Back
Cynlluniau diwygiedig Canolfan Hamdden Pentwyn i’w cyflwyno i'r gymuned

20.3.24

Bydd cynlluniau diwygiedig ar gyfer Canolfan Hamdden Pentwyn cael eu cyflwyno i'r gymuned leol mewn dau ddigwyddiad galw heibio yr wythnos nesaf.

Bydd y digwyddiadau'n cael eu cynnal yng Nghanolfan Hamdden Pentwyn ar ddydd Mawrth 26 a Dydd Mercher 27 Mawrth rhwng 10am a 6pm.

A sign in front of a buildingDescription automatically generated

Canolfan Hamdden Pentwyn

Mae'r cynlluniau, sydd wedi eu diwygio yn dilyn penderfyniad diweddar Rygbi Caerdydd i dynnu'n ôl o'r ganolfan, yn cynnwys pwll nofio 25 metr.

Bydd y pwll yn cynnwys llawr symudol y gellir ei addasu i ganiatáu i ddyfnder y dŵr amrywio. Mae'r nodwedd hon yn galluogi'r pwll i gael ei ddefnyddio ar gyfer ystod eang o weithgareddau nofio a 'sblasio', yn ogystal â lleihau'r ynni sydd ei angen i gynhesu'r dŵr. Bydd y sleid bresennol hefyd yn cael ei chadw.

Bydd y neuadd chwaraeon bresennol a'r cae 3G bach awyr agored yn cael eu cadw a bydd cyfleusterau'r stiwdio a'r gampfa yn cael eu hailagor.  Bydd yr ystafelloedd newid hefyd yn cael eu hailwampio'n llawn.

Bydd perfformiad ynni'r ganolfan yn cael ei uwchraddio trwy baneli solar wedi'u gosod ar y to a phwmp gwres ffynhonnell aer i gynhesu'r pwll. Gyda'i gilydd, bydd y buddsoddiadau hyn yn helpu i leihau cost weithredol rhedeg y ganolfan a gwella perfformiad carbon yr adeilad. 

Dywedodd llefarydd ar ran y Cyngor:  "Mae'r cynlluniau diwygiedig hyn yn cynnig llwybr fforddiadwy tuag at wneud yr hyn y mae'r Cyngor bob amser wedi ymrwymo i'w wneud - ailagor Canolfan Hamdden Pentwyn, gan gynnwys pwll nofio."

Yn dilyn y sesiynau galw heibio, bydd aelodau o'r gymuned leol sydd â chwestiynau neu sydd angen rhagor o wybodaeth am y cynlluniau, gysylltu â:ymgynghoriad@caerdydd.gov.uk