Back
Y Cyngor yn cynllunio Canolfan newydd i hyrwyddo byw'n annibynnol

08/12/23 

Mae Cyngor Caerdydd, mewn partneriaeth â Chyngor Bro Morgannwg a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, yn cynnig adeiladu Canolfan Lles Byw'n Annibynnol newydd gwerth £14.5m i helpu mwy o bobl i gael gofal yn eu cartrefi eu hunain a lleddfu'r pwysau ar ysbytai a chyfleusterau gofal. 

A person and a doctor looking at each otherDescription automatically generated

Mae adroddiad newydd, a fydd yn cael ei drafod gan Gabinet Cyngor Caerdydd ddydd Iau (14 Rhagfyr), yn amlinellu'r angen i gefnogi byw'n annibynnol, fel y nodir yn Strategaeth Heneiddio'n Dda'r Cyngor. Wedi'u cynnwys yn y cefnogaeth hon mae cynlluniau i adeiladu canolfan newydd yn Grangetown(Gweler y llun isod) i gynnwys:

  • Warws ar gyfer offer sydd ei angen i alluogi pobl i fyw yn eu cartrefi eu hunain ar ôl derbyn gofal;
  • Hyb Lles sy'n cynnig gwasanaethau gan gynnwys therapi, dosbarthiadau a chyfleusterau cymunedol; a
  • Chanolfan arddangos 'tŷ clyfar' newydd sy'n arddangos cymhorthion, addasiadau ac atebion ar gyfer byw'n annibynnol. 

Byddai'r prosiect partneriaeth yn darparu offer a chymorth ailalluogi mawr eu hangen ar draws y rhanbarth, gan hwyluso'r broses o ryddhau cleifion o'r ysbyty yn gynnar a lleihau'r angen am wasanaethau gofal. 

Byddai cyfleuster newydd yn canoli danfoniadau ac yn dod ag elfen glanhau ac ailgylchu'r gwaith yn fewnol, ac ar yr un pryd bydd yn darparu swyddi y mae mawr eu hangen i bobl ag anghenion ychwanegol a/neu anabledd dysgu. 

 

A diagram of a warehouseDescription automatically generatedDywedodd y Cynghorydd Norma Mackie, Aelod Cabinet y Cyngor dros Wasanaethau Cymdeithasol (Oedolion), y byddai'r ganolfan newydd, os caiff ei chymeradwyo, yn hwb enfawr i wasanaethau iechyd yng Nghaerdydd a'r Fro. "Rydyn ni i gyd yn gwybod bod cynnydd rhagamcanol yn nifer y bobl hŷn a'r rhai sy'n byw gyda salwch a dementia sy'n cyfyngu ar fywyd," meddai. 

"Erbyn hyn, mae'r gwasanaethau i ofalu am y bobl hyn a'u galluogi i fyw'n annibynnol gartref wedi tyfu'n fwy na'u cyfleusterau presennol ac mae angen canolfan newydd arnom sy'n hygyrch i drigolion Caerdydd a'r Fro. 

"Byddai'r safle arfaethedig yn natblygiad y Gasworks yn Grangetown yn cyflawni ein holl ofynion gyda chyfleuster o'r radd flaenaf sy'n darparu popeth sydd ei angen ar y gwasanaeth mewn un lleoliad." 

Mae Strategaeth Heneiddio'n Dda y Cyngor yn cynnwys rhagfynegiadau am y degawd hyd at 2030:

  • Bydd nifer y rhai sy'n 65+ oed yn codi gan 17.8%
  • Bydd nifer y rhai sy'n 85+ oed yn codi gan 9.2%
  • Bydd nifer y bobl sy'n cael trafferth gyda bywyd bob dydd yn cynyddu gan 17%, a
  • Bydd nifer y bobl sy'n byw gyda dementia yn cynyddu gan 30.1% a 41.1% ar gyfer dementia difrifol. 

Ym Mro Morgannwg, mae 56,200 o bobl 50 oed a throsodd - 46.2% o'r boblogaeth. Rhagwelir y bydd nifer y bobl 65 oed a mwy yn cynyddu gan 22% erbyn 2039 - y cynnydd mwyaf o unrhyw awdurdod lleol yng Nghymru - a bydd y cyfleuster newydd yn helpu'r Cyngor i gyflawni ei ymrwymiad Siarter y Fro Sy'n Dda i Bobl Hŷn ei hun i sicrhau bod "pobl yn cael eu cefnogi i gadw'n iach ac yn annibynnol trwy fynediad at wasanaethau priodol. 

