Back
Trefniadau Derbyn i Ysgolion yng Nghaerdydd ar gyfer 2025/26

5/12/2023 

Mae ymgynghoriad yn fyw sy'n gyfle i bobl ddysgu am newidiadau arfaethedig i Drefniadau Derbyn i Ysgolion Cyngor Caerdydd ar gyfer y flwyddyn academaidd 2025-2026

Mae gofyn i Awdurdodau Lleol adolygu eu Trefniadau Derbyn i Ysgolion yn flynyddol.  Mae'r newidiadau arfaethedig i drefniadau 2025/26 yn cynnwys:

  • Dileu'r adran ar blant sy'n derbyn datganiad o Anghenion Addysgol Arbennig (AAA)
  • Eglurhad ar drefniadau derbyn i ysgolion cydlynol
  • Eglurhad ar newid ysgol yn ystod y flwyddyn academaidd
  • Gwybodaeth am y trefniadau derbyn ar gyfer Ysgol Gynradd Groes-wen
  • Eglurhad ar seiliau meddygol/cymdeithasol cymhellol
  • Ychwanegu paragraff ar frodyr a chwiorydd yn yr un flwyddyn ysgol nad ydynt yn frodyr a chwiorydd genedigaeth luosog
  • Eglurhad ar gyflwyno dogfennau sy'n ymwneud â chyfeiriad cartref Plentyn

 

Mae'r cyfnod ymgynghori yn rhedeg tan ddydd Gwener, 19 Ionawr 2024. 

Mae manylion yr ymgynghoriad ar gael i'w gweld ar wefan y Cyngor gan ddefnyddio'r ddolen yma: www.caerdydd.gov.uk/trefniadauderbyn

Gall aelodau'r cyhoedd roi eu barn drwy e-bostio ymatebionysgolion@caerdydd.gov.uk neu drwy'r post i'r Tîm Cynllunio Trefniadaeth Ysgol, Ystafell 463, Neuadd y Sir, Glanfa'r Iwerydd, Caerdydd, CF10 4UW