Back
Bydd partner dylunio ac adeiladu newydd yn cael ei benodi ar gyfer Cledrau Croesi Caerdydd
21/03/24


Mae cam cyntaf Cledrau Croesi Caerdydd wedi cymryd cam pellach ymlaen heddiw - gyda'r newyddion y bydd partner dylunio ac adeiladu yn cael ei benodi, er mwyn cyflwyno'r dyluniad manwl ar gyfer cam cyntaf y cynllun o Gaerdydd Canolog i Orsaf Drenau Bae Caerdydd.

Derbyniodd Cabinet Cyngor Caerdydd ddiweddariad ar y cynllun yn ei gyfarfod ar 21 Mawrth, gydag argymhellion i gaffael a phenodi partner cyflawni i gyflwyno cam cyntaf y cynllun, a rhoi awdurdod i'r cyngor a Thrafnidiaeth Cymru (TC) ddechrau'r broses ymgynghori ac ymgysylltu â'r cyhoedd. Cafodd yr argymhellion eu cymeradwyo gan y Cabinet.

Ym mis Ionawr 2023, sicrhaodd Cyngor Caerdydd, mewn partneriaeth â TC, £100m o gyllid ar gyfer prosiect Cledrau Croesi Caerdydd. Sicrhawyd £50m gan Gronfa Ffyniant Bro Llywodraeth y DU, gyda Llywodraeth Cymru yn rhoi arian cyfatebol o £50m pellach ar gyfer y prosiect,

Rhaid gwario'r £50m o gyllid Llywodraeth y DU erbyn canol 2026 a bydd cyllid Llywodraeth Cymru yn cael ei ddyfarnu mewn pedwar rhandaliad blynyddol o £12.5m yr un o 2026.

Er mwyn cyrraedd y terfynau amser hyn, mae'r prosiect wedi'i rannu'n ddau gam cyflawni, sef:

Cam 1a) Caerdydd Canolog i Orsaf Bae Caerdydd. Mae'r cam hwn yn cael ei ariannu'n llawn a bydd angen ailddatblygu'r rhwydwaith priffyrdd o amgylch Sgwâr Callaghan yn sylweddol, er mwyn i’r tram-drenau allu cysylltu â llinell reilffordd bresennol Bae Caerdydd, yn ogystal â phlatfform tram-drenau newydd yng Nghaerdydd Canolog.

Er mwyn sicrhau y gall y tram gydgysylltu â llwybrau cerdded a beicio, bydd ardal gyhoeddus newydd o flaen Sgwâr Callaghan, beicffordd ar wahân newydd i gysylltu Caerdydd Canolog â Sgwâr Callaghan sy'n cysylltu â'r rhwydwaith strategol ehangach a newidiadau i'r trefniadau mynediad ar gyfer traffig drwodd cyffredinol trwy Rodfa Bute a Heol Eglwys Fair Isaf.

Cam 1b) Gorsaf Bae Caerdydd i Stryd Pen y Lanfa. Nid yw'r cam hwn yn cael ei ariannu ar hyn o bryd ond bydd yn cynnwys ailfodelu'r rhwydwaith priffyrdd o amgylch y Rhodres a Stryd Pen y Lanfa i ganiatáu adeiladu estyniad trac tram newydd. Bydd y rhan hon o'r cynllun hefyd yn cynnwys gwella cyfleusterau ar gyfer cerddwyr a beicwyr, gyda chyfleusterau croesi newydd a beicffordd ar wahân newydd i gysylltu Roald Dahl Plass yn well gyda datblygiad yr arena dan do newydd. 

Dywedodd llefarydd ar gyfer Cyngor Caerdydd:  Mae Cledrau Croesi Caerdydd yn gynllun uchelgeisiol i ddarparu system drafnidiaeth tram-drenau newydd Caerdydd a fydd, yn y pen draw, yn rhedeg o ogledd-orllewin y ddinas, yr holl ffordd i ddwyrain y ddinas gan gysylltu â gorsaf arfaethedig Parcffordd.

"Mae Cledrau Croesi wedi bod yn uchelgais ers cryn amser, i ddarparu gwasanaeth tram traws-ddinas sy'n fforddiadwy ac yn ddibynadwy i'r cyhoedd ei ddefnyddio, i gysylltu rhai o gymunedau tlotaf Caerdydd â'r rhwydwaith rheilffyrdd am y tro cyntaf.

"I ddechrau'r broses hon, rhaid adeiladu cam cyntaf y cynllun rhwng Caerdydd Canolog a Bae Caerdydd a bydd yn sicrhau o'r diwedd bod Butetown wedi'i gysylltu'n iawn â chanol y ddinas, trwy Gaerdydd Canolog, gan ddarparu mwy o gapasiti i breswylwyr ac ymwelwyr allu defnyddio’r ystod eang o atyniadau sydd gan Gaerdydd i'w cynnig.

"Bydd y cynllun hefyd yn creu swyddi ym maes adeiladu a gweithredu ac yn rhoi opsiwn teithio gwell i breswylwyr Butetown ar gyfer gwaith a phleser. Bydd gwerth cymdeithasol y contract yn cael ei gadarnhau gan y contractwr a ddewisir pan fydd y ceisiadau'n cael eu derbyn a'u gwerthuso.

"Ar ôl i’r cam cyntaf gael ei gyflawni, gellir ymestyn y llwybr hwn yn hawdd i'r dwyrain neu'r de, gan ddarparu llwybr trafnidiaeth dibynadwy a fforddiadwy newydd i'r cyhoedd ei ddefnyddio."

 Er mwyn cyflawni cam cyntaf Cledrau Croesi Caerdydd, mae llinell amser wedi'i gosod, sef:

• Ebrill 2024: Achos Busnes Amlinellol i'w gyflwyno i Lywodraeth y DU

• Haf 2024: Ymgysylltir â Rhanddeiliaid cyn yr Ymgynghoriad Cyhoeddus yn ystod hydref 2024

• Hydref 2024: Gwaith Galluogi’n dechrau

• Gaeaf 2024: Achos Busnes Llawn yn cael ei gyflwyno i Lywodraeth y DU

• Gaeaf 2024: Cymeradwyaeth bellach gan y Cabinet i ddyfarnu'r tendr

·       Haf 2025: Cymeradwyaeth bellach gan y Cabinet i ddyfarnu’r tendr

• Haf/Hydref 2025: Y gwaith adeiladu'n dechrau.