Back
Dathlu 60 mlynedd o efeillio gyda mwy o entente cordiale

12.03.24
I lawer o bobl Caerdydd, mae'r Boulevard de Nantes yn un o'r ffyrdd mwyaf mawreddog yng nghanolfan ddinesig urddasol y ddinas – tramwyfa eang â choed ar ei hyd yn cynnwys rhai o'n rhyfeddodau pensaernïol gorau.

Ond i Ffrainc-garwyr y ddinas, mae'n atgof hyfryd a pharhaol o gysylltiadau swyddogol Caerdydd â'r ddinas yn ardal Pays de la Loire sydd yn un o’n partneriaid gefeillio hanesyddol.

Eleni, mae Caerdydd yn dathlu trigain mlwyddiant y gefeillio ffurfiol rhwng Caerdydd a Nantes, ond mae hefyd yn 70 mlynedd ers yr ymweliad cyfnewid cyntaf rhwng pobl ifanc o Gaerdydd a'u cymheiriaid yn Ffrainc. I lawer, roedd yn ddechrau cysylltiad sydd wedi cryfhau dros y blynyddoedd ac wedi creu cyfeillgarwch sy'n parhau hyd heddiw.

I David Judd – yn ddisgybl ar y pryd yn Ysgol Uwchradd Caerdydd - roedd y daith gyfnewid gyntaf honno yn gyfle i ddianc rhag y cyni oedd yn dal i fodoli ym Mhrydain wedi'r rhyfel. Dim ond y flwyddyn flaenorol y daeth dogni i ben ond eto roedd y Ffrainc a ddarganfu, er wedi dioddef caledi meddiannaeth yr Almaenwyr, yn ymddangos yn llawn lliw a hyfrydwch egsotig.

"Gartref, roeddem yn dal i dderbyn parseli bwyd gan famau'r GIs Americanaidd a oedd wedi cael eu lletya gennym yn y cyfnod cyn D-Day," meddai David, sydd bellach yn 85 oed. "Ond agorwyd fy llygaid i foethusrwydd go iawn pan es i i ymweld â fy ffrind drwy’r post yn Nantes - bachgen o'r enw Eric oedd yn dod o deulu cyfoethog oedd yn berchen ar ffatri rhoi sardîns mewn tun.

"Roedd ganddyn nhw gartref crand yn Vertou, maestref smart yn Nantes, a chartref gwyliau gyda morwynion, i lawr yr aber yn St Marc sur Mer. Roedd Eric a fi (gweler y llun uchod, ar y dde, gydag Eric) yn dod ymlaen yn dda iawn a chefais amser gwych draw yno a dechreuodd berthynas oes gyda Ffrainc a dwi'n meddwl fy mod wedi trosglwyddo hyn i fy mab a’m hwyres - sydd ar hyn o bryd yn dysgu Saesneg yn Lyons."

Dechreuodd y cyfnewid blynyddol rhwng oedolion y ddwy ddinas ym 1981 ac, ar wahân i seibiant o dair blynedd a achoswyd gan y pandemig, maent wedi parhau byth ers hynny. Yn ogystal â'r cyfnewidiadau hyn a’r cydweithio rhwng ysgolion, mae yna lawer o gysylltiadau eraill sydd wedi'u creu dros y blynyddoedd, yn fwyaf diweddar rhwng Côr y Gleision a'r Schola Cantorum de Nantes, a roddodd berfformiad cofiadwy ar y cyd yn Nantes fis Hydref diwethaf.

Ym mis Awst 2023, gwahoddwyd 12 o bobl ifanc o Gaerdydd gan ddinas Nantes i gymryd rhan mewn gwersyll ieuenctid blynyddol ac mae cynlluniau i ailadrodd hyn yn yr haf. Mae gwahoddiad hefyd yn cael ei estyn bob blwyddyn i wneud cais i Fforwm Cenedlaethau Creadigol Nantes gyda phobl ifanc o Chwaraeon Sylfaen 4 Caerdydd wedi'u dewis i gymryd rhan y llynedd.

Ar lefel ddinesig, mae'r cysylltiad rhwng Nantes a Chaerdydd hefyd yn parhau'n gryf. Mae gan Gyngor Caerdydd swyddog Ewropeaidd sy’n cysylltu â'i chymar yn Nantes ac yn rheoli'r berthynas rhwng y ddwy ddinas, yn ogystal â'r cysylltiadau rhwng Caerdydd a'i 'gefeilliaid' eraill.

Dywedodd arweinydd Cyngor Caerdydd, y Cynghorydd Huw Thomas, ei fod wrth ei fodd gyda llwyddiant parhaus partneriaeth Nantes. "Mae'n bwysig iawn bod gan Gaerdydd gysylltiadau da gyda'i holl bartneriaid gefeillio ledled y byd ac mae'r cyngor yn credu bod llawer i'w ennill o gael cysylltiadau diwylliannol a busnes da gyda’n dinasoedd gefeillio i gyd.

"Mae ein cysylltiadau gyda Nantes yn mynd yn ôl canrifoedd, wrth gwrs, pan oedd yn ymwneud â'r fasnach lo a phren gyda Chaerdydd, ac mae'r cysylltiadau hynny'n parhau hyd heddiw, fel y gwelais yn uniongyrchol wrth fynd i Ffrainc ar ymweliad swyddogol y llynedd."

“Y flwyddyn nesaf fydd 70 mlwyddiant ein cysylltiadau â Stuttgart," ychwanegodd. "Ond mae'r ffocws eleni ar Nantes. Roedd digwyddiad 'Cymru yn Ffrainc' gan Llywodraeth Cymru yn yr amgueddfa ar 9 Mawrth, y diwrnod cyn i Gymru herio Ffrainc ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad yng Nghaerdydd ac ar 24 Ebrill bydd cinio yng Nghlwb Golff Caerdydd lle bydd yr Arglwydd Faer yn helpu i ddathlu'r pen-blwydd gyda phobl bwysig o Nantes a Chaerdydd a grŵp Cyfnewid Caerdydd-Nantes, y Societe Franco-Britannique a’r Club de Francais."

Os oes gennych ddiddordeb mewn ymuno â grŵp Cyfnewid Caerdydd-Nantes, ewch i'w gwefan yn Cyfnewid Nantes Caerdydd (cardiff-nantes.orgAm fwy o wybodaeth.