Dwedodd y Cynghorydd Eddie Williams, yr Aelod Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Nghyngor y Fro: "Mae'r amcanestyniadau poblogaeth ar gyfer Caerdydd a'r Fro yn siarad drostynt eu hunain. Mae gofal cymdeithasol i oedolion eisoes yn rhan enfawr o waith awdurdodau lleol. Er mwyn i ni allu cefnogi mwy o bobl ag ystod ehangach o anghenion, bydd canolfannau fel hyn yn allweddol. 

"Mae hybiau lles eraill yn y rhanbarth eisoes yn profi llwyddiant gwirioneddol wrth gefnogi pobl hŷn a helpu preswylwyr i fyw bywydau mwy annibynnol. Bydd y cyfleuster newydd hwn yn ein galluogi i ddarparu cymorth gwell fyth ar draws Caerdydd a'r Fro." 

Mae'r adroddiad newydd yn dweud bod effeithlonrwydd y Cyd-wasanaeth Offer (CWO) - sy'n darparu offer gan gynnwys gwelyau, peiriannau codi cleifion a chomodau - yn dirywio oherwydd bod ei elfennau wedi'u gwasgaru ar draws y ddinas a bod diffyg lle storio. Mae'n cyflawni 76,000 o ddosbarthiadau bob blwyddyn ac mae ganddo hefyd gontractau allanol ar gyfer glanhau ac ailgylchu ei gynhyrchion gyda chwmni yn Lloegr. 

"Mae'r ganolfan newydd, drwy ei heffeithlonrwydd a'r gallu i ddod â gwaith fel glanhau ac ailgylchu yn fewnol, yn rhoi'r cyfle i ni leihau costau mewn rhai meysydd," meddai'r Cynghorydd Mackie, "yn ogystal â lleihau'r angen am ofal cartref drwy wella'r cyflymder o ddarparu ein hoffer. Rydym yn amcangyfrif y gallai hyn leihau'r galw ar wasanaethau gofal ac arbed tua £434k y flwyddyn." 

Dywedodd Abigail Harris, Cyfarwyddwr Gweithredol Cynllunio Strategol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro: "Rydym yn falch iawn o weld y datblygiad hwn yn symud ymlaen. Rydym yn gweithio'n agos gyda Chyngor Caerdydd a Chyngor Bro Morgannwg i sicrhau bod gan bobl sy'n derbyn gofal gartref yr offer sydd ei angen i gefnogi eu hanghenion gofal. Bydd y datblygiad hwn yn ein galluogi i barhau i ddatblygu a gwella ein gwasanaethau - maent yn rhan allweddol o'n hystod ehangach o ddatblygu gwasanaethau cymunedol gyda'r nod o gefnogi pobl i barhau i fyw'n dda gartref. Rydym yn ddiolchgar i Gyngor Caerdydd am arwain y gwaith ar y cyfleuster hwn." 

Mae'r Ganolfan Lles amlddisgyblaethol yn cynnig cyfle i integreiddio gwasanaeth iechyd a gofal cymdeithasol. Mae'r adroddiad yn nodi'r canlynol: "Hwn fydd y sylfaen ar gyfer darparu gwasanaethau di-dor sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn ac sydd â phwyslais ar atal a byw'n annibynnol ac yn rhoi'r hyn sy'n bwysig i'r dinesydd wrth wraidd gwasanaethau." 

Bydd y Tŷ Clyfar, mae'r adroddiad yn parhau "yn gartref pwrpasol sy'n arddangos cyfres lawn o dechnoleg, cymhorthion meddygol ac addasiadau sydd ar gael i gefnogi annibyniaeth ledled Caerdydd a'r Fro... ac yn cefnogi asesu unigol a chanolfan ar gyfer hyfforddiant arbenigol." 

Yn y cyfarfod, mae swyddogion yn argymell bod y Cabinet yn cytuno i'r Ganolfan arfaethedig fwrw ymlaen i'r cam dylunio manwl. 

I weld yr adroddiad llawn, agenda'r cyfarfod, a gwe-ddarllediad byw o'r cyfarfod ar y diwrnod,  dilynwch y ddolen hon.