Back
Ansawdd ailgylchu Caerdydd yn gwella’n sylweddol oherwydd y cynllun ailgylchu newydd
 12/04/24

 Mae’r cam diweddaraf yn y gwaith o gyflwyno’r cynllun ailgylchu 'sachau didoli', i 37,000 eiddo ledled Caerdydd, wedi arwain at welliant sylweddol yn ansawdd yr ailgylchu a gesglir o gartrefi preswylwyr, gall Cyngor Caerdydd ddatgelu.

Wedi i’r cynllun fod ar waith am chwe wythnos mae ffigyrau ailgylchu diweddaraf y cyngor ar gyfer ailgylchu cartrefi yn dangos y gellir ailgylchu tua 92% o'r gwastraff sy'n cael ei gasglu o gartrefi preswylwyr drwy'r system newydd. O dan y cynllun casglu bagiau gwyrdd cymysg dim ond 70% o'r deunydd a gesglir sy'n gallu cael ei ailgylchu, drwy ein prosesau mewnol.

Mae cam diweddaraf y gwaith o gyflwyno’r cynllun newydd yn cynhyrchu ffigurau tebyg i'r prosiect peilot a gynhaliwyd y llynedd yn dangos gwerth amlwg y cynllun o ran gwella ansawdd yr ailgylchu a gasglwyd.

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Caerdydd: "Mae'r ffigurau rydyn ni'n eu gweld yn gwneud gwahaniaeth mawr ac rydyn ni am achub ar y cyfle hwn i ddiolch i drigolion am ymuno â'r cynllun ac addasu iddo mor gyflym.  Mae'r ffigurau ar hyn o bryd yn dangos gwelliant sylweddol a pharhaus o'i gymharu â'r system casglu ailgylchu cymysg mewn bagiau gwyrdd. 

"Mae'r trigolion yn gwneud gwaith gwych. Mae gwahanu deunyddiau ailgylchu i ffrydiau gwahanol yn arwain at lai o halogi. Mae 30% o'r hyn rydyn ni'n ei gasglu yn y bagiau cymysg plastig gwyrdd yn ddeunyddiau nad oes modd eu hailgylchu.  Mewn llawer o achosion byddai'r bagiau hynny'n cynnwys gwastraff bwyd neu gewynnau budr ymhlith pethau eraill, gan achosi niwsans i'n staff, a chostio rhagor o arian i'r cyngor i losgi'r gwastraff nad oedd modd ei ailgylchu, a chreu problemau gydag anifeiliaid ac adar yn torri bagiau’n agored ar y stryd. Mae'r system newydd yn ei gwneud hi'n anoddach i anifeiliaid ac adar dorri'r sachau ar agor, ond mae'r ffaith eu bod yn cynnwys llai o wastraff bwyd nag roedden ni’n ei weld mewn bagiau gwyrdd hefyd yn helpu i ddatrys y broblem hon. Mae'r cynllun yn gweithio a bydd yn ein helpu i ddod yn agosach at gyrraedd  targedau ailgylchu Llywodraeth Cymrua bydd yn lleihau'r effeithiau amgylcheddol sy'n gysylltiedig ag allyriadau carbon cynhyrchu deunyddiau crai newydd.

Y cynllun ailgylchu 'sachau didoli' newydd yw'r ffordd mai Llywodraeth Cymru yn ei ffafrio i awdurdodau lleol gasglu deunyddiau ailgylchu o gartrefi preswylwyr. Fe'i cynlluniwyd i wella ansawdd ailgylchu'r ddinas a chyrraedd y targedau ailgylchu a chompostio heriol sydd wedi’u gosod yn gyfreithiol.

Rhaid i gyfradd ailgylchu a chompostio Caerdydd gyrraedd 70% erbyn 2025, a sero gwastraff erbyn 2050, targedau a amlinellir yn Strategaeth Tuag at Ddyfodol Diwastraff Llywodraeth Cymru.  62% yw'r gyfradd ailgylchu - yn cynnwys pob ffrwd wastraff - yng Nghaerdydd ar hyn o bryd.

Mae 47,000 eiddo yng Nghaerdydd bellach yn defnyddio'r gwasanaeth newydd hwn (roedd 10,000 yn rhan o’r cynllun peilot y llynedd), ac mae cynlluniau ar waith i gyflwyno'r cynllun ledled Caerdydd yn 2024 i o leiaf 80,000 o gartrefi. Bydd y rhai sy'n byw mewn fflatiau yn derbyn sachau llai, yn rhan o'r cynllun, er mwyn iddo fod yn haws ei reoli mewn cartrefi llai. Nid yw casgliadau o fflatiau sy'n defnyddio biniau cymunedol yn newid.

O dan y cynllun newydd, mae preswylwyr yn cael y canlynol:

·       Cadi glas ar gyfer poteli a jariau gwydr, 

·       Sach goch ar gyfer metel, tun, erosolau, poteli, potiau a thybiau plastig, a phecynnau tetra, a

·       Sach las ar gyfer papur a chardfwrdd. 

Gall preswylwyr gael nifer o sachau i ailgylchu eu gwastraff, gan nad oes cyfyngiad ar faint o ailgylchu y gall preswylwyr ei gyflwyno.  Cafodd sachau eu dewis yn hytrach na blychau plastig - sy'n cael eu defnyddio mewn rhai rhannau o Gymru - i gydnabod bod llawer o gartrefi Caerdydd heb ardd, felly gall y sachau gael eu plygu’n fach pan nad ydynt yn cael eu defnyddio.  Maen nhw hefyd yn haws i drigolion a chriwiau gwastraff eu codi.  Mae pwysau ychwanegol wedi'i ychwanegu i leihau'r risg y bydd sachau yn cael eu chwythu i ffwrdd gan y gwynt, ond gellir archebu sachau newydd trwy'r Ap, neu eu casglu mewn rhai Hybiau.

I gasglu'r ‘sachau didoli’, mae cerbydau gwastraff newydd yn cael eu defnyddio sydd â dwy siambr ar wahân yng nghefn y cerbyd. Mae'r ailgylchu o'r sach las yn mynd i un ochr i'r cerbyd ac mae'r ailgylchu o'r sach goch yn mynd i'r llall.  Mae cerbyd ar wahân yn cael ei ddefnyddio i gasglu'r jariau a'r poteli gwydr. 

Bu adegau pan ddefnyddiwyd cerbydau gwastraff cyffredinol i gasglu'r ffrydiau hyn gyda’i gilydd. Roedd hyn yn digwydd pan fu problemau gyda cherbydau newydd - os nad oedden nhw’n gweithio, er enghraifft.  Fodd bynnag, rydyn ni am sicrhau preswylwyr nad yw hyn yn cael effaith sylweddol ar yr ailgylchu a gesglir, ac mae dau reswm dros hyn:

1.  Mae trigolion eisoes wedi sicrhau bod y deunyddiau sy’n cael eu casglu o ansawdd uchel ac nad yw'r deunydd a gesglir mewn sachau/biniau poteli’n yn cael ei gymysgu à deunyddiau bagiau gwyrdd.

2.  Mae’r deunyddiau’n mynd i Gyfleuster Ailgylchu Deunyddiau'r cyngor yn Ffordd Lamby, sy'n gwahanu'r deunydd yn ôl maint a phwysau, gan ddarparu'r un deunyddiau ailgylchadwy o ansawdd â'r rhai a fyddai wedi'u casglu yn y cerbydau siambr deublyg.

Mae'r cyngor wrthi'n prynu mwy o'r cerbydau hyn wrth i'r gwaith cyflwyno fynd yn ei flaen.