Back
Treial Fareshare Cymru i gynhyrchu ‘prydau parod’ o fwyd dros ben

29.11.23

Bydd Fareshare Cymru yn dechrau treial chwe mis i gynhyrchu prydau parod iach a chynaliadwy a wneir o fwyd dros ben ar ôl symud yn llwyddiannus i gam nesaf Her Bwyd Cynaliadwy.

Nid yw'r elusen, sy'n ail-ddosbarthwr mwyaf Cymru o fwyd dros ben o'r diwydiant bwyd, yn gallu defnyddio'r holl fwyd sydd ar gael iddyn nhw ar hyn o bryd. Nawr, ar ôl profi bod y syniad yn ymarferol, maent yn partneru yn ystod cam cyntaf yr Her â Choleg Caerdydd a'r Fro (CAVC) i gynyddu cynhyrchiant yn ystod cyfnod 'arddangos' 12 mis.

Dywedodd Katie Padfield, Pennaeth Datblygu FareShare Cymru: "Nid yw'r Her Fwyd fel unrhyw beth rydyn ni wedi'i gwneud o'r blaen. Rydym yn gyffrous iawn i allu dangos yr hyn y gallwn ei gyflawni".

Bydd y gwaith cynhyrchu yn 'Redistribution Wales Kitchen' yn dechrau un diwrnod yr wythnos, yn y ceginau a'r cyfleusterau ychwanegol yn CCF, gyda'r nod o gynyddu hyd at dri diwrnod yr wythnos yn nes ymlaen. Bydd y prydau bwyd a gynhyrchir i gyd yn cynnwys dau o'ch ‘pum ffrwyth a llysieuyn y dydd' a byddant oll yn brydau sy'n addas i lysfwytawyr. Byddwn yn darparu bwyd i 10 prosiect bwyd i ddechrau, gyda'r nod o gynyddu hyn i 30 wrth i'r broses gynhyrchu gynyddu.

Mae tri math gwahanol o becynnu cynaliadwy hefyd yn cael eu treialu fel rhan o'r cyfnod Her hwn, gyda metel amldro, plastigau amldro a phecynnu y gellir eu compostio i gyd yn cael eu rhoi ar brawf.

Dywedodd y Cynghorydd Julie Sangani, yr Aelod Cabinet dros Iechyd y Cyhoedd a Chydraddoldeb, "Mae gan y prydau iach, maethlon hyn y potensial i leihau gwastraff bwyd a llenwi bwlch o ran darparu bwyd i sefydliadau cymunedol ac elusennau sy'n cefnogi rhai o'r rhai mwyaf agored i niwed yn y gymdeithas. Mae'n brosiect cyffrous ac arloesol iawn ac rwy'n edrych ymlaen at weld y broses gynhyrchu'n cynyddu dros y chwe mis nesaf."

Dywedodd Dirprwy Arweinydd Cyngor Sir Fynwy, y Cynghorydd Paul Griffiths: "Wrth i'r costau byw cynyddol barhau i effeithio ar deuluoedd, mae angen i ni achub ar bob cyfle i hwyluso'r broses o symud i system fwyd a all ddarparu bwyd fforddiadwy ac iach ar yr un pryd â lleihau effeithiau amgylcheddol negyddol." Dros y chwe mis nesaf, mae'r cyfnod Her hwn yn cynnig cyfle i FareShare Cymru ddangos eu gallu i chwarae rhan bwysig yn y broses newid honno."

Dywedodd Cadeirydd Bwrdd Strategaeth y Gronfa Her, y Cynghorydd Geraint Thomas: "Fel Cadeirydd ar gyfer Cronfa Her Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, cefais fy mhlesio'n fawr gan gais Fareshare Cymru; mae ganddo gydweithredu ac arloesedd wrth ei wraidd, ac mae'r ddwy elfen hyn yn hanfodol i effeithio ar fater anodd tlodi bwyd sy'n effeithio ar gynifer o deuluoedd ar draws ein rhanbarth."  

Mae'r Her Bwyd Cynaliadwy yn bartneriaeth rhwng Cyngor Caerdydd, Cyngor Sir Fynwy, Cronfa Her Prifddinas-Ranbarth Caerdydd a Llywodraeth Cymru, gyda chefnogaeth Canolfan Ragoriaeth MYBB (Menter Ymchwil Busnesau Bach). Ei nod yw nodi a chefnogi prosiectau a all harneisio potensial tir, technoleg a phobl i gynyddu cynhyrchiant a chyflenwad cynaliadwy o fwyd a dyfir yn lleol ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd.