Back
Cyllid newydd ar gael i greu cydlyniant cymunedol

28/3/24 

Mae Cyngor Caerdydd unwaith eto'n gwahodd ceisiadau gan grwpiau cymunedol a sefydliadau'r trydydd sector ledled y ddinas am gyllid grant sydd ar gael i helpu i adeiladu cymunedau cryf a chydlynol. 

Mae grantiau bach o hyd at £2,000 ar gael i gefnogi prosiectau a mentrau sy'n amlygu ac yn dathlu amrywiaeth cymunedau yn y ddinas.   Gellir defnyddio cyllid at amrywiaeth o ddibenion, gan gynnwys cynnal digwyddiadau a gweithgareddau, cynhyrchu llenyddiaeth gefnogol neu feithrin gallu o fewn cymuned.   

Rhaid i geisiadau fodloni o leiaf un o'r amcanion canlynol:- 

  • Dathlu Amrywiaeth
  • Ymwybyddiaeth o Droseddau Casineb
  • Ateb naratifau niweidiol/casineb
  • Lleihau Tensiynau Cymunedol
  • Meithrin Gallu Cymunedol
  • Cymunedau yn gweithio gyda'i gilydd i gefnogi Cydlyniant Cymunedol
  • Hyrwyddo cydraddoldeb ymhlith yr holl nodweddion gwarchodedig a nodir yn Neddf Cydraddoldeb 2010
  • Hyrwyddo Cydlyniant Cymunedol fel yr amlinellir yn Neddf Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru o gymunedau cydlynol - Cymunedau deniadol, hyfyw, diogel a chysylltiedig)
  • Cysylltiadau â Digwyddiad Cydraddoldeb Arwyddocaol 

Dywedodd llefarydd ar ran y Cyngor: "Rydym yn awyddus i glywed gan grwpiau a sefydliadau sydd â syniadau ar gyfer adeiladu cymunedau cryf a chydlynol, felly rydym yn chwilio am gynlluniau sy'n galluogi dinasyddion o gefndiroedd gwahanol i rannu perthnasoedd cadarnhaol, teimlo'n ddiogel yn eu cymdogaethau, a chael ymdeimlad o barch at y ddwy ochr a gwerthoedd cyffredin." 

Gwahoddir ceisiadau gan sefydliad gwirfoddol neu grwpiau cymunedol cyfansoddedig a sefydledig sydd â chyfrif banc neu gymdeithas adeiladu yn enw'r sefydliad.

Anogir cydweithio rhwng grwpiau/sefydliadau sy'n gwneud cais am y cyllid yn gryf.  Mewn amgylchiadau eithriadol, bydd ceisiadau partneriaeth (mwy na dau grŵp yn gweithio gyda'i gilydd ar brosiect) o hyd at £5,000 yn cael eu hystyried. 

Mae gwaharddiadau'n berthnasol i sut y gellir defnyddio'r cyllid ac anogir ymgeiswyr i ddarllen y meini prawf cymhwysedd yn y ffurflen gais yn ofalus cyn gwneud cais. 

Bydd pob cais yn cael ei asesu a bydd penderfyniadau'n cael eu gwneud gan banel.  Bydd angen cwblhau'r prosiectau erbyn mis Mawrth 2025. 

I gael rhagor o wybodaeth ac i ofyn am ffurflen gais am gyllid, e-bostiwch  cydlyniant@caerdydd.gov.uk

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau yw 14 Mai 2024.