Back
Cyfleoedd dysgu hyblyg i roi hwb i ragolygon gyrfa

02/04/24 

Mae cofrestru ar agor ar gyfer cyrsiau dysgu oedolion sy'n dechrau yn ddiweddarach y mis hwn. 

Mae Addysg Oedolion Caerdydd yn darparu cyrsiau sy'n addas ar gyfer dysgwyr o bob gallu yng Nghaerdydd ac ar hyn o bryd mae'n cynnig amrywiaeth eang o hyfforddiant galwedigaethol a chymorth digidol a all helpu unigolion i wella eu rhagolygon cyflogaeth. 

Mae cyrsiau tymor yr Haf yn dechrau o 15 Ebrill ac mae cofrestru ar gyfer cyrsiau fel Diogelwch Bwyd, Cymorth Cyntaf, hyfforddiant yn gysylltiedig ag Iechyd a Diogelwch, hyfforddiant rhifedd amrywiol, Gofal Plant a llawer mwy yn ar agor nawr. 

Mae cyrsiau am ddim i ddysgwyr cymwys ac maent wedi'u cynllunio i helpu pobl i gymryd eu camau cyntaf yn ôl i ddysgu, cymryd rhan mewn hyfforddiant pellach neu gael mynediad at gyfleoedd cyflogaeth. 

Mae'r gwasanaeth hefyd yn cynnig cymorth digidol i drigolion Caerdydd, gan gynnwys cyflwyniadau i sgiliau cyfrifiadurol sylfaenol i'r rhai sydd am uwchsgilio i gael swydd, neu i unrhyw un sydd am fynd i'r afael â'r dechnoleg ddiweddaraf.

Cynhelir y cyrsiau mewn canolfannau ac adeiladau cymunedol ledled y ddinas. 

Dywedodd llefarydd ar ran y Cyngor: "Mae Dysgu Oedolion Caerdydd yn helpu dysgwyr i ennill sgiliau newydd, neu well eu sgiliau presennol i wella eu cyflogadwyedd.  Rydym hefyd yn cynnig cymorth digidol, gyda'r nod o wella sgiliau'r preswylwyr a chael mynediad at bopeth digidol. 

"Mae'n adeg wych i ddechrau dysgu felly rydym yn annog pobl i edrych ar yr hyn sydd ar gael a chofrestru i ddysgu gyda'r cyfleoedd hyblyg sydd ar gael." 

Mae gwybodaeth am gyrsiau a sut i gofrestru ar gael yn www.dysguioedolioncaerdydd.co.uk/cy 

Gall unrhyw un a hoffai gael rhagor o wybodaeth gysylltu â'r tîm hefyd. ar 029 2087 2030. 

Mae cymorthfeydd digidol galw heibio am ddim yn cael eu cynnal ar hyd a lled y ddinas drwy gydol yr wythnos, yn cynnig help gydag unrhyw anghenion hyfforddi digidol, cymorth dyfeisiau digidol ac ymholiadau digidol. Ewch i https://www.adultlearningcardiff.co.uk/cy/cymorth-digidol/i weld yr amserlen gymorth.