Back
Am y tro cyntaf yng Nghaerdydd, siop gafodd ei dal yn gwerthu cynhyrchion tybaco anghyfreithlon yn cael ei chau gan y cy
21/03/24


Mae Kermashan Mini Market, 136 Clifton Street, Caerdydd, wedi cael ei chau gan y Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir ar ôl cwynion ynghylch gwerthu tybaco anghyfreithlon a thuniau ocsid nitraidd.

Dyma'r tro cyntaf i bwerau gorfodi gael eu defnyddio fel hyn gan Gyngor Caerdydd.

Bydd y siop ar gau am o leiaf dri mis, am werthu cyffuriau Dosbarth C a chynhyrchion anghyfreithlon a pheryglus eraill i'w chwsmeriaid.

Mae'r 'Gorchymyn Cau', a osodwyd gan Lys Ynadon Caerdydd heddiw (21 Mawrth) yn golygu bod yn rhaid i'r siop gau ar unwaith a gallai unrhyw fasnachu am dri mis wedi hynny arwain at y perchennog yn derbyn tri mis yn y carchar, dirwy neu'r ddau.

Daeth yr achos i'r amlwg pan gafwyd cwynion fod y siop yn gwerthu cynhyrchion tybaco anghyfreithlon a thuniau Ocsid Nitraidd.  Dechreuodd  Safonau Masnach ymchwiliad a gwnaed profion prynu.  Dangosodd y canlyniadau fod y siop yn gwerthu tybaco ffug, fêps anghyfreithlon, sigaréts di-doll wedi'u smyglo i'r DU ac Ocsid Nitraidd. Roedd 50g o dybaco Amber Leaf ffug yn cael ei werthu am gyn lleied â £5 pan mai £40 yw’r pris manwerthu cyfartalog fel arfer.

Dywedodd llefarydd y Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir: "Mae tybaco anghyfreithlon yn gwneud niwed mawr yn y gymuned.  Mae’r ffaith ei fod yn rhad ac yn hawdd cael gafael arno’n arbennig o ddeniadol i bobl ifanc ac eraill ar incwm is, ac mae'n dileu'r cymhelliant pris i ysmygwyr presennol roi'r gorau i'r arfer'. "Rwy'n falch iawn o weld y camau hyn yn cael eu rhoi ar waith. Mae angen i droseddwyr wybod y byddant yn wynebu canlyniadau os byddant yn dewis delio yn y cynhyrchion anghyfreithlon hyn."

Anogir unrhyw un sydd â gwybodaeth o ran unrhyw werthiannau tybaco anghyfreithlon i roi gwybod amdano, yn ddienw, drwy https://noifs-nobutts.co.uk/report-illegal-tobacco-in-wales