Back
Rhaid i drigolion ddod â phrawf adnabod â llun wrth bleidleisio ym mis Mai


9/4/24

Bydd angen i drigolion Caerdydd ddangos prawf adnabod ffotograffig i bleidleisio yn etholiad Comisiynydd Heddlu a Throseddu ar 2 Mai.

Mae trigolion yn cael eu hannog i sicrhau eu bod yn barod i bleidleisio drwy wirio bod ganddynt ffurflen adnabod dderbyniol, sy'n cynnwys trwydded pasbort neu drwydded yrru'r DU, Ardal Economaidd Ewropeaidd (AEE) neu'r Gymanwlad; a rhai tocynnau teithio rhatach, fel cerdyn bws i berson hŷn. Bydd pleidleiswyr yn cael defnyddio prawf adnabod sydd wedi dod i ben os ydy hi'n dal i fod yn bosibl adnabod yr unigolyn o'r llun.  Dyma restr lawn o'r mathau o brawf adnabod a dderbynnir: https://www.cardiff.gov.uk/CYM/Eich-Cyngor/Pleidleisio-ac-etholiadau/Ddeddf-Etholiadau-2022/Pages/default.aspx

Bydd unrhyw un nad oes ganddo un o'r ffurfiau adnabod derbyniol yn gallu gwneud cais am brawf adnabod am ddim ar-lein yn https://www.gov.uk/ceisio-am-lun-id-tystysgrif-awdurdod-pleidleiswyr  neu drwy lenwi ffurflen bapur. Y dyddiad cau i wneud cais yw Ebrill 24.

Dywedodd Paul Orders, Swyddog Canlyniadau Caerdydd:  "Gydag etholiadau'n cael eu cynnal yng Nghaerdydd ar 2 Mai, mae'n bwysig bod y rhai sydd am bleidleisio mewn gorsaf bleidleisio yn sicrhau bod ganddynt ffurflen adnabod dderbyniol, ac os na wnânt, dylent wneud cais am Dystysgrif Awdurdod Pleidleiswyr am ddim.  Gall unrhyw un sydd angen help i wneud cais am y prawf adnabod am ddim neu sydd am ofyn am ffurflen gais, e-bostio gwasanaethauetholiadol@caerdydd.gov.uk

"Mae'n rhaid i fanylion am brawf adnabod llun pleidleisiwr fod yr un fath â'r wybodaeth sydd gennym amdanyn nhw ar y gofrestr etholiadol, felly os oes unrhyw un wedi newid ei enw, neu wedi symud tŷ yn ddiweddar, rydym yn eu hannog i ddiweddaru eu manylion ar y gofrestr cyn y dyddiad cau ar 16 Ebrill i sicrhau y gallant fwrw eu pleidlais mewn gorsaf bleidleisio ar 2 Mai."

I wneud cais am Dystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr (TAP), rhaid i breswylwyr gofrestru i bleidleisio yn gyntaf. Mae cofrestru yn gyflym ac yn hawdd ac mae modd ei wneud yma www.gov.uk/cofrestru-i-bleidleisio. Y dyddiad cau ar gyfer cofrestru i bleidleisio yn etholiad y Comisiynydd yw hanner nos ar 16 Ebrill.

Rhaid i bleidleiswyr a hoffai bleidleisio drwy'r post yn etholiad mis Mai wneud cais erbyn 5pm ar 17 Ebrill. Rhaid i unrhyw un sydd am bleidleisio drwy ddirprwy wneud cais erbyn 5pm ar 24 Ebrill.

Yn ogystal â sicrhau bod eu prawf adnabod â llun yn dderbyniol, a chofio mynd ag ef i'r orsaf bleidleisio ar ddiwrnod yr etholiad, atgoffir pleidleiswyr yng Nghaerdydd i wirio manylion eu gorsaf bleidleisio gan fod nifer fach o leoliadau wedi newid ers yr etholiad diwethaf, yn dilyn adolygiad diweddar. Gall preswylwyr hefyd wirio eu gorsaf bleidleisio yma:

https://www.cardiff.gov.uk/CYM/Eich-Cyngor/Pleidleisio-ac-etholiadau/Dod-o-hyd-ich-gorsaf-bleidleisio-agosaf/Pages/default.aspx 

Mae'r Cyngor wedi bod yn gweithio'n galed i sicrhau bod pleidleisio ac etholiadau yn hygyrch i bob dinesydd sy'n gymwys i bleidleisio yn y ddinas, ac mae hyn yn cynnwys cefnogi pleidleiswyr ag anableddau dysgu ac awtistiaeth i ymgysylltu â'r broses ddemocrataidd.  Mae fideo byr wedi'i chynhyrchu i helpu pleidleiswyr sydd angen cymorth i ddod yn gyfarwydd â'r hyn sy'n digwydd mewn gorsaf bleidleisio. Gwyliwch yma: https://youtu.be/kNfNxGSF5zs

 

Ar ddiwrnod yr etholiad, Bydd ystod o ddyfeisiau ar gael mewn gorsafoedd pleidleisio i gynorthwyo pleidleiswyr sydd angen cymorth. Mae'r rhain yn cynnwys dyfeisiau pleidleisio botymog, chwyddwydrau mawr, enghreifftiau o bapurau pleidleisio mawr, seddi, teclynnau gafael mewn pensil, pensiliau trionglog trwchus, dolenni sain, goleuo ychwanegol, Sut i bleidleisio mewn fformat hawdd ei ddarllen a chardiau gwybodaeth gorsafoedd pleidleisio.

Mae'r cardiau gwybodaeth gorsafoedd pleidleisio ar gyfer pleidleiswyr a allai fod yn well ganddynt nodi cymorth y gallai fod ei angen arnynt ar bapur yn yr orsaf bleidleisio, yn hytrach na siarad ag aelod o staff. Bydd y cardiau hefyd ar gael yn https://www.cardiff.gov.uk/CYM/Eich-Cyngor/Pleidleisio-ac-etholiadau/pleidleisio-hygyrch/Pages/default.aspx  i bleidleiswyr eu lawrlwytho a chwblhau cyn eu hymweliad â'r orsaf bleidleisio os yw'n well ganddynt. Yna gellir rhoi'r rhain i staff ar y diwrnod.