Back
Gwaith wedi dechrau i adeiladu Beicffordd Parc y Rhath

26/02/24


Mae gwaith a
deiladu wedi dechrau heddiw, (Dydd Llun, 26 Chwefror),ary cam cyntaf oFeicfforddParc y Rhath Caerdydd.

Yn ogystal âdarparubeicfforddnewyddo fewn Tir Hamdden Parc y Rhath a gwella llwybrau troed,bydd y gwaith yn arwain atwelliannau i droedffyrdd, cyffyrdd priffyrdd,a theithio ar fws,yn ogystal â chynyddu capasiti'r system ddraenio o amgylch Llyfrgell a Chanolfan Gymunedol Pen-y-lan a oedd yn dueddol o ddioddef llifogydd dŵr wyneb.

Mae'r llwybrau troed newydd yn y maes chwarae hefyd yn cynnwys mesurau draenio fydd yn mynd i'r afael â rhai o'r materion presennol lle mae rhai llwybrau troed yn gorlifo ac yn amhosibl mynd heibio iddynt pan fydd hi'n bwrw glaw.

Ar ôl ei chwblhau, bydd y llwybr beicio lletach yn rhedeg o ogledd Parc y Rhath, ger Ysgol Uwchradd Caerdydd, i Heol Casnewydd, lle bydd yn cysylltu â beicffordd arall (Beicffordd 2) fydd yn rhedeg i Dredelerch, Llanrhymni,ac yna ymlaeni Barc Busnes Llaneirwg.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Gynllunio Strategol a Thrafnidiaeth, y Cynghorydd Dan De'Ath: "Mae'r cynllun hwn yn fuddsoddiad sylweddol i lwybrau beicio a cherdded yn y rhan hon o'r ddinas, gan ddarparu cyfleusterau gwell i feicwyr hamdden, yn ogystal â'r rhai sydd eisiau mynd i siopa, mynd i'r gwaith, neu fynd i'r ysgol.

"Ymgynghorodd y cyngor ar y cynllun hwn gyda phreswylwyr a chynrychiolwyr lleol ym mis Mawrth 2022 ac eto ym mis Rhagfyr 2022/Ionawr 2023. Yn dilyn yr adborth, ystyriwyd yr holl sylwadau yn ofalus, a gwnaed newidiadau dylunio penodol fel oedd yn briodol. Wrth osod beicffordd fel hon, mae'n hanfodol ein bod yn cael cydbwysedd rhwng dulliau gwahanol o drafnidiaeth, er mwyn sicrhau bod beicwyr a cherddwyr yn ddiogel, bod teithio ar fysiau yn gwella, a bod cyffyrdd yn cael eu hailfodelu i sicrhau bod modurwyr yn dal i allu cyrraedd eu cyrchfan ddewisol.

"Mae'r cyngor wedi ymrwymo i wella llwybrau beicio a cherdded ledled y ddinas ac mae'r cynllun hwn yn gam pellach tuag at ddatblygu rhwydwaith beicio ar wahân ledled y ddinas, a fydd yn cydgysylltu â llwybrau trafnidiaeth gyhoeddus, i ddarparu dewis amgen addas yn lle teithio mewn car preifat.

"Gan weithio gyda'n contractwr, Knights Brown, mae gan y cynllun werth cymdeithasol sylweddol hefyd yr amcangyfrifir ei fod tua £125,000. Mae hyn yn cynnwys swyddi newydd, cyfleoedd am brentisiaethau, gwneud y defnydd gorau o gyflenwyr lleol, sesiynau gwasanaeth i Mewn i Waith, profiad gwaith, lleoliadau myfyrwyr, digwyddiadau mewn ysgolion, prosiectau cymunedol a chyfleoedd gwirfoddoli."

Mae cam cyntaf cynllun beicffordd newydd Parc y Rhath yn cynnwys:

  • Beicffordd ar wahân newydd rhwng Heol Wellfield a Heol y Gwernydd a llwybrau troed gwell yn y cae chwarae
  • Gwelliannau i faes parcio Llyfrgell a Chanolfan Gymunedol Pen-y-lan
  • Gwelliannau sylweddol i'r system ddraenio o amgylch y ganolfan gymunedol gan ddefnyddio technegau draenio cynaliadwy a siambrau casglu newydd.
  • Gwelliannau i gyffordd Heol Wellfield, Heol Marlborough, Heol Pen-y-lan a Heol Ninian i wella amserau aros teithwyr, capasiti cyffyrdd a theithio ar fysiau
  • Croesfan feicffordd newydd ar draws y gyffordd hon fydd yn cysylltu beicffordd dros dro bresennol Heol Wellfield â beicffordd newydd Parc y Rhath
  • Disodli'r rhwystrau culhau'r ffordd ar Heol Tŷ Draw gyda phedair croesfan i gerddwyr â ramp
  • Gwelliannau i deithio ar fysiau, gan gynnwys safle bws newydd wrth deithio tua'r gogledd ar Ffordd Ninian ac adeiladu rhai o'r safleoedd presennol allan i wella mynediad
  • Gwella'r groesfan sebra ar Heol Ninian wrth Pen-y-Wain Road ac adeiladu troedffordd a rennir i feicwyr a cherddwyr tuag at Ysgol Gynradd Parc y Rhath.

Aeth y Cynghorydd De'Ath ymlaen: "Disgwylir i'r cynllun gymryd 35 wythnos i'w gwblhau. Fel gyda phob datblygiad, bydd elfen o darfu a hoffem ddiolch i'r cyhoedd am eu hamynedd wrth i'r prosiect gael ei gynnal."