Back
Gwelliannau cerdded a beicio: Heol y Sanatoriwm, Stryd Lydan, Heol Lansdowne a Grosvenor Street, Treganna.

30/11/23

A map of a cityDescription automatically generated

Beth yw'r cynllun?

Mae'r cynllun yn rhan o brosiect teithio llesol ar gyfer Treganna sy'n cael ei ariannu gan grant gan Lywodraeth Cymru.  Ei nod yw gwneud gwelliannau i bobl sy'n teithio ar droed, ar sgwter ac ar feic i ysgolion lleol a mannau eraill.   Bydd yn gwneud rhai o'r newidiadau sydd wedi digwydd ar y coridor hwn yn ystod y ddwy neu dair blynedd diwethaf yn barhaol ac yn eu hymestyn.  Cynhaliwydymgynghoriad cyhoeddusar y cynllun rhwng 08/08/2021 a 15/09/2021.

 

Beth sy'n digwydd?

Mae newidiadau'n cael eu gwneud i droedffyrdd a chyffyrdd i wella teithiau cerdded a beicio.  Gweler y map am fanylion. Mae'r newidiadau'n cynnwys:

• Bydd troedffyrdd yn cael eu hailwynebu. 

• Bydd y droedffordd a ehangwyd ar ochr orllewinol Heol y Sanatoriwm yn parhau i gael ei rannu gan gerddwyr a beicwyr.  

• Bydd y llwybr mwdlyd ger Park Vets sy'n dilyn y 'llwybr a ffefrir' ar gyfer cerddwyr yn cael ei darmacio i greu troedffordd.

• Bydd cyffyrdd â signalau Heol y Sanatoriwm gyda Heol Lansdowne a Stryd Lydan yn cael eu haildrefnu a gosodir croesfannau lletraws, a reolir gan signalau ar gyfer cerddwyr fel bod croesfannau yn haws ac yn fwy diogel.  

• Bydd newidiadau'n cael eu gwneud i gyffyrdd ffyrdd ymyl (Gorllewin a Dwyrain Heol Lansdowne a Brunswick Street) i'w gwneud yn haws i gerddwyr groesi.

• Bydd 'gerddi glaw' yn cael eu plannu i wella ymddangosiad a helpu gyda draenio dŵr wyneb.   

• Bydd Grosvenor Street yn barhaol unffordd tua'r gogledd ar gyfer yr holl draffig gyda beiciau yn unig yn cael eu caniatáu tua'r de. 

 

Pa mor hir bydd y gwaith i adeiladu'r gwelliannau yn para?

Dechreuodd y gwaith ar 6 Tachwedd 2023, a disgwylir y bydd yn dod i ben ym mis Mawrth 2024.   Bydd egwyl dros gyfnod y Nadolig.

Dyddiad dechrau ar y gwaith adeiladu: 6 Tachwedd 2023                               

Gwyliau'r Nadolig:  20 Rhagfyr 2023 - 4 Ionawr 2024

Dyddiad Cwblhau Disgwyliedig: 22 Mawrth 2024     


Dyddiadau allweddol a newidiadau dros dro i'r briffordd

-  Cau ffordd Un Ffordd - Dydd Sul, 26 Tachwedd o 9.30am tan 20 Rhagfyr 2023.

Heol y Sanatoriwm tua'r de o gyffordd Heol Lansdowne.   

 

- Goleuadau Traffig Dros Dro - o 9.30am 4 Ionawr 2024 tan 22 Mawrth 2024.

Cyffordd Heol Lansdowne gyda Heol y Sanatoriwm a Grosvenor Street.

 

- Goleuadau Traffig Dros Dro - o 9.30am 5 Ionawr 2024 tan 22 Mawrth 2024. 

Cyffordd Heol y Sanatoriwm gyda Stryd Lydan.

 

Beth yw'r effaith ar ffyrdd yn ystod y cyfnod adeiladu?

Mae angen cau ffyrdd ar gyfer y gwaith parhaus.  Bydd Heol Sanatorium, o dan y pontydd rheilffordd, yn ffordd unffordd tuag at Treganna o 26/11/23 i 20/12/23, gyda gwyriad wedi'i nodi ar y map.    Bydd monitro dyddiol yn digwydd, a gwneir addasiadau i oleuadau traffig ar Heol Atlas a Stryd Lydan i liniaru tagfeydd.   Rydym yn archwilio mesurau dros dro, fel trigolion sy'n defnyddio allanfa Pont Elái ar stad The Mill yn ystod y cyfnod hwn.


Pa newidiadau y gellir eu disgwyl ar ôl y Nadolig?

Ar ôl y Nadolig, mae angen cynllun gwahanol ar gyfer mynediad i weithwyr i gyffordd Heol Lansdowne.  Bydd goleuadau traffig dros dro yn cael eu gosod ar Heol Lansdowne a Stryd Lydan.   Bydd diweddariadau pellach yn dilyn.

 

Beth os oes problem gyda mynediad/sŵn/contractwyr ar y safle? 

Mae'r contract ar gyfer y gwaith wedi'i ddyfarnu i Horan Construction.www.horan.co.uk/02920 482048.

 

A fydd y gwaith yn arwain at lai o leoedd i barcio ar y ffordd?

Na, ni fydd gostyngiad yn nifer y lleoedd presennol.