Back
Y newyddion gennym ni - 23/09/24

Image

20/09/24 - Cynnig Setliad i Gyngor Caerdydd mewn Anghydfod Treth Dirlenwi gyda CThEF

Mae Cyngor Caerdydd wedi dod i gytundeb mewn egwyddor gyda CThEF i setlo anghydfod treth yn ymwneud â phridd a deunydd a ddygwyd i hen safle tirlenwi Ffordd Lamby rhwng naw a saith mlynedd yn ôl i gyfuchlinio a chapio'r safle.

Darllenwch fwy yma

 

Image

20/09/24 - Rhagor o gynlluniau ar gyfer rhagor o gartrefi

Mae cynlluniau ar gyfer 280 o dai cyngor newydd eraill i'r ddinas, i helpu i leddfu'r pwysau tai eithafol sy'n wynebu'r Cyngor, wedi cael eu cyhoeddi heddiw.

Darllenwch fwy yma

 

Image

20/09/24 - Campws Cymunedol y Tyllgoed - Datganiad gan Gyngor Caerdydd

Mae Cyngor Caerdydd wedi cael gwybod bod ISG Construction Ltd, prif gontractwr prosiect Campws Cymunedol y Tyllgoed, wedi gwneud cais i fynd i ddwylo'r gweinyddwyr.

Darllenwch fwy yma

 

Image

19/09/24 - Yn fwy grymus, iach a hapus: Cynllun Gweithredu Caerdydd sy'n Dda i Bobl Hŷn 2024-2028

Mae ymrwymiad o'r newydd i wneud Caerdydd yn lle gwych i heneiddio wrth wraidd cynllun gweithredu drafft newydd.

Darllenwch fwy yma

 

Image

19/09/24 - Canmoliaeth i Ysgol Gynradd Kitchener gan Estyn am ethos cynhwysol a chymuned dysgu gref

Mae Ysgol Gynradd Kitchener yn Nhreganna wedi cael ei chanmol gan Estyn am ei hamgylchedd cynhwysol a chroesawgar, sy'n meithrin diwylliant o barch, cyfrifoldeb ac empathi ymhlith ei chorff amrywiol o fyfyrwyr.

Darllenwch fwy yma

 

Image

19/09/24 - Estyn yn cymeradwyo Ffederasiwn yr Enfys am arweinyddiaeth gref a chydweithio effeithiol

Mae Ysgolion Cynradd Glan-yr-Afon a Bryn Hafod yn Llanrhymni wedi cael eu canmol gan Estyn am eu harweinyddiaeth gref, eu cydweithio effeithiol, a'u heffaith gadarnhaol ar les a dysgu disgyblion drwy bartneriaeth Ffederasiwn yr Enfys.

Darllenwch fwy yma

 

Image

18/09/24 - Pino Palladino (a chyfeillion) i chwarae yng Ngŵyl Dinas Gerdd Caerdydd

Mae Pino Palladino, un o chwaraewyr bas enwocaf y byd, wedi perfformio ar dros 1,000 o recordiadau gan artistiaid yn cynnwys Adele, The Who, D'Angelo, Ed Sheeran, Nine Inch Nails, Eric Clapton, Gary Numan, B.B. King, Bryan Ferry ac eraill.

Darllenwch fwy yma

 

Image

18/09/24 - Ysgol Bro Eirwg yn derbyn canmoliaeth am arweinyddiaeth gref ac amgylchedd dysgu cyfoethog yn arolwg diweddaraf Estyn

Mae Ysgol Bro Eirwg, ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg yn Nhredelerch, wedi cael canmoliaeth uchel gan Estyn, Arolygiaeth Ei Fawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru, yn ei hadroddiad arolygu diweddaraf.

Darllenwch fwy yma

 

Image

18/09/24 - Contract wedi'i ddyfarnu ar gyfer adeiladu Ysgol Uwchradd Willows newydd

Gall Cyngor Caerdydd gyhoeddi bod y contract i gyflawni'r prif waith adeiladu ar Ysgol Uwchradd Willows wedi'i ddyfarnu i Morgan Sindall Construction.

Darllenwch fwy yma

 

Image

17/09/24 - Seremoni Gosod y Garreg Gopa Campws Cymunedol y Tyllgoed

Mae Campws Cymunedol newydd sbon y Tyllgoed wedi gosod y garreg gopa, wrth i'r gwaith adeiladu gyrraedd y pwynt uchaf yn y campws addysg arloesol gwerth £110m yn y Tyllgoed.

Darllenwch fwy yma

 

Image

17/09/24 - Ysgol Pen y Pîl; yn ymrwymedig at ddarparu addysg o ansawdd uchel a meithrin ymdeimlad cryf o gymuned meddai Estyn

Mae Ysgol Pen y Pîl, ysgol gynradd Gymraeg yn Trowbridge, wedi cael ei chydnabod am ei hymrwymiad i ddarparu addysg o ansawdd uchel ac am feithrin ymdeimlad cryf o gymuned, yn dilyn arolygiad diweddar gan Estyn, Arolygiaeth Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru.

Darllenwch fwy yma

 

Image

12/09/24 - Ysgol Gymraeg Melin Gruffydd; ysgol gynradd fywiog a chynhwysol meddai Estyn

Mae Estyn, Arolygiaeth Addysg Cymru, wedi rhyddhau ei adroddiad arolygu diweddaraf ar Ysgol Gymraeg Melin Gruffydd, ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg wedi'i lleoli yn yr Eglwys Newydd.

Darllenwch fwy yma

 

Image

10/09/24 - Adroddiad Estyn yn amlygu llwyddiant Ysgol Arbennig y Court

Mae Ysgol Arbennig y Court yn Llanisien wedi cael ei chanmol gan Estyn, arolygiaeth addysg Cymru, am ei hamgylchedd dysgu meithringar a chynhwysol, gan ganmol staff am eu hymroddiad a'u hymrwymiad i les myfyrwyr.

Darllenwch fwy yma