Back
Diweddariad Cyngor Caerdydd: 13 Chwefror 2024

Diweddariad Dydd Mawrth, sy'n cynnwys:

  • Adeiladwr twyllodrus oedd yn cario ‘arf tanion ffug' yn cael ei garcharu yn Llys y Goron Caerdydd
  • Canmoliaeth i Ysgol Gynradd Gatholig y Santes Fair gan Estyn am fod yn gynnes, gofalgar a chynhwysol
  • Be sy' mlaen yn ystod hanner tymor mis Chwefror?
  • A ydych chi'n adnabod athletwr ifanc talentog a allai fanteisio ar gymorth ariannol?

 

Adeiladwr twyllodrus oedd yn cario ‘arf tanion ffug' yn cael ei garcharu yn Llys y Goron Caerdydd

Mae adeiladwr twyllodrus oedd yn cario ‘gwn ffug' wedi cael ei ddedfrydu i bedair blynedd a phum mis o garchar yn Llys y Goron Caerdydd am dwyllo pedwar dioddefwr allan o £113,000, ar ôl gwneud gwaith adeiladu gwael a pheryglus i'w cartrefi yng Nghaerdydd, ac am feddu ar arf tanio ffug mewn achos ar wahân.

Honnodd Daniele Roche, 47 oed o'r Porth, ei fod yn weithiwr brics cymwysedig ac yn grefftwr medrus a wnaeth amrywiaeth o welliannau i'r cartref a gwaith adeiladu trwy ei gwmnïau - DRJ Builders a DWK Builders.

Clywodd y llys ddydd Gwener diwethaf (9 Chwefror) fod yr honiadau a wnaed gan Mr Roche yn anghywir. Roedd y diffynnydd nid yn unig yn anghymwys i gyflawni'r gwaith, ond fe gododd llawer gormod am y gwaith yr oedd yn honni ei fod wedi ei wneud, a defnyddiodd dacteg o roi pwysau ac ymddygiad bygythiol ar ei ddioddefwyr pan ofynnon nhw am ad-daliad.

Digwyddodd ymddygiad troseddol Roche rhwng Tachwedd 2021 a Gorffennaf 2022 ac roedd yn cynnwys pedwar eiddo gwahanol yng Nghaerdydd. Arweiniodd gwerthusiadau annibynnol dilynol o waith Roche at yr ystyriaeth fod dau eiddo yn anniogel, gyda gwerth ond wedi ei ychwanegu at un eiddo pan gafodd ail lawr yr eiddo ei ail-rendro.

Plediodd Mr Roche yn euog i un cyfrif o dwyll ar 27 Hydref, 2023, ac yn euog o feddu ar arf tanio ffug pan oedd ar fechnïaeth am y drosedd hon ar 24 Ionawr, 2024.

Darllenwch fwy yma

 

Canmoliaeth i Ysgol Gynradd Gatholig y Santes Fair gan Estyn am fod yn gynnes, gofalgar a chynhwysol

Mae Ysgol Gynradd Gatholig y Santes Fair yn Nhreganna wedi derbyn canmoliaeth gan Estyn am ei amgylchedd cynnes, gofalgar a chynhwysol.

Yn ystod ymweliad diweddar gan Estyn, yr Arolygiaeth Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru, tynnodd arolygwyr sylw at y gwaith cadarnhaol sy'n digwydd yn yr ysgol, gyda'r uchafbwyntiau yn cynnwys:

 

  • Gweledigaeth o Ragoriaeth
  • Cynnydd Academaidd a Chefnogaeth i bawb
  • Cwricwlwm Eang a Chytbwys
  • Arweinyddiaeth ac Ymgysylltu â'r Gymuned

 

Adroddiad cadarnhaol ar y cyfan a bydd yr ysgol yn mynd i'r afael bellach â'r tri argymhelliad gan Estyn drwy gynllun gweithredu'r ysgol:

 

  • Sicrhau bod yr addysg yn herio pob disgybl, gan gynnwys y rhai mwy galluog, i ddatblygu eu sgiliau dysgu annibynnol.
  • Gwella darpariaeth i ddisgyblion ddatblygu a chymhwyso'u sgiliau rhifedd a digidol.
  • Darparu cyfleoedd i ddisgyblion wneud dewisiadau yn eu haddysg i ddatblygu cwricwlwm mwy deniadol.

Darllenwch fwy yma

 

Be sy' mlaen yn ystod hanner tymor mis Chwefror?

Os ydych chi'n chwilio am rywbeth i'r rhai bach, neu blant ifanc a'r rhai yn eu harddegau, mae ein prifddinas yn ddelfrydol i greu atgofion hanner tymor cyffrous!

​​​​​​Mae gennym lawer o weithgareddau am ddim yn digwydd yn y ddinas a'r ardaloedd cyfagos i sicrhau fod gan blant ddigon i'w wneud yn ystod gwyliau'r ysgol.

Darllenwch fwy yma

 

A ydych chi'n adnabod athletwr ifanc talentog a allai fanteisio ar gymorth ariannol?

Mae Sefydliad Chwaraeon GLL yn gwadd athletwyr talentof i wneud cais i Wobrau Chwaraeon 2024.

Mae ceisiadau ar gyfer rhaglen gymorth athletwyr annibynnol fwyaf Prydain, Sefydliad Chwaraeon GLL, ar agor tan 20 Chwefror.  

Gall athletwyr cymwys fanteisio ar becynnau gwobr sydd yn cynnwys:

 

  • Grantiau ariannol o hyd at £1,250
  • Aelodaeth hyfforddi am ddim i ddefnyddio cyfleusterau canolfannau hamdden Caerdydd (a 300 o leoliadau chwaraeon a weithredir gan GLL a‘u partneriaid).
  • Mynediad at wyddoniaeth chwaraeon, cymorth meddygol a chyfleoedd gwaith.

Dysgwch fwy a gwnewch yma: www.gllsportfoundation.org