Back
Chwant Llwyddiant: Sesiwn raddio'r Academi Cogyddion Iau yn nodi llwyddiant coginio i ddisgyblion Ysgol Uwchradd Gymune

7/2/2024


Mae'r Academi Cogyddion Iau, a gyflwynir gan Compass Cymru mewn cydweithrediad â Choleg Caerdydd a'r Fro fel rhan o fenter a arweinir gan Addewid Caerdydd, yn dathlu graddio deg cogydd ifanc addawol o Ysgol Uwchradd Gymunedol Gorllewin Caerdydd.

Wedi'u dewis am ddangos diddordeb yn y diwydiant coginio a lletygarwch, mae'r grŵp o ddisgyblion 14-15 oed wedi cael eu trochi mewn rhaglen ddwys 10 wythnos, gan eu hymgysylltu â'r celfyddydau coginio.  Mae'r cwrs wedi cyfuno gwybodaeth ddamcaniaethol â sgiliau ymarferol ac wedi cwmpasu ystod o feysydd gan gynnwys sgiliau cyllyll, saladau a bwyta'n iach, bara, cig, pysgod, dofednod a phwdinau.

 

Mae'r rhaglen wedi cynnwys dosbarthiadau meistr gan Gogyddion Compass Cymru a thechnegwyr y coleg sy'n darparu sesiynau trochi i arddangos heriau a llwyddiannau yn y maes coginio. Trwy bartneriaeth â cholegau a stadia lleol, mae disgyblion hefyd wedi manteisio ar arbenigedd a chyfleusterau o'r radd flaenaf i feithrin cyfleoedd a llwybrau addysg bellach.

Mae'r darpar gogyddion wedi arddangos eu sgiliau newydd mewn digwyddiad graddio mawreddog a gynhaliwyd yn Stadiwm Dinas Caerdydd lle gwnaethant ddylunio a pharatoi pryd tri chwrs a weinwyd i gynulleidfa o fwy na 40 o westeion gan gynnwys rhieni, gofalwyr, cynrychiolwyr y coleg a'r ysgol a phwysigion o'r awdurdod lleol. Anrhydeddwyd pob myfyriwr graddedig gyda thystysgrif, set o gyllyll cogydd a bag rhoddion drwy haelioni Compass Cymru. Noddwyd y rhaglen gan Brakes a ddarparodd y bwyd a'r dillad coginio.

 

Dywedodd Lereah, disgybl o Ysgol Uwchradd Gymunedol Gorllewin Caerdydd, "Y peth gorau am yr Academi Cogyddion Iau yw coginio bwyd i mam ei flasu, mae hi wrth ei bodd! Rydw i wedi dysgu sut i baratoi bwyd, sgiliau cyflwyno, glendid - mae cegin lân yn gegin hapus! Mae'r Academi Cogyddion Iau wedi rhoi rhywbeth i fi 'neud mewn bywyd, os na fyddaf yn llwyddo gyda phêl-droed hoffwn i fynd i'r coleg i astudio arlwyo."

 

Dywedodd y Cynghorydd Sarah Merry, Dirprwy Arweinydd Cyngor Caerdydd a'r Aelod Cabinet dros Addysg:  "Mae'r rhaglen unigryw hon yn mynd y tu hwnt i addysg draddodiadol, gan gynnig profiad ymarferol i fyfyrwyr ddatblygu sgiliau coginio a chael cipolwg ar y diwydiant lletygarwch helaeth a deinamig.

 

"Yn rhan o brosiect ehangach yn Ysgol Uwchradd Gymunedol Gorllewin Caerdydd, mae'r fenter yn uno partneriaid diwydiant ac addysg gyda'r nod o rymuso disgyblion ag opsiynau gyrfa amrywiol a phrofiadau ymarferol, gan ysgogi eu taith gwricwlaidd a'u paratoi ar gyfer heriau addysg ôl-16 a'r byd gwaith deinamig.

 

"Gan gynrychioli ymrwymiad pendant i feithrin y genhedlaeth nesaf o dalent goginio, mae'r Academi Cogyddion Iau yn dyst i lwyddiant ymdrechion cydweithredol rhwng sefydliadau addysgol, arweinwyr diwydiant, a'r gymuned leol. Hoffwn longyfarch yr holl raddedigion llwyddiannus ar eu cyflawniadau a diolch i'r partneriaid a gymerodd ran am eu hymrwymiad i gynnig y cyfle gwych hwn."

 

Ar ôl graddio, bydd Compass Cymru yn cynnig gwybodaeth, cyngor ac arweiniad ar rolau prentisiaeth gwag a chyfleoedd profiad gwaith posibl ar draws Compass Group.

Mae Addewid Caerdydd yn fenter a ddatblygwyd gan y Cyngor i ddwyn ynghyd ysectorau cyhoeddus a phreifat yn ogystal â'r trydydd sector i weithio mewn partneriaeth ag ysgolion a darparwyr addysg i gysylltu plant a phobl ifanc ag amrywiaeth eang o gyfleoedd sydd ar gael ymmydgwaith.