Back
Disgyblion Ysgol Gynradd Coed Glas yn paratoi ar gyfer antur wrth ymweld â safle dymchwel yn Nhŷ Glas

22/2/2024

Mae disgyblion o Ysgol Gynradd Coed Glas yn Llanisien wedi mwynhau cyfle unigryw i ymweld â'r safle dymchwel yn hen adeilad swyddfa CThEF yn Nhŷ Glas.

Ymwelodd 120 o blant mewn hetiau caled a gwasgodau llachar â'r safle gan gynnwys disgyblion dosbarth Derbyn, Blwyddyn 5 a disgyblion Canolfan Adnoddau yr ysgol i blant â nam ar eu clyw.

Yn ystod yr ymweliad, a gafodd ei gynnal gan Erith, y contractwr dymchwel a ddewiswyd i ymgymryd â'r gwaith, cafodd y plant eu hebrwng i ardal ddiogel lle cawsant gyfle i eistedd yng nghab lori godi a dysgu am yr agweddau diogelwch ar y cerbydau. Cawsant hefyd gyfle i wylio'r broses o ddymchwel Gleider House o fan diogel a gofyn cwestiynau i uwch bersonél y prosiect, cyn derbyn bag o nwyddau. Pan ofynnwyd iddynt am eu barn ar yr ymweliad, fe wnaeth Jude a Theo, disgyblion dosbarth Derbyn, ymateb; "siwper-diwper."

Dywedodd Sophie Notley, Pennaeth Ysgol Gynradd Coed Glas: "Mae'r plant wedi rhyfeddu gyda'r safle dymchwel ac roedden nhw wrth eu boddau gyda'r ymweliad.  Dywedodd un rhiant mai dyma oedd hoff daith ei mab hyd yn hyn! Mae cael profiadau lleol a pherthnasol i'r plant yn bwysig iawn.  Rydym yn ddiolchgar iawn i Erith am y rhodd hael o Chromebooks sydd wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i'r plant yn eu hystafelloedd dosbarth."

Mae'r ymweliad yn rhan o ymrwymiadau gwerth cymdeithasol Erith sy'n gysylltiedig â'r buddsoddiad gwerth tua £200,000. Mae 22 o Chromebooks a thrwyddedau wedi eu rhoi i Ysgol Coed Glas ac mae Erith hefyd yn awyddus i weithio gydag ysgolion lleol eraill gan gynnwys Ysgol Uwchradd Llanisien a Choleg Caerdydd a'r Fro. 

Dywedodd y Cynghorydd Sarah Merry, Dirprwy Arweinydd Cyngor Caerdydd, a'r Aelod Cabinet dros Addysg:  "Mae Caerdydd wedi ymrwymo i sicrhau bod cymunedau lleol yn elwa ar gyfleoedd a gwelliannau amgylcheddol, sy'n cael eu darparu drwy werthoedd cymdeithasol sy'n gysylltiedig â phenderfyniadau buddsoddi a gwario'r Cyngor.

"Bydd y gwaith cyffrous sy'n digwydd yn Nhŷ Glas yn galluogi ysgolion lleol a grwpiau eraill i gyrchu profiadau unigryw a chyfleoedd dysgu, a fydd yn cael effaith gadarnhaol ar fywydau plant a phobl ifanc o'r ardal. Mae hyn yn cefnogi strategaeth Caerdydd sy'n Dda i Blant a blaenoriaethau Cryfach, Tecach, Gwyrddach y ddinas."

Dywedodd Scott Lardner, yr Uwch Reolwr Contractau: "Roedd hi'n bleser cael y plant i ymweld â'r safle ac ymddiddori yn ein diwydiant gymaint ag y gwnaethon nhw. Roedd y cwestiynau a godwyd gan y plant yn arwyddocaol o'r hinsawdd sydd ohoni, megis cynaliadwyedd ac ailgylchu/ailddefnyddio ar brosiectau dymchwel a'r technolegau sydd ar gael i ni i gyflawni prosiectau fel Tŷ Glas. Mae'n galonogol gweld awydd am ein diwydiant ymhlith y genhedlaeth nesaf o weithwyr adeiladu."

Dechreuodd y gwaith o ddymchwel y safle ym mis Mehefin 2023. Mae trigolion sy'n byw ger y safle yn cael gwybod am ddatblygiadau yn rheolaidd ac mae mesurau lliniaru ar waith i leihau effaith y gwaith ar y gymuned leol.

Caffaelodd y Cyngor safle Tŷ Glas ym mis Hydref 2021 i ddarparu safle clir i gyflwyno cynigion addysg strategol o dan y Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy. Ar hyn o bryd nid oes unrhyw gynlluniau penodol ar gyfer y safle a byddai unrhyw gynigion yn y dyfodol yn destun ymgysylltu â'r gymuned yn ogystal ag ymgynghori drwy'r broses gynllunio.