22/11/2024
Mae hawliau plant yn brif flaenoriaeth yng Nghaerdydd a'r llynedd aethom i'r llyfrau hanes fel y Ddinas sy'n Dda i Blant UNICEF gyntaf yn y DU.
Cawson ni hyd yn oed ddiolch gan seren Hollywood, Olivia Colman i brofi hynny!
Mae Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn yn dweud bod pob plentyn yn haeddu addysg. Ond rydym am fynd y tu hwnt i ddim ond 'addysg' - ein cenhadaeth yw sicrhau bod pob plentyn yn #Caerdydd yn cael addysg wych.
Ein nod? Sicrhau y caiff pob plentyn a pherson ifanc yng Nghaerdydd addysgu o'r radd flaenaf, mewn amgylchedd diogel, cynhwysol ac ysgogol. Ni waeth o ble mae'n dod, mae pob plentyn yn haeddu'r cyfle i ddisgleirio. 🌟
Ac rydym yn rhoi ein harian ar ein gair - yn y 10 mlynedd diwethaf rydym wedi gwario mwy na £460m ar ein hysgolion, er mwyn i blant #Caerdydd gael y cyfleoedd gorau posib i ddysgu a thyfu. 💰
Beth mae'r math hwn o fuddsoddiad yn ei sicrhau i chi? 3 ysgol uwchradd newydd sbon a 7 ysgol gynradd newydd! Hefyd, rydym wedi adnewyddu llawer o ysgolion eraill. Sôn am newydd wedd!
Rydym hefyd wedi mynd i'r afael â'r ysgolion categori D neu ddiwedd oes nad oedd yn bosibl eu hatgyweirio. Rydym wedi disodli'r rhan fwyaf ohonynt, ac rydym yn gweithio ar y gweddill.
👷♀️
Mewn gwirionedd, mae dros £65 miliwn wedi'i wario fel rhan o'n rhaglen adnewyddu asedau, gan fuddsoddi yn ein hadeiladau ysgol presennol fel eu bod yn addas at y diben, fel yn achos Ysgol Gynradd Moorland, sydd newydd agor darpariaeth blynyddoedd cynnar a CAA newydd yn ogystal â thoeon newydd fel hwn yn Ysgol Gynradd Stacey.
Ac rydym wedi rhoi hwb i nifer y lleoedd i blant ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY). Rydym wedi cynyddu nifer y lleoedd mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg a Saesneg oherwydd bod pob plentyn yn haeddu cael ei gynnwys.
Mae gennym hyd yn oed ddatblygwyr yn adeiladu ysgolion newydd fel rhan o'r gofynion a nodir yn ein Cynllun Datblygu Lleol. Drwy ddefnyddio'r CDLl fel hyn, mae Ysgol Gynradd Yr Eglwys yng Nghymru Llaneirwg ac Ysgol Gynradd Groes-wen wedi agor. Mae llawer mwy o adeiladau ysgol i ddod!
Yn syml? Rydym yn gweithio'n galed i sicrhau bod pob ysgol Caerdydd yn ysgol dda. Ac mae Estyn (yr arolygiaeth ysgolion) yn cytuno - mae mwy o ysgolion Caerdydd yn gwneud yn wych nag erioed o'r blaen.💯
Mae ein hysgolion yn meistroli'r arholiadau Safon Uwch a TGAU. Mae'r canlyniadau'n siarad drostynt eu hunain.
Sut rydym yn ei wneud? Gyda thîm anhygoel o lywodraethwyr, penaethiaid, athrawon, staff cymorth addysgu, ac, wrth gwrs, ein myfyrwyr gwych. Mae'n ymdrech tîm, ac mae'r canlyniadau'n anhygoel. 🙌
Ond nid yw popeth yn berffaith. Rydym yn wynebu heriau newydd, fel yr angen am hyd yn oed mwy o leoedd ADY a gostyngiad a ragwelir yn nifer y disgyblion a allai effeithio ar gyllid ysgolion.
A rhaid i ni gofio'r toriadau cyllidebol. Mae cyllidebau llywodraeth leol yn cael eu cyfyngu, sy'n golygu bod angen i ni fod yn greadigol i gadw'r gwaith da i fynd.
Dyna pam rydym yn cyflwyno strategaeth addysg newydd. Rydym yn mapio cyfeiriad am y naw mlynedd nesaf i sicrhau bod gan Gaerdydd y cyfleoedd addysgol gorau, ni waeth pa heriau a ddaw.
Mae ein nod yn syml: sicrhau bod pob plentyn yng Nghaerdydd yn cael y dechrau gorau posibl mewn bywyd. Byddwn yn parhau i weithio'n galed i wneud i hyn ddigwydd. Gan mai ein plant yw'r dyfodol a phan fyddant yn ennill, byddwn i gyd yn ennill. 🏆
Sut? Wel, mae'r strategaeth yn blaenoriaethu addysg gynhwysol, wedi'i llunio gan hanes balch Caerdydd o amrywiaeth, gan gynnwys ein plant a'n pobl ifanc. Rydym eisiau dysgu o ansawdd uchel i'n holl fyfyrwyr.
Beth arall? Trwy ddylunio ysgolion arloesol a chwricwlwm gwych (Cwricwlwm i Gymru), gallwn rymuso addysg, gan roi'r sgiliau sydd eu hangen ar ein myfyrwyr i fynd i fyd gwaith.
Beth arall? Creu ysgolion mwy agored, i sicrhau bod y buddsoddiad rydym yn ei wneud nid yn unig o fudd i'r plant a'r bobl ifanc, ond hefyd i'r cymunedau y mae ein hysgolion yn eu gwasanaethu
Beth arall? Canolbwyntio ein buddsoddiad mewn adeiladau ysgol newydd a phresennol, gan gefnogi plant agored i niwed o'r blynyddoedd cynnar trwy addysg uwch ac i'r gweithlu.
Mae gennym fwy i'w ddweud am yr hyn a wnawn, ond rydym wedi eich cadw'n ddigon hir. Ond, mae addysg yn bwysig i bawb, felly os hoffech gael gwybod mwy, rydym wedi creu'r erthygl hon Datgelu strategaeth buddsoddi addysg newydd i ysgolion Caerdydd (newyddioncaerdydd.co.uk)
ac os ydych chi eisiau mwy o fanylion dyma'r strategaeth ei hun CARDIFF COUNCIL (moderngov.co.uk)