Back
Ymgynghoriad Cyhoeddus ar agor nawr ar gynlluniau ledled y ddinas i gynyddu'r ddarpariaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol

23/11/2023

Gwahoddir aelodau'r cyhoedd i rannu eu barn ar gynigion cynhwysfawr i wella a chynyddu'r ddarpariaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol yng Nghaerdydd a allai olygu y bydd dros 200 o leoedd newydd yn cael eu darparu ledled y ddinas.

Fis Gorffennaf, cytunodd Cabinet y Cyngor i fwrw ymlaen â dau ymgynghoriad ar ystod o gynlluniau i fynd i'r afael â'r cynnydd yn y galw am leoedd arbenigol cynradd, uwchradd ac arbennig, gan gydnabod y boblogaeth gynyddol o ddysgwyr ag anghenion dysgu cymhleth, cyflyrau'r sbectrwm awtistiaeth ac anghenion iechyd a lles emosiynol.

 

Darpariaeth anghenion dysgu cymhleth ac awtistiaethI gwrdd â'rgalwcynyddol am leoedd Canolfan Adnoddau Arbenigol (CAA) ar gyfer dysgwyr cynradd ag Anghenion Dysgu Cymhleth a/neu Awtistiaeth, mae'r Cyngor yn cynnig sefydlu Canolfan Adnoddau Arbenigol (CAA) yn yr ysgolion canlynol o fis Medi 2024, yn yr adeiladau ysgol presennol:

 

  • 20 lle CCA yn Ysgol Gynradd Coed Glas 
  • 20 lle CCA yn Ysgol Gynradd Greenway 
  • 20 lle CCA yn Ysgol Gynradd Severn

 

I gael rhagor o wybodaeth ac i gael dweud eich dweud, ewch i Darpariaeth anghenion dysgu cymhleth ac awtistiaeth(caerdydd.gov.uk)

Darpariaeth Iechyd a Lles Emosiynol:Er mwyn ateb y galw cynyddol gan ddysgwyr cynradd ac uwchradd ag anghenion iechyd a lles emosiynol, mae'r Cyngor yn cynnig:

sefydlu Canolfan Adnoddau Arbenigol (CAA) yn yr ysgolion canlynol o fis Medi 2024, yn yr adeiladau ysgol presennol.

  • 8 lle CAA yn Ysgol Gynradd Baden Powell o fis Medi 2024
  • 8 lle CAA yn Ysgol Gynradd y Tyllgoed Byddai hyn yn disodli'r dosbarth lles presennol.   
  • 16 lle CAA yn Ysgol Gynradd Herbert Thompson, 
  • 16 lle CAA yn Ysgol Gynradd Lakeside. Byddai hyn yn disodli'r dosbarth lles presennol.   
  • 8 lle CAA yn Ysgol Gynradd Springwood Byddai hyn yn disodli'r dosbarth lles presennol.   
  • 8 lle CAA yn Ysgol Gymraeg Pwll Coch. Byddai hyn yn disodli'r dosbarth lles presennol.  
  • ac 20 lle CAA yn Ysgol Gyfun Gymraeg Plasmawr

 

I gael rhagor o wybodaeth ac i gael dweud eich dweud, ewch i Darpariaeth iechyd a lles emosiynol(caerdydd.gov.uk)

 

Mae cyfres o sesiynau galw heibio a chyfarfodydd cyhoeddus wyneb yn wyneb ac ar-lein wedi'u trefnu.  Ewch iDarpariaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) (caerdydd.gov.uk)am fwy o wybodaeth.

Bydd yr ymgynghoriad yn cau ar 19 Ionawr 2024.

 

Dwedodd y Cynghorydd Sarah Merry, Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau Cyngor Caerdydd: "Rydym yn deall yn iawn wrth i gymhlethdod anghenion dysgwyr dyfu bod gofyniad angenrheidiol am fwy o ddarpariaeth arbenigol ar draws y ddinas ac mae cynnydd sylweddol yn cael ei wneud i dyfu'r cymorth, y sgiliau a'r cyfleusterau cynhwysol sydd ar gael mewn ysgolion.  Er enghraifft, mae Uned Cyfeirio Disgyblion (UCD) Caerdydd yn cael ei ehangu, gan gynyddu ei gapasiti i 180 o leoedd i gefnogi dysgwyr sydd ag ystod o anghenion iechyd a lles emosiynol.

"Bydd y cynigion diweddaraf rydym yn ymgynghori arnynt, yn cynnig cynnydd graddol mewn lleoedd gyda'r nod o feithrin ymagwedd cynhwysol sy'n mynd i'r afael â gofynion unigryw dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol, gan ganolbwyntio ar wella capasiti a chyflwyno cwricwlwm arloesol trwy ddarpariaeth addas.

"Rhoddir pwysigrwydd ar adnabod yn gynnar, ymyrraeth ar sail ymchwil, adeiladau ysgol hygyrch a phartneriaethau amlasiantaethol cryf, a all gyda'i gilydd sicrhau nad oes unrhyw ddysgwr yn cael ei adael ar ôl a'u bod yn derbyn cyfle cyfartal i ffynnu."

Mae'r Uned Cyfeirio Disgyblion yn cael ei ehangu fel un sefydliad ar gyfer dysgwyr 11-18 oed ar draws dwy safle gan gynnwys safle presennol Heol Cefn ym Mynachdy ac am gyfnod dros dro, ar ran o'r safle a arferai gael ei feddiannu gan Ysgol Uwchradd Fitzalan.

O fis Medi 2027 bydd y ddarpariaeth yn symud i adeilad newydd ar ran o'r safle sy'n cael ei feddiannu ar hyn o bryd gan Ysgol Uwchradd Willows, ac mewn darpariaeth newydd yn Oak House, Llaneirwg.