Back
Camlas Gyflenwi’r Dociau ar Ffordd Churchill yn agor i'r cyhoedd ddydd Gwener, 24 Tachwedd

24/11/23


Bydd Camlas Gyflenwi'r Dociau ar Ffordd Churchill - sy'n rhedeg o ben Ffordd Churchill i Stryd Ogleddol Edward - yn agor i'r cyhoedd ddydd Gwener, 24 Tachwedd, gyda band pres a diddanwyr stryd yno i nodi dechrau gweledigaeth ar gyfer ardal fywiog newydd yng nghanol y ddinas.

Agor Camlas Gyflenwi'r Dociau yw cam cyntaf prosiect adfywio ehangach, gyda chynlluniau i ymestyn y gamlas ar hyd Ffordd Churchill i gysylltu Camlas Gyflenwi'r Dociau i'r de o Stryd Tyndall. Gallai'r datblygiad newydd hwn agor y potensial i ddarparu ardal drefol newydd gan gynnwys adfywio Stryd y Bont, Heol David, Heol Charles, Stryd Tredegar, Cilgant Guildford, a Lôn y Barics.

Bydd ailymddangosiad Camlas Gyflenwi'r Dociau hefyd yn darparu cynefin dŵr newydd yng nghanol y ddinas, gan greuman cyhoeddus gyda gerddi glaw i reoli dŵr wyneb, seddi awyr agored, ardal berfformio amffitheatr a dwy bont droed i groesi'r dŵr.

Yn y 1830au, roedd camlas gyflenwi'r dociau yn rhedeg o Afon Taf yn y Gored Ddu i lawr i Ddociau Caerdydd i gynnal lefelau'r dŵr yn Noc Bute Caerdydd. Roedd hyn yn caniatáu i'r doc weithredu 24 awr y dydd, hyd yn oed ar lanw isel, gan wasanaethu Camlas Morgannwg 25 milltir o hyd o Ferthyr Tudful i Gaerdydd i ddod â dur a haearn i lawr i'r ddinas.

Gorchuddiwyd Camlas Morgannwg rhwng 1948 a 1950 a gorchuddiwyd Camlas Gyflenwi'r Dociau ar Ffordd Churchill gyda thrawstiau concrit ac adeiladwyd y lôn gerbydau drosti. Nawr bod 69 o'r trawstiau concrit 7.5 tunnell wedi cael eu symud, gellir gweld Camlas Gyflenwi'r Dociau unwaith eto yn ei holl ogoniant i'r cyhoedd ei mwynhau.

Dwedodd yr Aelod Cabinet dros Gynllunio Strategol a Thrafnidiaeth, y Cynghorydd Dan De'Ath:  "Mae dau brif bwrpas i agor Camlas Gyflenwi'r Dociau ar Ffordd Churchill, yn gyntaf fel ffordd effeithiol iawn o reoli dŵr wyneb ac yn ail fel cam cyntaf cynllun adfywio, i weithio gyda buddsoddwyr preifat i gyflawni datblygiad defnydd cymysg dwysedd uchel llwyddiannus, gan ddenu cartrefi, gwestai, lletygarwch, swyddfeydd o ansawdd uchel, hamdden, ac unedau manwerthu.

"Rydym eisoes wedi gweld busnesau yn Ffordd Churchill sydd eisiau addasu, gyda newid mewn ceisiadau defnydd yn cael eu cyflwyno i'r cyngor fel yr Awdurdod Cynllunio, a'r cyhoeddiad diweddar am agor bar newydd yn ddiweddarach eleni. Dylai Camlas Gyflenwi'r Dociau weithredu fel catalydd ar gyfer buddsoddiad yn y sector preifat gan greu swyddi a chyfleoedd yn nwyrain canol y ddinas.

"Mae'r cynllun hwn hefyd yn gysylltiedig â chynllun trafnidiaeth newydd ar Rodfa'r Orsaf i wella llif traffig o amgylch canol y ddinas gyda llwybr beicio newydd, palmentydd ehangach a chyffordd well rhwng Stryd Adam a Ffordd Churchill.

"Fel nodwedd beirianneg, bydd cyfres o erddi glaw yn cael eu hadeiladu, gyda phridd a phlanhigion penodol i drin y dŵr wyneb er mwyn cael gwared ar lygryddion cyn i'r dŵr lifo i mewn i'r gamlas. Bydd hyn yn sicrhau bod 3,700 m2o ddŵr yn cael ei ddargyfeirio o'r system garthffosiaeth bob blwyddyn, gan leihau cost ac ynni trin dŵr drwy'r orsaf bwmpio carthion ym Mae Caerdydd."