Back
Gwasanaeth Coffa'r Nadolig yn Amlosgfa Draenen Pen-y-graig

28.11.23

Cynhelir Gwasanaeth Coffa Eciwmenaidd y Nadolig yng Nghapel y Wenallt yn Amlosgfa Draenen Pen-y-graig ddydd Sul, 10 Rhagfyr, am 2pm.

Mae croeso i unrhyw un ddod i'r gwasanaeth i goffau eu hanwyliaid dros gyfnod y Nadolig.

Bydd y gwasanaeth 45 munud, a gynhelir gan y Parchedig Jason Tugwell, yn cynnwys nifer o ddarlleniadau, cerddi a charolau.   Deborah Morgan Lewis fydd yn arwain y canu.

Dywedodd yr Aelod Cabinet sy'n gyfrifol am Wasanaethau Profedigaeth, y Cynghorydd Dan De'Ath:  "Gall yr adeg hon o'r flwyddyn fod yn arbennig o heriol i'r rhai sydd wedi colli anwyliaid ac mae'r gwasanaeth croesawgar hwn yn cynnig cyfle i bobl o bob ffydd ddod at ei gilydd a chofio'r rhai sydd, yn drist iawn, wedi ein gadael ni."

Bob blwyddyn mae tîm Gwasanaethau Profedigaeth Caerdydd yn cefnogi elusen wahanol, ac eleni bydd casgliad er budd Andys Man Club yn cael ei gynnal yn ystod y gwasanaeth.

Mae Andys Man Club yn elusen atal hunanladdiad dynion, sy'n cynnig grwpiau cymorth cyfoedion am ddim ar draws y Deyrnas Unedig ac ar-lein. Nod yr elusen yw rhoi diwedd ar y stigma sy'n gysylltiedig ag iechyd meddwl dynion a helpu dynion trwy bŵer sgwrs.

Mae tagiau coffa sydd i'w gosod ar un o'r coed Coffa'r Nadolig yng Nghwrt Capel y Wenallt yn cael eu gwerthu i gefnogi'r elusen, am rodd o isafswm o £2.00, er cof am anwyliaid.

Bydd y coed yn aros yn eu lle tan Nos Ystwyll.

Bydd ffrwd fyw o'r gwasanaeth ar gael i unrhyw un nad yw'n gallu bod yn bresennol yn bersonol.  Bydd angen cyfrinair i gael mynediad i'r ffrwd. Am fanylion, cysylltwch â'r Tîm Gwasanaethau Profedigaeth ar 029 2054 4820 neu drwy e-bostioDerbynfaDraenenPen-y-Graig@caerdydd.gov.uk