedw am 10.30am ddydd Sul, 26 Tachwedd.

 

Dywedodd Aelod Cabinet Cyngor Caerdydd dros Gyllid, Moderneiddio a Pherfformiad, y Cynghorydd Chris Weaver: "Mae trais a brofir gan fenywod a merched yn cymryd sawl ffurf. Fel Dinas Rhuban Gwyn, mae Caerdydd wedi ymrwymo i wneud popeth o fewn ein gallu i roi terfyn ar drais dynion yn erbyn menywod ac mae cynnydd sylweddol wedi'i wneud wrth fynd i'r afael â'r mater dros y pum mlynedd diwethaf.

 

"Mae'n hanfodol cofio nad yw trais yn erbyn menywod a merched yn fater i fenywod. Mae'n fater i ni i gyd, ond yn arbennig, mae angen i ddynion a bechgyn fod wrth wraidd yr ateb.

"Eleni, mae thema Newid y Stori yr ymgyrch yn galw ar bob dyn a bachgen i chwarae rhan weithredol wrth atal trais cyn iddo ddechrau drwy gydnabod a nodi agweddau ac ymddygiadau niweidiol a allai arwain at achosion mwy eithafol o gam-drin neu drais."

 

Unwaith eto, mae'r gwely blodau wedi cael ei blannu y tu allan i Gastell Caerdydd gyda blodau gwyn ar ffurf y Rhuban Gwyn. Bydd y ddelwedd hefyd yn cael ei thaflunio ar Dŵr eiconig y Castell.