Back
'Dim torri’r gwair' tan fis Medi mewn 33 safle newydd ledled Caerdydd i gefnogi natur

16.4.24

 

Mae disgwyl i drefniadau torri gwair 'un toriad', sy'n gyfeillgar i natur, lle nad yw'r gwair yn cael ei dorri tan fis Medi, gael eu cyflwyno mewn 33 o safleoedd newydd yng Nghaerdydd eleni.

Mae'r safleoedd newydd, sy'n cwmpasu tua 8 hectar o barcdir a lleiniau ymyl priffyrdd, yn golygu y bydd cyfanswm o 122.24 hectar o dir - sy'n cyfateb i 272 o gaeau pêl-droed - mewn 144 o safleoedd gwahanol yn cael eu rheoli er budd natur, gan gynnwys peillwyr pwysig fel gwenyn a gloÿnnod byw y mae ein cadwyni bwyd yn dibynnu arnynt.

A path through a grassy fieldDescription automatically generated

Man agored Silver Birch Close - un o ardaloedd 'dim torri'r gwair' Caerdydd, yn haf 2023.

 

Mae newid i 'un toriad' y flwyddyn wedi arwain at enillion sylweddol i fioamrywiaeth o'i gymharu ag ardaloedd eraill yng Nghaerdydd lle mae'r gwair yn cael ei dorri'n amlach.

Dangosodd gwaith monitro bioamrywiaeth a wnaed yng Nghaerdydd, gyda chymorth gwirfoddolwyr o Bartneriaeth Natur Leol Caerdydd, fod 89% o safleoedd 'dim torri'r gwair' a arolygwyd yn gartref i fwy nag 11 o rywogaethau gwahanol, o'i gymharu â dim ond 11% o ardaloedd lle'r oedd y gwair yn cael ei dorri'n amlach.

Dywedodd llefarydd ar ran y Cyngor: "Mae'r effaith gadarnhaol mae'r safleoedd 'un toriad' hyn yn ei chael ar natur yn amlwg, a dyna pam mae swm y tir sy'n eiddo i'r cyngor sy'n cael ei reoli fel hyn wedi cynyddu bob blwyddyn ers i argyfwng natur gael ei ddatgan yng Nghaerdydd ddiwedd 2021."

Dangosodd yr arolygon bioamrywiaeth fod ardaloedd lle roedd gwair yn arfer cael ei dorri'n amlach, ac ond yn gartref i rygwellt parhaol, blodau menyn, llygaid y dydd a dant y llew bryd hynny, wedi ffynnu ers symud i 'un toriad' y flwyddyn.  Bellach mae amrywiaeth eang o rywogaethau i'w gweld ar y safleoedd hyn, gan gynnwys meillion coch, blodau'r llefrith, barfau'r bwch, cnau'r ddaear, pys y ceirw, yn ogystal â ffwng capiau cwyr.