Back
Pont newydd yn cwblhau llwybr unwaith eto mewn llecyn hardd poblogaidd

06.03.24
Mae taith gerdded gylchol boblogaidd ym Mharc Llyn Hendre yn cael ei defnyddio eto ar ôl i Gyngor Caerdydd gwblhau'r gwaith o ailadeiladu pont yn y llecyn prydferth poblogaidd.

Dechreuodd y gwaith y llynedd ar y bompren 22 metr, sy'n eistedd ar allfa'r brif afon sy’n bwydo'r llyn, ac fe'i hagorwyd yn swyddogol i'r cyhoedd yr wythnos hon. Fel rhan o lwybr cylchol o amgylch y llyn, sy’n addas i gadeiriau olwyn, mae'n cael ei ddefnyddio gan lawer gan gynnwys pysgotwyr, cerddwyr cŵn, gwylwyr adar a charedigion byd natur.

Dwedodd y Cynghorydd Jennifer Burke, Aelod Cabinet y Cyngor dros Ddiwylliant, Parciau a Digwyddiadau:  "Gyda chymorth cyllid Llywodraeth Cymru, rydym yn hapus i ddweud bod y bont wedi cael ei hadnewyddu mewn pryd ar gyfer dechrau'r Gwanwyn. Mae'r fersiwn hon wedi'i gwneud o ddeunydd llawer mwy cynaliadwy nag o'r blaen, felly dylai bara o leiaf 50 mlynedd yn hirach na’r 20 mlynedd y bu’r bont wreiddiol ar waith.

"Mae Llyn Parc Hendre wedi bod yn gaffaeliad gwerthfawr yn y rhan hon o'r ddinas ers amser maith ac mae ar agor 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos.  Caiff ei gynnal a'i gadw'n dda gan staff ein parciau ac fe'i defnyddir yn dda gan bobl o bob rhan o Gaerdydd. Rwy'n falch iawn ei fod bellach yn ôl ar ei orau."

Wedi'i leoli yn Trowbridge ar gyrion deheuol Llaneirwg, ar Wastadeddau Gwent, mae Parc Llyn Hendre yn ofod gwyrdd naturiol sydd wedi'i wladychu gan amrywiaeth eang o adar, anifeiliaid a phlanhigion.  Mae wedi'i ddynodi'n Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig. Mae maes parcio bach ar gael ar y safle i ddefnyddwyr.