Back
Y prentisiaid a 'syrthiodd mewn cariad â'r swydd' bellach yn gofalu am barciau Caerdydd

28.11.23

Mae prentis ifanc a 'syrthiodd mewn cariad â'r swydd ar unwaith' wedi dod yn un o'r recriwtiaid parhaol diweddaraf sy'n gweithio i Gaerdydd ym mharciau eiconig y ddinas.

Ymunodd Morgan â Chyngor Caerdydd yn wreiddiol yn 2019 ar brentisiaeth 'caeau chwaraeon' pedair blynedd ac mae bellach yn cael ei gyflogi'n barhaol yn cynnal a chadw lawntiau bowlio, caeau rygbi, criced, pêl-droed a hyd yn oed caeau croquet y ddinas.

Wrth gofio cael cynnig ei hyfforddiant cychwynnol, dywedodd Morgan: "Ro'n i wrth fy modd a meddyliais, dyma fi nawr, ac wedyn o'n i jest yn gwthio a gwthio, yn gwneud popeth o'n i'n gallu. Roedd gen i fentoriaid da o'm cwmpas, ac fe ddangoson nhw'r drefn i fi, ac yna gadael i fi fwrw ‘mlaen. Datblygais brofiad a gwybodaeth, ac nid wyf wedi edrych yn ôl ers hynny."

A person kneeling on grass with a lawn mowerDescription automatically generated

Morgan, yn fuan ar ôl dechrau ei brentisiaeth yn 2019.

"Rwyf wrth fy modd yn gweithio ar fy mhen fy hun neu fel rhan o dîm a chyflawni'r gwaith. Pan fyddwch yn gweithio yng nghanol yr haf mewn siorts a chrys-t yn gynnar yn y bore, mae'n eich gwneud yn hapus, bod yn yr amgylchedd ac yn gweithio ym mharciau eiconig Caerdydd, Parc y Rhath, Parc Bute, holl hanes Caerdydd, bod yn rhan o hynny."

"Parc y Rhath yw un o fy ffefrynnau, oherwydd ar adeg pan nad oeddwn hyd yn oed yn gwybod fy mod yn mynd i wneud y rôl hon, roeddwn i'n arfer cerdded heibio'r Gerddi Pleser, gan edrych ar y lawnt fowlio a dymuno gallu bod yn rhan o hynny ac ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach, dyma fi."

Nid Morgan yw'r unig un sy'n elwa o Raglen Pobl Parciau, Chwaraeon, Awdurdod Harbwr a Hamdden Caerdydd. Ers 2016/17, mae Parciau Caerdydd wedi croesawu 450 o bobl ar leoliadau profiad gwaith, hyfforddiant a phrentisiaethau, 71 o'r rheiny yn ystod hanner cyntaf eleni. Nid ef yw'r unig un sydd wedi syrthio mewn cariad â'r swydd chwaith.

Two men standing on a path in the woodsDescription automatically generated

Jess a Morgan, y ddau fyfyriwr graddedig diweddaraf o Raglen Pobl Parciau Caerdydd

Disgrifiodd Jess, sy'n gymharol newydd i Dîm Ceidwaid Parciau Cymunedol Caerdydd, a enwyd yn ddiweddar yn 'Dîm y Flwyddyn' Parciau Baner Werdd y DU 2023, ei bod "mor falch" pan glywodd ei bod wedi sicrhau rôl barhaol ar ôl prentisiaeth helaeth wnaeth arwain ati'n cwblhau cymwysterau a chael profiad ymarferol o gadwraeth, tra'n cael ei thalu ar yr un pryd.

"Mae'n wahanol bron bob dydd. Weithiau mae tasgau ymarferol iawn, gyda'r gwaith cadwraeth, felly mae rhywfaint ohono'n ymarferol iawn, gwaith corfforol ac yna mae ochr addysgol pethau, a grwpiau cymunedol hefyd."

"Byddwn yn aml yn mynd i edrych ar guddfannau adar y peth cyntaf yn y bore ac yn y gaeaf, bydd hynny wrth iddi wawrio, felly gwneud cylchdro o Warchodfa Fferm y Fforest ac mae adar yn hedfan o'ch cwmpas, mae'n brydferth, mae'n wirioneddol dawel a llonydd, ac mae'n teimlo fel bod yn rhaid i chi binsio'ch hun mai dyma yw eich swydd."

Dywedodd y Cynghorydd Jennifer Burke, yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant, Parciau a Digwyddiadau:   "Mae parciau Caerdydd yn gaffaeliad rhagorol i'r ddinas ac mae'n wych gweld y brwdfrydedd a'r angerdd sydd gan Morgan a Jess i ofalu amdanyn nhw. 

"Er na fydd pawb sy'n dod drwy'r Rhaglen Pobl yn mynd ymlaen i sicrhau rôl barhaol gyda'r Cyngor, byddant i gyd yn gadael gyda mwy o brofiad a mwy o gyfleoedd i lwyddo yn y dyfodol."

Gyda dau brentis Garddwriaeth newydd, prentis Dylunio Tirwedd newydd a hyfforddai newydd yn y Tîm Ceidwaid Parciau Cymunedol yn dechrau eu gyrfaoedd, mae'r Rhaglen Pobl yn parhau i ffynnu, gan gynnig yr hyn y gall Jess ei ddisgrifio fel "cyfle anhygoel."